GOV.WALES uses cookies which are essential for the site to work. Non-essential cookies are also used to tailor and improve services. By continuing to use this site, you agree to our use of cookies.
Context: I gyd-fynd â’r pecynnau rhaid cael datganiad (“cyfriflen papurau pleidleisio”) a luniwyd gan y swyddog llywyddu ac sy’n dangos—(a) nifer y papurau pleidleisio a roddwyd i’r swyddog llywyddu, a (b) sut y rhoddwyd cyfrif am y papurau pleidleisio o dan y penawdau a ganlyn—(i) nifer y papurau pleidleisio a ddyroddwyd ac na roddwyd cyfrif amdanynt fel arall; (ii) nifer y papurau pleidleisio sydd heb eu defnyddio; (iii) nifer y papurau pleidleisio a ddifethwyd; (iv) nifer y papurau pleidleisio a dendrwyd.
Notes: Yng nghyd-destun etholiadau. Rhan o'r weithdrefn ar gyfer cau pleidleisiau, a nodir yng Ngorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025.