Skip to main content

These terms stem from standardisation processes held by the Translation Service for the Planning (Wales) Act 2026 and the Infrastructure (Wales) Act 2024.

These are the terms used in both languages in these Acts. Some of the new terms in the list are subject to commencement of the relevant provisions in the Planning (Wales) Act 2026, and the terms in the current existing legislative framework will continue to apply until such commencements are in force.

Term Saesneg (English Term)Term Cymraeg (Welsh Term)Lluosog (Plural)Diffiniad (Definition)Nodiadau (Notes)
addition to a buildingychwanegiad at adeiladychwanegiadau at adeilad Mewn perthynas â chynnal gwaith ar adeiladau o dan y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio.
aftercare conditionamod ôl-ofalamodau ôl-ofalAmod sy’n ei gwneud yn ofynnol cymryd camau i ddod â thir a ddefnyddiwyd gynt ar gyfer mwyngloddio i’r safon ofynnol ar gyfer amaethyddiaeth, tyfu coed neu amwynder.  
aftercare schemecynllun ôl-ofalcynlluniau ôl-ofalCynllun ar gyfer dod â thir a ddefnyddiwyd gynt ar gyfer mwyngloddio i’r safon ofynnol ar gyfer amaethyddiaeth, tyfu coed neu amwynder.  
agricultural tenanttenant amaethyddoltenantiaid amaethyddol  
air cargo transport servicegwasanaeth cludo cargo awyrgwasanaethau cludo cargo awyrGwasanaeth ar gyfer cludo cargo mewn awyrennau. 
air passenger transport servicegwasanaeth cludo teithwyr awyrgwasanaethau cludo teithwyr awyrGwasanaeth ar gyfer cludo teithwyr mewn awyrennau. 
air transport movementsymudiad cludiant awyrsymudiadau cludiant awyrGlaniad neu esgyniad awyren. 
airportmaes awyrmeysydd awyr  
allotmentrhandirrhandiroeddDarn o dir a ddarperir gan awdurdod lleol neu landlord preifat i unigolyn ar gyfer garddio heb fod at ddibenion masnachol, gan amlaf i dyfu llysiau, ffrwythau a blodau. 
alter addasu  Mewn perthynas â chynnal gwaith ar adeiladau o dan y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio a'r gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer rheoli'r amgylchedd hanesyddol.
area of special controlardal rheolaeth arbennigardaloedd rheolaeth arbennigArdal a ddynodwyd yn benodol gan yr awdurdod cynllunio oherwydd ei fod yn ystyried bod ei nodweddion golygfaol, hanesyddol, pensaernïol neu ddiwylliannol mor arwyddocaol fel bod angen rheolaeth lymach ar hysbysebion er mwyn diogelu amwynder gweledol yr ardal honno. 
assessorasesyddaseswyrPerson a benodir i gynghori arolygydd cynllunio ar unrhyw faterion sy’n codi mewn ymchwiliad lleol neu wrandawiad a gynhelir gan yr arolygydd neu mewn sylwadau ysgrifenedig a gyflwynir i’r arolygydd. 
authorisationawdurdodiadawdurdodiadau  
awningadlenadlenniGorchudd a ddefnyddir i gysgodi ffenestr neu ddrws siop etc. 
blightmalltod Gostyngiad mewn gweithgarwch economaidd neu werth eiddo mewn ardal benodol o ganlyniad i ddatblygiad disgwyliedig neu bosibl yn y dyfodol, neu gyfyngiad disgwyliedig neu bosibl ar ddatblygiad. 
blight noticehysbysiad malltodhysbysiadau malltod Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio.
blighted landtir o dan falltod Tir a nodir at ddibenion swyddogaethau cyhoeddus gan gynllun datblygu perthnasol ar gyfer yr ardal lle mae’r tir wedi ei leoli.Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio.
breachtor Elfen mewn termau cyfansawdd sy'n disgrifio gweithred sy'n mynd yn groes i gyfraith, rheol, cod ac ati.Bydd yr elfen hon bob amser yn ymddangos mewn ffurfiau cyfansawdd enwol fel 'tor amod', 'tor rheol' ac ati. Dylid defnyddio ffurfiau sy'n cynnwys yr elfen 'tor' pan fo angen enw yn hytrach na berfenw wrth drosi'r gair Saesneg 'breach'. Gall hyn olygu addasu termau sy'n cynnwys yr elfen 'torri' yn y gronfa hon. Sylwer ei fod yn ymddangos fel gair ar wahân, heb gysylltnod, wrth ffurfio termau cyfansawdd. Sylwer hefyd mai enw gwrywaidd yw 'tor' ac oherwydd hynny mai gwrywaidd fydd termau cyfansawdd lle bydd 'tor' yn ben yr ymadrodd, hyd yn oed os yw'r enw a ddilyna yn fenywaidd, ee "y tor rheol hwn".
breachtorri Mynd yn groes i gyfraith, rheol, cod ac ati.Dylid defnyddio 'torri' pan fo angen berfenw yn hytrach nag enw wrth drosi'r gair Saesneg 'breach'. Gall hyn olygu addasu termau sy'n cynnwys yr elfen 'tor' yn y gronfa hon.
breach of condition noticehysbysiad tor amodhysbysiadau tor amodHysbysiad cyfreithiol sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r derbynnydd sicrhau ei fod yn cydymffurfio â thelerau amod neu amodau cynllunio, a bennir gan yr awdurdod cynllunio lleol yn yr hysbysiad. 
breach of planning controltor rheolaeth gynllunio Methiant i ymgymryd â datblygiad heb y caniatâd cynllunio angenrheidiol neu fethiant i gydymffurfio ag unrhyw amod neu gyfyngiad y rhoddwyd caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig iddo.Gweler y ddau gofnod annibynnol am breach=tor, a breach=torri.
breach of temporary stop noticetorri hysbysiad stop dros dro   
building operationsgweithrediadau adeiladu   
burial groundcladdfacladdfeyddMan sydd wedi ei neilltuo ar gyfer claddu cyrff neu lwch yr ymadawedig.Cymharer â'r cofnodion am 'churchyard' a 'cemetery'. 
