Skip to main content

Information on Welsh place names.

Read details on this page

First published:
23 March 2022
Last updated:

Details

22 Mawrth 2022

Annwyl

ATISN 16112

Y cais

Diolch am eich cais a ddaeth i law ar 23 Chwefror 2022. Roeddech yn gofyn am yr wybodaeth ganlynol:

Y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu enwau tai ac enwau topograffig Cymraeg fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru.

Ein hymateb

Amgaeaf yr wybodaeth y gofynnwyd amdani yn Atodiad A. Anfonwyd fersiwn gynharach o’r wybodaeth hon atoch ar 6 Ionawr eleni.

Yn eich ebost pellach dyddiedig 10 Mawrth 2022, fe wnaethoch nodi eich bod yn teimlo bod yr ateb amgaeedig yn annigonol am nad yw’n cynnwys unrhyw gyfeiriad at ddeddfu i ddiogelu enwau lleoedd Cymraeg. Fodd bynnag, dyma’r holl wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd. Nid oes gwybodaeth am ddatblygiadau polisi pellach ar gael ar y cam hwn, ond mae’n bosibl y byddwn yn gwneud datganiadau dros y misoedd nesaf ynglŷn â hyn, a bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi drwy’r dulliau arferol. Os byddwch o’r farn nad yw’r datganiadau hyn yn mynd at wraidd eich pryderon bryd hynny, yna gallwch gysylltu â ni drachefn.

Y camau nesaf

Os ydych yn anfodlon â'r modd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â'ch cais, gallwch ofyn am adolygiad mewnol o fewn 40 diwrnod gwaith ar ôl dyddiad yr ateb hwn. Dylech anfon cais am adolygiad mewnol at Swyddog Rhyddid Gwybodaeth Llywodraeth Cymru drwy'r post i'r cyfeiriad canlynol:

Yr Uned Hawl i Wybodaeth 
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays 
Caerdydd 
CF10 3NQ 

neu drwy e-bostio: rhyddidgwybodaeth@llyw.cymru

Cofiwch nodi'r cyfeirnod ATISN uchod.   

Mae gennych hawl hefyd i gwyno wrth y Comisiynydd Gwybodaeth. Gallwch gysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn y cyfeiriad canlynol: 

Information Commissioner’s Office 
Wycliffe House 
Water Lane 
Wilmslow 
Cheshire 
SK9 5AF

Fodd bynnag, dylech nodi nad yw'r Comisiynydd fel arfer yn ymchwilio i gŵyn nes ei fod wedi bod drwy ein proses adolygu mewnol ni.

Yn gywir

 

Atodiad A

ATISN 16112

Mae enwau lleoedd yn rhan gynhenid o dirwedd ddiwylliannol a hanesyddol Cymru, yn lleol ac yn genedlaethol. Maent yn arbennig o bwysig i naws weledol a chlywedol cadarnleoedd y Gymraeg, a chydnabyddwn pa mor bwysig yw hi i drysori'r cyfoeth o enwau lleoedd Cymraeg.

Yn hynny o beth, yn ogystal â’r ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio newydd rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, mae ein Rhaglen Lywodraethu ddiweddaraf hefyd yn cynnwys ymrwymiad y byddwn yn “gweithio i amddiffyn enwau lleoedd Cymraeg”.

Fel y gwyddoch, mae’r maes yn un cymhleth, ac mae’n cynnwys nifer o haenau sydd

oll angen eu trin mewn ffordd wahanol. Fel rheol rydym yn rhannu’r maes yn 3 rhan:

  1. Enwau dinasoedd, trefi a phentrefi
  2. Enwau hanesyddol a daearyddol
  3. Enwau tai

Mae’r 3 maes hyn yn cael eu dwyn ymlaen ar y cyd rhwng Cadw, Is-adran y Gymraeg yn Llywodraeth Cymru, a Chomisiynydd y Gymraeg, gyda Cadw’n gyfrifol am y polisi enwau hanesyddol a’r Comisiynydd yn safoni enwau dinasoedd, trefi a phentrefi.

Mae yna gyfoeth o enwau ym mhob rhan o Gymru ar gyfer nodweddion daearyddol, daliadau tir ac eiddo, gan gynnwys ffermydd a thai, a’r enwau hyn yn aml yw’r rhai anoddaf i’w gwarchod. Mae llawer ohonynt yn enwau hanesyddol, ond yn eu hanfod, maent yn fwy cyfnewidiol nag enwau aneddiadau.

Er mwyn ceisio diogelu enwau o bwys hanesyddol, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi llunio Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru, sef yr unig gofnod statudol o enwau lleoedd hanesyddol yn y DU. Bellach mae’n cynnwys bron i 700,000 o gofnodion, ac un o’i phrif amcanion yw codi ymwybyddiaeth o'r cyfoeth o enwau hanesyddol yng Nghymru a'u pwysigrwydd fel rhan o'n treftadaeth ddiwylliannol. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi canllawiau statudol ar gyfer Awdurdodau Lleol, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol a Chyfoeth Naturiol Cymru ar ddefnyddio’r rhestr wrth enwi ac ailenwi eiddo a mannau yn eu gofal. Mae’r canllawiau hefyd yn cynnwys cyfarwyddiadau penodol ar gyfer awdurdodau lleol wrth gyflawni eu swyddogaethau statudol yng nghyswllt enwi a rhifo strydoedd. Sefydlwyd y rhestr yn 2017, ac mae grŵp gorchwyl a gorffen wedi'i sefydlu i adolygu ei gwaith hyd yn hyn ac i lunio argymhellion at y dyfodol.

