Welsh Language Partnership Council meeting: 17 March 2025
Minutes of a meeting of the Welsh Language Partnership Council on 17 March 2025.
This file may not be fully accessible.
In this page
Cofnod
Yn bresennol
Mark Drakeford AS: Ysgrifenydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
Dafydd Hughes: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Manon Cadwaladr: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Meleri Light: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Angharad Mai Roberts: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Rhian Huws Williams: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Tegryn Jones: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Owain Wyn: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Bethan Webb: Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru
Aelodau staff Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi, Llywodraeth Cymru: Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi, Llywodraeth Cymru
Ysgrifenyddiaeth: Is-adran Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru
Swyddogion Is-adran Cymraeg 2050 yn arsylwi: Is-adran Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru
Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones: Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Dr Richard Glyn Roberts: Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Ymddiheuriadau
Dyfed Edwards: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Samuel Williams: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Lowri Morgans: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Savanna Jones: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Anwen Davies: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Enlli Thomas: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Rosemary Jones: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Croeso gan Ddirprwy Gyfarwyddwr Is-adran Cymraeg 2050
Eitem 1: croeso
Croesawyd pawb i'r cyfarfod gan Bethan Webb, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Cymraeg 2050.
Cafwyd diweddariad gan Bethan am uchafbwyntiau Cymraeg 2050 yn ystod y misoedd diwethaf gan gynnwys Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru), trochi hwyr, gwaith y Comisiwn Cymunedau Cymraeg a dathlu dwy flynedd o wersi Cymraeg am ddim i bobl ifanc 16 i 25 oed a’r gweithlu addysg.
Eitem 2: materion perthnasol yr aelodau
Cafodd nifer o’r aelodau gyfle i godi unrhyw faterion perthnasol yr oeddynt am eu trafod, gan gynnwys AI a’r Gymraeg, y lefi twristiaeth, cynlluniau datblygu lleol, a’r toriadau ariannol ym Mhrifysgolion Cymru. Dyma rhai o’r prif bwyntiau:
- Nodwyd pwysigrwydd casglu lleisiau pobl o wahanol ardaloedd a chefndiroedd wrth ariannu technoleg Cymraeg yn y dyfodol.
- Trafodwyd pwysigrwydd ystyried anghenion cefn gwlad wrth ddatblygu polisïau gyda’r Awdurdodau Lleol.
- Nodwyd pwysigrwydd craffu ar gynlluniau datblygu lleol, a’r effaith y caiff y cynlluniau hyn ar y Gymraeg.
Cam gweithredu 1
Swyddogion Cymraeg 2050 i sicrhau bod lleisiau pobl o wahanol ardaloedd a chefndiroedd yn cael eu casglu wrth ariannu prosiectau technoleg Cymraeg yn y dyfodol.
Eitem 3: data diweddaraf yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth
Cafwyd cyflwyniad ar ddata diweddaraf yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth gan swyddog o adran Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru. Cododd y pwyntiau isod fel rhan o’r drafodaeth ddilynol:
- Trafodwyd y diffyg data llawn sydd ar gael am sgiliau'r Gymraeg y tu allan i Gymru.
- Holwyd am ddiweddariad ar y gwaith ymchwil i graffu ar wahaniaethau rhwng data’r cyfrifiad ac arolygon eraill am y Gymraeg a chytunwyd i rannu Arolwg Data Llywodraeth Cymru gyda’r aelodau.
- Trafodwyd y posibiliadau gwahanol o gofnodi data am y Gymraeg pe na bai cyfrifiad yn y dyfodol.
- Nodwyd pwysigrwydd data ar fudoledd lleol.
Cam gweithredu 2
Ysgrifenyddiaeth i rannu ddata diweddaraf yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth gyda’r Cyngor.
Cam gweithredu 3
Ysgrifenyddiaeth i rannu QR at yr Arolwg defnyddwyr gyda’r aelodau er mwyn iddyn nhw ymateb i’r arolwg a’i rannu gydag eraill a allai fod â diddordeb.
Eitem 4: diweddariad ar Raglen Waith yr ail Gomisiwn Cymunedau Cymraeg
Cafwyd cyflwyniad ar Raglen Waith yr ail Gomisiwn Cymunedau Cymraeg gan swyddog o Is-adran Cymraeg 2050.
[Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg yn ymuno â’r cyfarfod ac yn cymryd y gadair.]
Eitem 5: gair o Groeso gan Ysgrifennydd y Cabinet
Estynnwyd croeso cynnes i bawb gan Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg.