cargo aircraftawyren gargoawyrennau cargoAwyren sydd wedi ei chynllunio i gludo cargo ond nid teithwyr, ac sy’n ymgymryd â chludo cargo ar delerau masnachol. 
cargo shipllong gargollongau cargo  
cavityceudodceudodauLle gwag mewn craig. 
certificate of lawful use or developmenttystysgrif defnydd neu ddatblygiad cyfreithlontystysgrifau defnydd neu ddatblygiad cyfreithlon  
certificate of lawfulnesstystysgrif cyfreithlondebtystysgrifau cyfreithlondeb Mae'r term hwn yn gyfystyr â certificate of lawful use or development / tystysgrif defnydd neu ddatblygiad cyfreithlon.
chargeable developmentdatblygiad ardolladwydatblygiadau ardolladwyDatblygiad y gellir codi Ardoll Seilwaith Cymunedol yn ei gylch.Sylwer bod y term hwn yn berthnasol i'r Ardoll Seilwaith Cymunedol yn unig. Gellid bod angen trosiad arall o 'chargeable' mewn cyd-destunau eraill.
charging authorityawdurdod codi tâlawdurdodau codi tâl  
charging schedulecofrestr codi tâl   
CILardoll seilwaith cymunedol Tâl y gall awdurdodau lleol ei godi ar ddatblygiadau newydd yn eu hardal.Dyma'r acronym Saesneg a ddefnyddir am community infrastructure levy.
CIL planning permissioncaniatâd cynllunio ASCcaniatadau cynllunio ASC Yn y cyd-destun hwn, mae CIL ac ASC yn cynrychioli 'community infrastructure levy' ac 'ardoll seilwaith cymunedol'.
CIScynllun cynnwys cymunedaucynlluniau cynnwys cymunedau Dyma'r acronym Saesneg a ddefnyddir am community involvement scheme.
civil debtdyled sifildyledion sifil  
clearance areaardal glirioardaloedd clirioArdal sydd i'w chlirio yn gyfan gwbl o adeiladau, o dan Ddeddf Tai 1985. 
clinkerclincer Lludw a gwaddodion sydd wedi eu hasio, o ffwrnais neu dân glo. 
coal bed methanemethan haen lo   
community infrastructure levyardoll seilwaith cymunedol Tâl y gall awdurdodau lleol ei godi ar ddatblygiadau newydd yn eu hardal. 
community involvement schemecynllun cynnwys cymunedaucynlluniau cynnwys cymunedau  
compensation noticehysbysiad digolleduhysbysiadau digolledu  
compulsory acquisition of landcaffael tir yn orfodol  Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio.
connected applicationcais cysylltiedigceisiadau cysylltiedigCais cynllunio sydd o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau, ac y mae’r person sy’n ei wneud yn ystyried ei fod yn gysylltiedig â’r prif gais. 
conservation areaardal gadwraethardaloedd cadwraethArdal a gaiff ei gwarchod yn statudol o dan y ddeddfwriaeth gynllunio, er mwyn cadw a gwella ei chymeriad a'i threflun. 
consultation reportadroddiad ymgynghoriadroddiadau ymgynghori  
container shipllong gynwysyddionllongau cynwysyddionLlong gargo sy'n cludo'r cyfan neu'r rhan fwyaf o'i chargo mewn cynwysyddion. 
control of advertisements regulationsrheoliadau rheolaethu hysbysebion  Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. Sylwer y gwahaniaethir yn fwriadol erbyn hyn rhwng rheolaethu (control) a rheoli (manage) yn y ddeddfwriaeth sy'n llywodraethu'r gyfundrefn gynllunio.
control over development of landrheolaeth dros ddatblygiad tirrheolaethau dros ddatblygiad tir  
control over use of landrheolaeth dros ddefnydd o dirrheolaethau dros ddefnydd o dir  
conversiontrosi Newid cyflwr egni (ee o fod yn drydan i fod yn egni potensial) 
correctable errorgwall cywiradwygwallau cywiradwy  
correction noticehysbysiad cywirohysbysiadau cywiro  
counter-noticegwrth-hysbysiadgwrth-hysbysiadau  
crude liquid petroleumpetroliwm hylifol crai   
cushion gasnwy clustogi Nwy a gedwir mewn cyfleusterau tanddaearol at y diben o alluogi adfer o’r storfa nwy arall a storiwyd ynddi. 
cutting downtorri i lawr  Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. Gweithred a waherddir heb gydsyniad yr awdurdod cynllunio lleol os oes gorchymyn diogelu coed neu orchymyn diogelu coetir yn berthnasol i'r goeden dan sylw.
DASdatganiad dylunio a mynediaddatganiadau dylunio a mynediad Dyma'r acronym Saesneg a ddefnyddir am design and access statement.
decision documentdogfen penderfyniaddogfennau penderfyniadauYn achos rhoi cydsyniad seilwaith, y gorchymyn cydsynio seilwaith ei hun neu'r ddogfen sy'n cofnodi y gwrthodwyd cydsyniad. 
decision noticehysbysiad penderfynuhysbysiadau penderfynu  
deedgweithredgweithredoeddDogfen gyfreithiol ysgrifenedig, a ddefnyddir gan amlaf i drosglwyddo eiddo o un perchennog i'r llall. 
deemed planning permissioncaniatâd cynllunio tybiedigcaniatadau cynllun tybiedig  
deep storage facilitycyfleuster storio dwfncyfleuster storio dwfnCyfleuster ar gyfer storio gwastraff yn danddaearol mewn ceudod daearegol dwfn. 
default liabilityatebolrwydd diofyn   
delivery agreementcytundeb cyflawnicytundebau cyflawni Yng nghyd-destun cynlluniau datblygu yn benodol.
demolishdymchwel  Mewn perthynas â chynnal gwaith ar adeiladau o dan y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio a'r gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer rheoli'r amgylchedd hanesyddol.
depositing of mineral wastedyddodi gwastraff mwynau Unrhyw broses y crëir neu y cynyddir dyddodyn gwastraff mwynau drwyddi.Dyma'r term technegol a ddefnyddir yn y ddeddfwriaeth gynllunio. Mewn deunyddiau llai technegol mae'n bosibl y gellid defnyddio berfau mwy cyffredinol eu natur, ee gollwng, gadael neu rhoi.
