Skip to main content

TermCymru

5 results
Results are displayed by relevance.
Welsh: dwys-fyddar
Status B
Subject: Health
Part of speech: Adjective
Definition: Nam difrifol ar y clyw, sydd fel arfer yn golygu na ellir clywed synau is na 80-95dB yn y glust dda.
Last Updated: 17 September 2020
Welsh: amhariad dwys ar y clyw
Status B
Subject: Health
Part of speech: Noun, Masculine, Singular
Notes: Gweler yr erthygl ar y Model Cymdeithasol o Anabledd yn yr Arddulliadur. Yn unol â'r Model, mae amhariad ("impairment", a elwid yn "nam" o'r blaen) yn nodwedd ar berson, a all effeithio ar ei ymddangosiad neu ar sut y mae ei gorff neu ei feddwl yn gweithio; caiff pobl anabl (y gellir hefyd cyfeirio atynt fel "pobl anabledig" neu "bobl sy'n cael eu hanablu") eu hanablu gan ffactorau allanol fel yr amgylchedd, polisi neu arferion, neu yn sgil methiant i ddarparu addasiadau ar eu cyfer; ac anabledd yw canlyniad anablu pobl sydd ag amhariadau.
Last Updated: 8 November 2023
Welsh: anawsterau dysgu dwys
Status B
Subject: Education
Part of speech: Noun, Plural
Last Updated: 19 October 2005
Welsh: anawsterau dysgu dwys a lluosog
Status A
Subject: Health
Part of speech: Noun, Plural
Definition: Cyflwr o anhawster dysgu difrifol ar y cyd ag anawsterau eraill o ran iechyd sy'n effeithio'n sylweddol ar allu person i gyfathrebu a bod yn annibynnol.
Context: Mae deunyddiau Ar Drywydd Dysgu yn helpu ymarferwyr yn y gwaith o asesu sgiliau cyfathrebu a sgiliau gwybyddol cynnar dysgwyr ag anawsterau dysgu dwys a lluosog.
Notes: Defnyddir yr acronym PMLD yn Saesneg. Mae'r term Saesneg hwn yn gyfystyr â 'profound and multiple learning disabilities' ond 'profound and multiple learning difficulties' yw'r term a ffefrir gan Lywodraeth Cymru.
Last Updated: 9 January 2020
Welsh: anabledd dysgu dwys a lluosog
Status A
Subject: Health
Part of speech: Noun, Masculine, Singular
Plural: anableddau dysgu dwys a lluosog
Notes: Defnyddir yr acronym PMLD yn Saesneg. Mae'r term Saesneg hwn yn gyfystyr â 'profound and multiple learning difficulties' a hwnnw yw'r term a ffefrir gan Lywodraeth Cymru. Gweler y cofnod am 'profound and multiple learning difficulties' am ddiffiniad. Gweler yr erthygl ar y Model Cymdeithasol o Anabledd yn yr Arddulliadur. Nid yw’r defnydd o “anabledd” yn y term cyffredin “anabledd dysgu” yn gyson â’r Model Cymdeithasol, gan ei fod yn cyfeirio at amhariad yn hytrach nag at rwystrau sy’n anablu pobl. Fodd bynnag mae Llywodraeth Cymru’n derbyn mai dyma’r eirfa sy’n arferol ym maes anabledd dysgu, ac a ffefrir gan sefydliadau cynrychioladol yn y maes ar hyn o bryd, felly fe’i defnyddir gan Lywodraeth Cymru. Adolygir hyn yn gyson. 
Last Updated: 24 November 2023