GOV.WALES uses cookies which are essential for the site to work. Non-essential cookies are also used to tailor and improve services. By continuing to use this site, you agree to our use of cookies.
Context: Apeliadau yn erbyn barnu’n annilys: Mae eich awdurdod cynllunio lleol yn gwneud penderfyniadau am geisiadau cynllunio. Gall yr awdurdod cynllunio lleol ystyried bod cais am ganiatâd cynllunio (neu unrhyw beth sy’n cyd-fynd ag ef) yn annilys. Os bydd yn gwneud hyn, mae’n rhaid iddo roi gwybod i’r ymgeisydd gan esbonio pam mae’r cais yn annilys. Gallwch apelio yn erbyn barnu bod cais yn annilys o fewn pythefnos o ddyddiad yr hysbysiad.