depositing of wastedyddodi gwastraff  Dyma'r term technegol a ddefnyddir yn y ddeddfwriaeth gynllunio. Mewn deunyddiau llai technegol mae'n bosibl y gellid defnyddio berfau mwy cyffredinol eu natur, ee gollwng, gadael neu rhoi.
design and access statementdatganiad dylunio a mynediaddatganiadau dylunio a mynediad  
design of a buildingdyluniad adeilad Y dyluniad a lunnir ar gyfer adeilad penodol.Mewn perthynas â chynnal gwaith ar adeiladau o dan y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio.
determinationpenderfyniadpenderfyniadau Os oes angen gwahaniaethu rhwng 'determination' a 'decision' mewn testun, mae'n bosibl y gellid ystyried defnyddio 'dyfarniad' am 'determination'.
determination periodcyfnod penderfynucyfnodau penderfynu  
developerdatblygwrdatblygwyrPerson sy’n cychwyn gwaith adeiladu neu’n bwriadu cychwyn gwaith adeiladu. 
development consentcydsyniad datblygucydsyniadau datblygu  
development consent ordergorchymyn cydsyniad datblygugorchmynion cydsyniad datblygu  
development of national significancedatblygiad o arwyddocâd cenedlaetholdatblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol  
development ordergorchymyn datblygugorchmynion datblygu  
development plancynllun datblygucynlluniau datblyguDogfen sy'n gosod yn ysgrifenedig, ac efallai ar y cyd â mapiau a diagramau, bolisïau a chynigion awdurdod cynllunio lleol ar gyfer datblygiad a defnydd tir ac adeiladau yn ardal yr awdurdod hwnnw. 
discharge an obligationgollwng rhwymedigaeth   
discontinuancedatbarhau  Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio, ymysg meysydd eraill.
discontinuance ordergorchymyn datbarhaugorchmynion datbarhau Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio.
disembarkationdadlwytho  Yng nghyd-destun cargo yn benodol.
displacementdadleoli   
display of advertisementsarddangos hysbysebion  Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio.
disused railway embankmentarglawdd rheilffordd nas defnyddirargloddiau rheilffordd segur  
DNSdatblygiad o arwyddocâd cenedlaetholdatblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol Dyma'r acronym Saesneg a ddefnyddir am development of national significance.
dormant sitesafle segursafleoedd segurSafle mwynau o fath Cam 1 neu Gam 2 nad oes unrhyw ddatblygiad mwynau wedi digwydd ynddo, arno neu oddi tano i unrhyw raddfa sylweddol unrhyw bryd yn y cyfnod rhwng 22 Chwefror 1982 a 6 Mehefin 1995. 
electric linellinell drydanllinellau trydan  
electricity generating stationgorsaf cynhyrchu trydangorsafoedd cynhyrchu trydan  
electronic communications apparatuscyfarpar cyfathrebiadau electronig   
embarkationllwytho  Yng nghyd-destun cargo yn benodol.
enforcement actioncam gorfodicamau gorfodi  
enforcement investigation noticehysbysiad ymchwilio am orfodihysbysiadau ymchwilio am orfodi Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. Mae'r term hwn yn disodli'r termau planning contravention notice / hysbysiad tramgwydd cynllunio.
enforcement warning noticehysbysiad rhybuddio am orfodihysbysiadau rhybuddio am orfodi Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio.
enforcing authorityawdurdod gorfodiawdurdodau gorfodi  
engineered measuremesur wedi ei beiriannumesurau wedi eu peiriannu  
engineering operationsgweithrediadau peirianneg  Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio.
erect a buildingcodi adeilad  Mewn perthynas â chynnal gwaith ar adeiladau neu strwythurau o dan y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio.
explorationfforio Y chwilio a'r profi a wneir am adnoddau naturiol mewn ardal benodedig, er mwyn penderfynu a ydyw gweithgareddau mwyngloddio neu echdynnu yn fasnachol hyfyw. 
external appearance of a buildinggolwg allanol adeilad  Mewn perthynas â chynnal gwaith ar adeiladau o dan y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio a'r gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer rheoli'r amgylchedd hanesyddol.
false in a material respectanwir mewn modd perthnasol  Gellir defnyddio'r ymadrodd hwn fel un adferfol hefyd.
false or misleading in a material respectanwir neu gamarweiniol mewn modd perthnasol  Gellir defnyddio'r ymadrodd hwn fel un adferfol hefyd.
false statementdatganiad anwir  Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio.
felling licencetrwydded cwympo coedtrwyddedau cwympo coed  
fish farmingffermio pysgod Bridio, magu neu gadw pysgod neu bysgod cregyn (sy’n cynnwys yr holl fathau o gramenogion a molysgiaid). 
foundationsylfaensylfeini  
furnace ashlludw ffwrnais   
gas reception facilitycyfleuster derbyn nwycyfleusterau derbyn nwyCyfleuster ar gyfer derbyn nwy naturiol yn ei ffurf nwy, ac ar gyfer ymdrin ag ef (heblaw ei storio). 
gas transportertrawsgludydd nwytrawsgludwyr nwy  
gasificationnwyeiddio Proses dechnolegol i drosi unrhyw ddeunydd crai sy'n seiliedig ar garbon, megis glo, yn nwy tanwydd. 
general improvement areaardal gwella cyffredinolardaloedd gwella cyffredinolArdal breswyl a ddynodir gan yr awdurdod lleol o dan Ddeddf Tai 1985, lle bydd yr amodau byw yn cael eu gwella drwy welliannau i’r tai a’r cyfleusterau lleol. 
generating stationgorsaf gynhyrchugorsafoedd cynhyrchuGorsaf, cyfarpar neu adeiladau sy'n cynhyrchu trydan, ond nid cyfleuster sy'n cynhyrchu trydan o ynni wedi ei storio. 
goods traintrên nwyddautrenau nwyddauTrên (gan anwybyddu'r injan) sy'n cynnwys eitemau o gerbydau rheilffyrdd a gynlluniwyd i gludo nwyddau. 
hazardous substances authorityawdurdod sylweddau peryglusawdurdodau sylweddau peryglus  
hazardous waste facilitycyfleuster gwastraff perygluscyfleusterau gwastraff peryglus  
hoardingpalispalisauFfens o fyrddau pren etc a godir o amgylch adeilad yn ystod ei adeiladu neu ei atgyweirio ac a ddefnyddir i arddangos hysbysebion, neu strwythur tebyg arall a godir i arddangos hysbysebion.Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer rheolaethu hysbysebion.