Er bod y Rhestr yn un ffordd o godi ymwybyddiaeth wrth ystyried newidiadau ffurfiol i enwau, y broblem ehangach yw y gall arwydd gael ei osod ar dŷ neu eiddo arall (e.e. ffermdy, ac felly, fel y nodwch, y tir sy’n gysylltiedig â’r fferm) heb newid ei enw yn swyddogol, neu gall enw busnes gael ei ychwanegu at gyfeiriad sy'n bodoli eisoes. Yn y cyd-destun hwn, un o'r pethau cyntaf y mae angen inni ei wneud yw cynnal ymchwil i bennu union faint y broblem – ar hyn o bryd, mae bylchau mawr yn yr wybodaeth sydd gennym ar draws Cymru. Yna, bydd angen inni fod yn greadigol er mwyn canfod dulliau o reoli rhai o'r newidiadau hyn.

Y man cychwyn yn y tymor byr yw gweithredu lleol, sydd eisoes yn digwydd mewn sawl man. Rhagwelwn y bydd gan rwydwaith o Lysgenhadon Diwylliannol cymunedol, sy’n hyrwyddo ac yn dathlu ein hiaith, ein diwylliant a’n treftadaeth, ran i’w chwarae yn y dyfodol yn hyn o beth. Hefyd, byddwn yn archwilio sut y gellir hyrwyddo gwerth a phwysigrwydd enwau Cymraeg mewn ffyrdd eraill, e.e. pecynnau croeso / gwybodaeth i newydd-ddyfodiaid, archwilio sut mae gwahanol awdurdodau lleol yn dehongli eu rôl yn y maes hwn, sut i farchnata'r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol yn well, ac ystyried a ddylai'r Mentrau Iaith fod â rôl yn hyn o beth. Gan fod hwn yn fater o ddiddordeb cenedlaethol, byddwn hefyd yn ceisio ymestyn y gwaith hwn i lefel genedlaethol.

O safbwynt enwau tirweddol, mae gwaith ar y gweill neu wedi ei wneud yn ddiweddar i:

  • Alinio eitemau Wikidata â data enwau lleoedd safonol Comisiynydd y Gymraeg fel y gallant gael eu dangos ar Open StreetMap Cymru (OSM Cymru), trwy brosesu data a gwaith torfol.
  • Creu a gwella rhwng 5,000 a 10,000 o eitemau Wikidata ar gyfer bryniau, mynyddoedd, coedwigoedd ac afonydd Cymru gyda labeli Cymraeg fel y gallant gael eu harddangos ar y map Cymraeg ar OSM.
  • Cynnal digwyddiadau cyhoeddus Wikidata-OSM Cymru, Wici'r Holl Ddaear, golygathonau mewn ysgolion ar Ynys Môn a chasglu clipiau sain o enwau lleol.
  • Cefnogi’r prosiect torfol #Wicipics ar gyfer labeli Cymraeg ar gyfer adeiladau hanesyddol – mae 1,111 o labeli Cymraeg newydd wedi’u hychwanegu hyd yn hyn.

Bydd hyn oll yn ychwanegu at y data sydd ar gael yn Gymraeg ar gyfer nodweddion tirweddol Cymru. Fel ag yn achos enwau tai ac eiddo, bydd angen cyfuniad o weithredu lleol ac ar lefel genedlaethol i sicrhau bod yr enwau hyn yn cael eu defnyddio a’u bod yn weledol.

Ar 23 Tachwedd fe wnaethon ni gyhoeddi ymgynghoriad ar Gynllun Tai Cymunedau Cymraeg, sy’n cynnwys cynigion o ran:

  • Archwilio sut mae awdurdodau lleol yn cyflawni eu rolau yn y maes hwn.
  • Ystyried y defnydd diweddar o gyfamodau i ddiogelu enwau tai ac archwilio sut y gellir defnyddi’r rhain yn ehangach yn y dyfodol.
  • Ystyried ffyrdd newydd o godi ymwybyddiaeth o'r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol a'i hyrwyddo.

Roedd yr ymgynghoriad hefyd yn cynnwys cwestiwn yn holi:

  • Pa fath o ymyraethau lleol hoffech chi eu gweld i hyrwyddo pwysigrwydd enwau lleoedd Cymraeg, annog pobl i'w cadw ac i sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i gael ei gweld yn ein cymunedau?

Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 22 Chwefror. Fel y byddech yn ei ddisgwyl, cafwyd ymateb mawr i’r ymgynghoriad hwn, ac rydym wrthi’n dadansoddi a dehongli’r ymatebion cyn cyhoeddi’r camau pellach – gan gynnwys mewn perthynas ag enwau Cymraeg.