Eitem 6: diweddariad ar Brosiect BRO (Astudiaeth Sosio-ieithyddol o Gymunedau Cymraeg Dwysedd Uwch) a sesiwn drafod
Cafwyd diweddariad ar Brosiect BRO gan yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones a Dr Richard Glyn Roberts o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Cychwynnodd y gwaith yn mis Medi 2023. Rhannwyd rhai canfyddiadau cynnar.
Trafodwyd y canlynol ar sail y cyflwyniad:
- Y rôl gefnogol y mae’r mentrau iaith wedi ei chwarae yn yr ardaloedd dan sylw.
- Bod angen mwy o waith dadansoddi o’r gwahanol ddosbarthiadau cymdeithasol a proffiliau oedran, yn enwedig defnydd a rhwydweithiau iaith plant a phobl ifanc.
- Bod angen cymharu eu sampl gyda rhai o gategorïau (proffil oedran) y cyfrifiad.
Cam gweithredu 4
Ysgrifenyddiaeth i wahodd yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones a Dr Richard Glyn Roberts o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i roi diweddariad pellach ar Brosiect BRO yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Eitem 7: sesiwn drafod ar ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion adroddiad Cam 1 y Comisiwn Cymunedau Cymraeg: grymuso cymunedau, cryfhau’r Gymraeg
Cafwyd diweddariad am strwythur ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Cam 1 y Comisiwn Cymunedau Cymraeg gan Bethan Webb, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran Cymraeg 2050. Yna cafwyd trafodaeth agored wedi ei lywio gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg.
Prif ganfyddiad y drafodaeth oedd bod angen i’r Llywodraeth ystyried yn ofalus unrhyw ganlyniadau anfwriadol posib wrth lunio ei hymateb gan bwysleisio bod y Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru a bod pob cymuned yng Nghymru o arwyddocâd ieithyddol.
[Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg yn ymadael â’r cyfarfod a swyddog o Lywodraeth Cymru yn cymryd y gadair.]
Eitem 8: unrhyw fater arall
Trafodwyd themâu posib ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol a chytunwyd mai ffocws y cyfarfod nesaf fydd y gweithlu addysg. Nododd yr aelodau eu bod yn awyddus i glywed lleisiau amrywiol o’r sector er mwyn deall realiti’r sefyllfa yn llawn.
Cam gweithredu 5
Ysgrifenyddiaeth i wahodd amrywiol swyddogion o'r sector addysg ledled Cymru i drafod yr heriau a'r cyfleoedd yn wyneb y targed i ddenu a chadw digon o athrawon a all addysgu'r Gymraeg fel pwnc a thrwy gyfrwng y Gymraeg.
Pwyntiau gweithredu
Cam gweithredu 1
Pwynt gweithredu
Swyddogion Cymraeg 2050 i sicrhau bod lleisiau pobl o wahanol ardaloedd a chefndiroedd yn cael eu casglu wrth ariannu technoleg Cymraeg yn y dyfodol.
Arweinydd
Swyddogion Cymraeg 2050
Statws
Oren
Cam gweithredu 2
Pwynt gweithredu
Ysgrifenyddiaeth i rannu ddata diweddaraf yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth gyda’r Cyngor.
Arweinydd
Ysgrifenyddiaeth
Statws
Gwyrdd: cwblhawyd
Cam gweithredu 3
Pwynt gweithredu
Ysgrifenyddiaeth i rannu QR at yr Arolwg defnyddwyr gyda’r aelodau er mwyn iddyn nhw ymateb i’r arolwg a’i rannu gydag eraill a allai fod â diddordeb.
Arweinydd
Ysgrifenyddiaeth
Statws
Gwyrdd: cwblhawyd
Cam gweithredu 4
Pwynt gweithredu
Ysgrifenyddiaeth i wahodd yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones a Dr Richard Glyn Roberts o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant roi diweddariad pellach ar Brosiect BRO yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Arweinydd
Ysgrifenyddiaeth
Statws
Oren
Cam gweithredu 5
Pwynt gweithredu
Ysgrifenyddiaeth i wahodd amrywiol swyddogion o'r sector addysg ledled Cymru i drafod yr heriau a'r cyfleoedd yn wyneb y targed i ddenu a chadw digon o athrawon a all addysgu'r Gymraeg fel pwnc a thrwy gyfrwng y Gymraeg.
Arweinydd
Ysgrifenyddiaeth
Statws
Gwyrdd: cwblhawyd