independent examinationarchwiliad annibynnolarchwiliadau annibynnol Yng nghyd-destun cynlluniau datblygu.
information noticehysbysiad gwybodaethhysbysiadau gwybodaethHysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person y’i cyflwynir iddo roi gwybodaeth ysgrifenedig i’r awdurdod perthnasol am y materion a bennir yn yr hysbysiad. 
infrastructureseilwaith   
infrastructure consentcydsyniad seilwaithcydsyniadau seilwaith  
infrastructure consent obligationrhwymedigaeth cydsyniad seilwaithrhwymedigaethau cydsyniad seilwaithRhwymedigaeth gynllunio yr ymrwymir iddi mewn cysylltiad â chais (neu gais arfaethedig) am orchymyn cydsyniad seilwaith. 
infrastructure consent ordergorchymyn cydsyniad seilwaithgorchmynion cydsyniad seilwaith  
infrastructure policy statementdatganiad polisi seilwaithdatganiadau polisi seilwaith  
injunctiongwaharddebgwaharddebauGorchymyn cyfreithiol gan lys sy'n ei gwneud yn ofynnol i berson wneud, neu beidio â gwneud, rhywbeth penodol. 
inland watersdyfroedd mewndirol Dyfroedd nad ydynt yn rhan o’r môr nac o gilfach, bae neu foryd am gyn belled ag y mae’r llanw’n llifo. 
installed generating capacitycapasiti cynhyrchu gosodedig Y capasiti cynhyrchu trydan mwyaf (mewn megawatiau) y gellid gweithredu gorsaf gynhyrchu arno am gyfnod parhaus heb achosi niwed iddo (gan dybio bod y ffynhonnell ynni a ddefnyddir i gynhyrchu trydan ar gael yn ddi-dor). 
intentionally or recklessly damaging a treedifrodi coeden yn fwriadol neu’n ddi-hid  Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. Gweithred a waherddir heb gydsyniad yr awdurdod cynllunio lleol os oes gorchymyn diogelu coed neu orchymyn diogelu coetir yn berthnasol i'r goeden dan sylw.
intentionally or recklessly destroying a treedinistrio coeden yn fwriadol neu’n ddi-hid  Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. Gweithred a waherddir heb gydsyniad yr awdurdod cynllunio lleol os oes gorchymyn diogelu coed neu orchymyn diogelu coetir yn berthnasol i'r goeden dan sylw.
invalid applicationcais annilysceisiadau annilys Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio.
joint planning areaardal gydgynllunioardaloedd cydgynllunio  
joint planning boardbwrdd cydgynlluniobyrddau cydgynllunioAwdurdod cynllunio lleol ar gyfer dosbarth unedig sy’n cynnwys dwy ardal neu ragor, pob un ohonynt yn sir gyfan neu’n fwrdeistref sirol gyfan neu’n rhan o sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru. 
land use classdosbarth defnydd tirdosbarthau defnydd tirY categori o ddefnydd tir y dosberthir darn o dir iddo yn y gyfundrefn gynllunio. 
liquid natural gasnwy naturiol hylifol Nwy naturiol sydd wedi cael ei oeri nes ei fod wedi troi'n hylif.Mae'r termau liquified natural gas/nwy naturiol hylifedig yn gyfystyr, a defnyddir yr acronym LNG ar gyfer y ddau derm, yn y ddwy iaith.
liquified natural gasnwy naturiol hylifedig Nwy naturiol sydd wedi cael ei oeri nes ei fod wedi troi'n hylif.Mae'r termau liquid natural gas/nwy naturiol hylifol yn gyfystyr, a defnyddir yr acronym LNG ar gyfer y ddau derm, yn y ddwy iaith.
LIRadroddiad ar yr effaith leoladroddiadau ar yr effaith leol Dyma'r acronym Saesneg a ddefnyddir am local impact report / adroddiad ar yr effaith leol.
LNGLNG  Dyma'r acronym a ddefnyddir yn y ddwy iaith am y ddau derm liquid natural gas/nwy naturiol hylifol a liquified natural gas/nwy naturiol hylifedig. Mae'r termau hyn yn gyfystyr.
LNG facilitycyfleuster LNGcyfleusterau LNG  
local development ordergorchymyn datblygu lleolgorchmynion datblygu lleol  
local impact reportadroddiad ar yr effaith leoladroddiadau ar yr effaith leolAdroddiad ysgrifenedig sy'n manylu ar effaith debygol datblygiad arfaethedig ar ardal (neu ran o ardal) yr awdurdod cynllunio lleol na'r cyngor cymuned sy'n cyflwyno'r adroddiad. 
local inquiryymchwiliad lleolymchwiliadau lleol  
local land chargepridiant tir lleolpridiannau tir lleolCyfyngiad neu rwymedigaeth ar eiddo neu ddarn o dir, fel arfer er mwyn cyfyngu ar y ffordd y caiff ei ddefnyddio neu i sicrhau y gwneir taliad ariannol i'r awdurdod cynllunio lleol mewn perthynas â'r eiddo neu'r tir. 
local planning authorityawdurdod cynllunio lleolawdurdodau cynllunio lleolYr awdurdod lleol neu'r cyngor a awdurdodir o dan y gyfraith i arfer swyddogaethau cynllunio. Fel arfer y cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol ydyw, ond yn y Parciau Cenedlaethol a rhai ardaloedd eraill ceir trefniant gwahanol. 
loppingtocio  Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. Gweithred a waherddir heb gydsyniad yr awdurdod cynllunio lleol os oes gorchymyn diogelu coed neu orchymyn diogelu coetir yn berthnasol i'r goeden dan sylw.
LPAawdurdod cynllunio lleolawdurdodau cynllunio lleolYr awdurdod lleol neu'r cyngor a awdurdodir o dan y gyfraith i arfer swyddogaethau cynllunio. Fel arfer y cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol ydyw, ond yn y Parciau Cenedlaethol a rhai ardaloedd eraill ceir trefniant gwahanol.Dyma'r acronym Saesneg a ddefnyddir am local planning authority.
maintenance of land noticehysbysiad cynnal a chadw tirhysbysiadau cynnal a chadw tir Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio.
marine licencetrwydded foroltrwyddedau morol  
material changenewid sylweddolnewidiadau sylweddol Ymadrodd a ddefnyddir yn y ddeddfwriaeth gynllunio, ac sy'n berthnasol i'r defnydd o dir ("newid sylweddol yn y defnydd o dir") ac i ganiatadau cynllunio ("newid sylweddol i ganiatâd cynllunio"). Yn yr achosion hyn mae'r gair 'material' yn ymwneud â graddfa'r newidiadau sydd o dan sylw, yn hytrach na'u harwyddocâd neu eu perthnasedd yn unig. Gall trosiadau eraill o "material" fod yn addas mewn cyd-destunau eraill.
maximum flow ratecyfradd llif uchaf Y gyfradd uchaf y gall nwy lifo allan o gyfleuster, gan dybio bod y cyfleuster wedi ei lenwi'n llawn a bod y gyfradd yn cael ei chyfrifo ar ôl cynnal unrhyw brosesu angenrheidiol ar y nwy wrth ei adfer o'r storfa. 
metallic slagslag metelaiddslagiau metelaidd  
military establishmentsefydliad milwrolsefydliadau milwrolSefydliad a fwriedir at ddibenion y llynges, y fyddin neu’r llu awyr, neu at ddibenion Adran yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n gyfrifol am amddiffyn. 
minemwynglawddmwyngloddiauCloddfa neu system o gloddfeydd sy'n ymwneud ag echdynnu mwynau neu gynnyrch mwynau.Yn y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio, gall y gair 'mwynglawdd' gyfeirio at unrhyw fan lle caiff mwynau, yn yr ystyr gyfreithiol, eu cloddio o'r tir. Gweler y cofnodion am mineral/mwyn a mining/mwyngloddio yn TermCymru. Oherwydd hyn, yn y gyfundrefn gyfreithiol gall y gair 'mwynglawdd' gynnwys pyllau glo a chwareli llechi, sy'n weithfeydd nad ydynt yn cael eu disgrifio fel 'mwyngloddiau' fel arfer yn Gymraeg. Serch hynny, mewn cyd-destunau nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â'r gyfundrefn gyfreithiol, cloddfa ar gyfer mwynau yn yr ystyr gyffredinol (neu wyddonol) yw 'mwynglawdd'. Lle bydd 'mine' mewn cyd-destunau o'r fath yn golygu 'coal mine' yn unig, defnyddier 'pwll glo'. Lle bydd 'mine' mewn cyd-destunau o'r fath yn golygu 'slate mine' yn unig, defnyddier 'chwarel lechi'. 
mineralmwyn mwynauUnrhyw sylwedd o fath sy'n arferol ei weithio i'w dynnu o grombil neu o wyneb y ddaear, ac eithrio mawn a dorrwyd at ddibenion heblaw ei werthu.Mae'r diffiniad yn cyfeirio yn benodol at ystyr y term hwn yn y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. Mae ystyr fwy caeth i mineral/mwyn mewn cyd-destunau gwyddonol a chyffredinol. Bryd hynny, bydd y termau yn y ddwy iaith fel arfer yn golygu sylwedd solet anorganig sy'n ffurfio'n naturiol, gyda chyfansoddiad cemegol penodol a strwythur a nodweddion ffisegol nodweddiadol. Y gwahaniaeth ymarferol rhwng y diffiniad cyfreithiol a'r diffiniad gwyddonol yw bod y diffiniad cyfreithiol yn gallu cynnwys glo, mawn a chreigiau megis llechi, tra bod y diffiniad gwyddonol yn eithrio sylwedddau o'r fath. Gweler hefyd y cofnodion yn TermCymru am mine/mwynglawdd a mining/mwynglodio.
mineral wastegwastraff mwynau  Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. Gweler y cofnod cysylltiedig am mineral/mwyn.
minerals developmentdatblygiad mwynaudatblygiadau mwynauDatblygiad sy’n cynnwys gweithrediadau mwyngloddio, neu sy’n golygu dyddodi gwastraff mwynau.Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. Gweler y cofnod cysylltiedig am mineral/mwyn.
minerals permissioncaniatâd mwynaucaniatadau mwynauCaniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad mwynau, ond nid yw’n cynnwys caniatâd cynllunio a roddir gan orchymyn datblygu.Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. Gweler y cofnod cysylltiedig am mineral/mwyn.
miningmwyngloddio  Yn y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio, gall y gair 'mwyngloddio' gyfeirio at gloddio unrhyw fath o fwynau, yn yr ystyr gyfreithiol, o'r tir. Gweler y cofnod am mineral/mwyn yn TermCymru. Oherwydd hyn, yn y gyfundrefn gyfreithiol gall y gair 'mwyngloddio' gynnwys gweithio i gloddio glo a llechi, sy'n sylweddau nad ydynt yn cael eu disgrifio fel 'mwynau' fel arfer yn Gymraeg, nac yn cyd-fynd ag ystyr wyddonol y term mineral/mwyn. Serch hynny, mewn cyd-destunau nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â'r gyfundrefn gyfreithiol, cloddio ar gyfer mwynau yn yr ystyr gyffredinol (neu wyddonol) yw 'mwyngloddio'. Lle bydd 'mining' mewn cyd-destunau o'r fath yn golygu 'coal mining' yn unig, defnyddier 'cloddio am lo'. Lle bydd 'mining' mewn cyd-destunau o'r fath yn golygu 'slate mining' yn unig, defnyddier 'cloddio am lechi'. Lle bydd 'mining' mewn cyd-destunau o'r fath yn cael ei ddefnyddio'n gyffredinol i gyfeirio at fwy nag un math o'r rhain gyda'i gilydd, argymhellir gyfeirio yn Gymraeg at y gwahanol fathau, ee 'mwyngloddio neu gloddio am lo'. Lle nad yw hyn yn bosibl ac nad oes angen gwahaniaethu wrth gysyniad 'excavating', gellid ystyried defnyddio 'cloddio'.
mining operationsgweithrediadau mwyngloddio Cloddio a gweithio mwynau ar dir, boed hynny drwy weithio ar yr arwyneb neu o dan y ddaear.Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. Gweler y cofnod cysylltiedig am mining/mwyngloddio.
mining sitesafle mwyngloddiosafleoedd mwyngloddioTir y mae caniatâd mwynau yn ymwneud ag ef.Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. Gweler y cofnod cysylltiedig am mining/mwyngloddio.
National Park authorityawdurdod Parc Cenedlaetholawdurdodau Parciau Cenedlaethol  
natural gasnwy naturiol  Unrhyw nwy sy'n deillio o strata naturiol. 
natural porous stratastrata mân-dyllog naturiol   
new towntref newyddtrefi newyddAnheddiad annibynnol newydd a ddynodwyd ac a gynlluniwyd o dan Ddeddf Trefi Newydd 1946 a deddfwriaeth ddilynol. 
non-material changenewid ansylweddolnewidiadau ansylweddol Ymadrodd a ddefnyddir yn y ddeddfwriaeth gynllunio, ac sy'n berthnasol i'r defnydd o dir ("newid ansylweddol yn y defnydd o dir") ac i ganiatadau cynllunio ("newid ansylweddol i ganiatâd cynllunio"). Yn yr achosion hyn mae'r gair 'non-material' yn ymwneud â graddfa'r newidiadau sydd o dan sylw, yn hytrach na'u harwyddocâd neu eu perthnasedd yn unig. Gall trosiadau eraill o "non-material" fod yn addas mewn cyd-destunau eraill.
non-prosecution noticehysbysiad dim erlynhysbysiadau dim erlyn  
normal usedefnydd arferol  Yng nghyd-destun y ddeddfwriaeth gynllunio.
notice of appealhysbysiad o apêlhysbysiadau o apêl  
notice of invalidityhysbysiad o annilysrwyddhysbysiadau o annilysrwydd Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio.
obliteratedifodi Yng nghyd-destun y gyfundrefn ar gyfer rheolaethu hysbysebion, gorchuddio, difetha neu gael gwared ar blacard neu boster fel nad yw’n gallu arddangos hysbyseb mwyach. 
open cast coal minegwaith glo briggweithfeydd glo brig  
open spaceman agoredmannau agoredYng nghyd-destun y gyfraith gynllunio, tir sydd ar gael i’r cyhoedd - megis parciau, gerddi, caeau chwarae a mannau sifig - ac sy’n darparu buddion o ran hamdden, yr amgylchedd neu harddwch i’r gymuned. 
operational landtir gweithredol  Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio.
originating authorityawdurdod tarddiadolawdurdodau tarddiadolYng nghyd-destun y ddeddfwriaeth gynllunio a phridiant tir lleol, yr awdurdod sy'n creu'r pridiant neu sy'n gorfodi'r pridiant unwaith y daw i fodolaeth. Gall hyn fod yn Weinidog y Goron, adran o'r llywodraeth, neu awdurdod lleol. 
outline planning permissioncaniatâd cynllunio amlinellolcaniatadau cynllunio amlinellol  
overhead linellinell uwchbenllinellau uwchben Yng nghyd-destun llinellau trydan.
pedestrianisationpedestreiddio Y broses o gyfyngu mynediad i stryd neu ardal fel mai dim ond cerddwyr, ac nid cerbydau, a gaiff ei defnyddio.Mae'n bosibl y gallai aralleiriad fel "creu parth cerddwyr" fod yn addas mewn rhai cyd-destunau.
periodic review of minerals permissionsadolygiad cyfnodol o ganiatadau mwynauadolygiadau cyfnodol o ganiatadau mwynau  
petroleum productcynnyrch petroliwmcynhyrchion petroliwm  
pipelinepiblinellpiblinellauLlinell ddi-dor o bibellau wedi eu cyd-gysylltu, yn enwedig ar gyfer trosglwyddo olew, nwy neu ddŵr dros bellteroedd hir.Gwelir y ffurf amgen Saesneg "pipe-line" hefyd.
placardplacardplacardiau Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer rheolaethu hysbysebion.
plan-making authorityawdurdod sy'n gwneud cynllun  Yng nghyd-destun y ddeddfwriaeth gynllunio.
planning applicationcais cynllunioceisiadau cynllunio  
planning authorityawdurdod cynllunioawdurdodau cynllunio  
planning contravention noticehysbysiad tramgwydd cynlluniohysbysiadau tramgwydd cynllunio  
planning controlrheolaeth gynlluniorheolaethau cynllunioY gyfundrefn ar gyfer rhoi caniatâd cynllunio (fel enw torfol), neu reol neu amod a osodir fel rhan o ganiatâd cynllunio (fel enw cyfrif).Gallai 'rheoli cynllunio' fod yn addas mewn rhai cyd-destunau llai technegol.
planning inspectorarolygydd cynllunioarolygwyr cynllunio  
planning obligationrhwymedigaeth gynlluniorhwymedigaethau cynllunioRhwymedigaeth gyfreithiol sydd yn cyfyngu ar ddatblygu neu ddefnyddio tir mewn ffordd benodedig, yn ei gwneud yn ofynnol i weithrediadau neu weithgareddau penodedig gael eu cyflawni ar y tir, yn ei gwneud yn ofynnol i’r tir gael ei ddefnyddio mewn ffordd benodedig, neu yn ei gwneud yn ofynnol i un neu ragor o daliadau gael eu gwneud i'r awdurdod cynllunio y mae’r tir yn ei ardal. 
planning permissioncaniatâd cynlluniocaniatadau cynllunio   
plant and machinerycyfarpar a pheiriannau Yng nghyd-destun y gyfraith ar dreth, pa bynnag aparatws sy’n angenrheidiol ar ddyn busnes er mwyn cynnal ei fusnes.Mae sylwedd y diffiniad yn gyfieithiad o'r dyfyniad o gyfraith achos (Yarmouth v France (1887)) y seilir dehongliadau o ystyr yr ymadrodd sefydlog hwn arno. 
pollardingbrigdocio Techneg tocio coed lle mae'r canghennau uchaf yn cael eu torri'n ôl i annog pen trwchus o ddail a changhennau. 
post-1948 minerals permissioncaniatâd mwynau ôl-1948caniatadau mwynau ôl-1948Unrhyw ganiatâd mwynau ac eithrio caniatâd mwynau cyn-1948.Gweler y cofnod am pre-1948 minerals permission / caniatâd mwynau cyn-1948 am ddiffiniad o'r term hwnnw.
pre-1948 minerals permissioncaniatâd mwynau cyn-1948caniatadau mwynau cyn-1948Caniatâd mwynau y bernir ei fod wedi ei roi o dan Ran 3 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1947 yn rhinwedd adran 77 o’r Ddeddf honno. 
pre-application consultationymgynghoriad cyn gwneud caisymgyngoriadau cyn gwneud cais Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio.
pre-application consultation reportadroddiad ymgynghoriad cyn gwneud caisadroddiadau ymgynghoriad cyn gwneud cais Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio.
pre-application publicitycyhoeddusrwydd cyn gwneud cais  Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio.
pre-application servicegwasanaeth cyn gwneud caisgwasanaethau cyn gwneud cais Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio.
preservation of trees and woodlanddiogelu coed a choetiroedd  Ymadrodd sefydlog yn Neddf Cynllunio (Cymru).
principalpenadurpenaduriaidPerson sydd wedi rhoi awdurdod, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, i berson arall weithredu fel asiant ar ei ran. 
proceeds of saleenillion gwerthu  Mae'n bosibl y gallai "enillion o werthiant" fod yn addas mewn rhai cyd-destunau.
prohibition ordergorchymyn gwahardd   
protection ordergorchymyn diogelugorchmynion diogelu Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. 
rack rentcrogrentcrogrenti  
radioactive waste geological disposal facilitycyfleuster gwaredu daearegol ar gyfer gwastraff ymbelydrolcyfleusterau gwaredu daearegol ar gyfer gwastraff ymbelydrol  
radionuclideradioniwclidradioniwclidauMath ansefydlog o elfen gemegol sy'n rhyddhau ymbelydredd wrth ddadfeilio a throi'n fwy sefydlog. 
rail freight interchangecyfnewidfa nwyddau rheilffordd   
rebuild a buildingailadeiladu adeilad  Mewn perthynas â chynnal gwaith ar adeiladau o dan y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio.
reconversionaildrosi Dychwelyd cyflwr egni (ee newid egni potensial, a fu gynt yn egni trydan, i fod yn egni trydan unwaith eto). 
regasificationailnwyeiddio   
remedial workgwaith unioni Camau a gymerir i wneud yn iawn am sefyllfa lle mae tor-rheolaeth gynllunio wedi digwydd, gan adfer safle i’w gyflwr cyfreithlon. 
remove a buildingcael gwared ar adeilad  Mewn perthynas â chynnal gwaith ar adeiladau o dan y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio.
removing a treesymud coeden ymaith  Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. Gweithred a waherddir heb gydsyniad yr awdurdod cynllunio lleol os oes gorchymyn diogelu coed neu orchymyn diogelu coetir yn berthnasol i'r goeden dan sylw.
renewable energy installationgosodiad ynni adnewyddadwygosodiadau ynni adnewyddadwy  
renewal areaardal adnewydduardaloedd adnewydduArdal sy’n cynnwys tai yn bennaf, lle mae’r amodau byw yn anfoddhaol ac y gellir eu gwella’n fwyaf effeithiol drwy weithredoedd cydgysylltiedig gan yr awdurdod lleol o dan bwerau Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989. 
replacement buildingadeilad amnewidadeiladau amnewid Dyma'r term technegol a ddefnyddir yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. Gellid aralleirio mewn cyd-destunau llai technegol.
replacement treecoeden amnewidcoed amnewid Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio.
reserved mattermater a gadwyd yn ôlmaterion a gadwyd yn ôlMater y mae awdurdod cynllunio wedi penderfynu peidio â mynegi barn arno am y tro, wrth roi caniatâd cynllunio amlinellol, ond y bydd angen ei gymeradwyo cyn cael caniatâd cynllunio llawn.Dyma'r geiriad a ddefnyddir yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. Sylwer ar y gwahaniaeth yn amser y ferf rhwng y term hwn a'r ffurf "mater a gedwir yn ôl", a ddefnyddir ym maes y cyfansoddiad a'r gyfundrefn ddatganoledig.
reserved trust portporthladd ymddiriedolaeth a gedwir yn ôl   
restoration conditionamod adferamodau adferAmod sy’n ei gwneud yn ofynnol, ar ôl i’r gweithrediadau mwyngloddio gael eu cwblhau neu i’r dyddodi gwastraff ddod i ben, i’r tir yr effeithiwyd arno gan y gweithrediadau neu’r dyddodi gael ei adfer drwy ddefnyddio isbridd, uwchbridd neu ddeunydd creu pridd.Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio.
right of wayhawl tramwyhawliau tramwyHawddfraint sy'n cyflwyno hawl i deithio ar draws tir. Gall yr gawl gynnwys yr hawl i groesi'r tir gyda neu heb anifeiliaid. Ni ddylid defnyddio'r hawl yn y fath ffordd ag y bo'n gyfystyr â chymryd meddiant. 
right over landhawl dros dirhawliau dros dir  
river basinbasn afonbasnau afonyddArwynebedd o dir a ddraenir gan afon a’i his-afonydd. 
roll-on roll-off shipllong gyrru i mewn ac allanllongau gyrru i mewn ac allanLlong a ddefnyddir i gludo cargo sydd ar olwynion (megis lorïau a cheir). 
setting of a buildinggosodiad adeilad  Mewn perthynas ag adeiladau o dan y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio a'r gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer rheoli'r amgylchedd hanesyddol. Sylwer ei bod yn allweddol am resymau cyfreithiol gallu gwahaniaethu rhwng "lleoliad" (location) adeilad, neu "safle" (site) adeilad, a'i "osodiad" (setting), sef - yn fras - y gydberthynas rhwng yr adeilad a'i amgylchedd.
shale oilolew siâl   
significant infrastructure projectprosiect seilwaith arwyddocaolprosiectau seilwaith arwyddocaol  
slagslagslagiauGwastraff yn sgil toddi neu buro metelau. 
statutory undertakerymgymerwr statudolymgymerwyr statudol  
steps for the protection of the environmentcamau i ddiogelu'r amgylchedd  Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. 
stop noticehysbysiad stophysbysiadau stop Defnyddir 'stop' yn hytrach nag 'atal' fel bod modd gwahaniaethu rhwng y geiriau Saesneg 'stop' a 'prevention'.
stopping upcau Y broses gyfreithiol o dynnu hawl tramwy yn barhaol o ffordd, llwybr troed neu lwybr arall. 
storage capacitycynhwysedd storio Cynhwysedd cyfleuster ar gyfer storio nwy naturiol hylifedig, a fesurir fel pe bai’r nwy wedi ei storio yn ei ffurf ailnwyeiddiedig. 
stored energyynni wedi ei storio Ynni sydd wedi ei drosi o fod yn drydan, ac a gaiff ei storio at ddiben ei aildrosi yn drydan. 
stratumstratwmstrata  
subsidenceymsuddiant   
successor in titleolynydd yn y teitlolynwyr yn y teitlUnrhyw un sy'n cymryd perchnogaeth gyfreithiol ar eiddo wrth rywun arall.Sylwer y bydd angen addasu'r term pan gaiff ei ddilyn gan ymadrodd enwol, ee "olynydd yn nheitl yr ymgeisydd"
surface working of mineralsgweithio mwynau ar wyneb y tir   
sustainability appraisalarfarniad o gynaliadwyeddarfarniadau o gynaliadwyedd  
temporary stop noticehysbysiad stop dros drohysbysiadau stop dros droHysbysiad cyfreithiol sy'n ei gwneud yn ofynnol y rhoddir terfyn ar unwaith ar weithgaredd sy'n torri rheolaeth gynllunio. 
termination ordergorchymyn terfynugorchmynion terfynuGorchymyn sy'n pennu y bydd caniatâd cynllunio yn peidio â chael effaith ar ddiwedd cyfnod a nodir yn y gorchymyn.Yng nghyd-destun y ddeddfwriaeth gynllunio, ymysg eraill. Daw'r diffiniad o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2026 ond gall diffiniadau eraill fod yn berthnasol yn ôl yr achos. Yng nghyd-destun cynllunio, mae'r term hwn yn disodli'r termau completion notice / hysbysiad cwblhau.
TEUTEU Uned anfanwl o gynhwysedd cargo, a ddefnyddir yn aml ar gyfer llongau cynwysyddion a phorthladdoedd cynwysyddion. Mae'n seiliedig ar gynhwyseddd cynhwysydd 20 troedfedd o hyd, sef y blwch metel safonol ar gyfer ei drosglwyddo o un dull trafnidiaeth i'r llall, ee rhwng llongau, trenau a lorïau.Dyma'r acronym a ddefnyddir yn y ddwy iaith am twenty foot equivalent unit/uned gyfwerth ag ugain troedfedd.
toppingbrigdorri  Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. Gweithred a waherddir heb gydsyniad yr awdurdod cynllunio lleol os oes gorchymyn diogelu coed neu orchymyn diogelu coetir yn berthnasol i'r goeden dan sylw.
transport systemsystem drafnidiaethsystemau trafnidiaeth  
tree preservation ordergorchymyn diogelu coedgorchmynion diogelu coedGorchymyn sy'n gwahardd cwympo neu symud coeden neu goed.Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. Disodlwyd y ffurf 'gorchymyn cadw coed' gan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2026.
tree replacement noticehysbysiad amnewid coedhysbysiadau amnewid coedHysbysiad cyfreithiol i orfodi tirfeddiannwr sydd wedi torri coeden warchodedig i blannu coeden neu goed newydd yn ei lle.Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. 
trenchffosffosydd  
twenty foot equivalent unituned gyfwerth ag ugain troedfeddunedau cyfwerth ag ugain troedfeddUned anfanwl o gynhwysedd cargo, a ddefnyddir yn aml ar gyfer llongau cynwysyddion a phorthladdoedd cynwysyddion. Mae'n seiliedig ar gynhwyseddd cynhwysydd 20 troedfedd o hyd, sef y blwch metel safonol ar gyfer ei drosglwyddo o un dull trafnidiaeth i'r llall, ee rhwng llongau, trenau a lorïau.Defnyddir yr acronym TEU yn y ddwy iaith.
underground mining operationsgweithrediadau mwyngloddio tanddaearol  Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. Gweler y cofnod cysylltiedig am mining/mwyngloddio.
uprootingdadwreiddio  Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. Gweithred a waherddir heb gydsyniad yr awdurdod cynllunio lleol os oes gorchymyn diogelu coed neu orchymyn diogelu coetir yn berthnasol i'r goeden dan sylw.
urban development areaardal datblygu trefolardaloedd datblygu trefol  
urban development corporationcorfforaeth datblygu trefolcorfforaethau datblygu trefolCorff statudol a sefydlir o dan Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980 at ddiben adfywio ardal datblygiad trefol. 
volume of underground spacecyfaint y gofod tanddaearol  Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio.
warrant to enter landgwarant i fynd ar dir   
waste water treatment plantgwaith trin dŵr gwastraffgweithfeydd trin dŵr gwastraff  
water undertakerymgymerwr dŵrymgymerwyr dŵr  
water undertaker’s areaardal ymgymerwr dŵrardaloedd ymgymerwyr dŵr  
Welsh infrastructure consentcydsyniad seilwaith Cymreigcydsyniadau seilwaith Cymreig  
Welsh planning ActsDeddfau cynllunio Cymru   
wholly-owned subsidiaryis-gwmni o dan berchnogaeth lwyris-gwmnïau o dan berchnogaeth lwyr  
wind generating stationgorsaf ynni gwyntgorsafoedd ynni gwyntGorsaf sy'n cynhyrchu trydan gan ddefnyddio ynni gwynt. 
winning and workingennill a gweithio Y broses o wneud mwynau’n hygyrch i’w tynnu o'r ddaear (ennill, winning), ac yna eu tynnu’n gorfforol o’r ddaear (gweithio, working). 
winning and working of coalennill a gweithio glo   
winning and working of mineralsennill a gweithio mwynau   
woodland preservation ordergorchymyn diogelu coetirgorchmynion diogelu coetir Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. 
working capacitycynhwysedd gweithredol Y gallu sydd gan gyfleuster i storio nwy dan ddaear, gan anwybyddu unrhyw allu i storio nwy clustogi.