GOV.WALES uses cookies which are essential for the site to work. Non-essential cookies are also used to tailor and improve services. By continuing to use this site, you agree to our use of cookies.
Context: Ystyr “hyrwyddiad ail-lenwad am ddim” yw hyrwyddiad sy’n cynnig i’r defnyddiwr yr un ddiod neu ddiod arall y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddi (gan gynnwys ychwanegiadau am ddim at unrhyw ddiod o’r fath), am ddim ar ôl yfed diod gyntaf.
Notes: Daw'r testun cyd-destunol o Reoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025
Context: Yn y rheoliad hwn, ystyr “hyrwyddiad pris ar sail swmp” yw (a) hyrwyddiad amleitem, sef cynnig datganedig sy’n rhoi cymhelliad ariannol dros brynu eitemau lluosog o gymharu â phrynu pob eitem ar wahân (gan gynnwys “3 am bris 2”, “3 am £10”, neu “prynu 6 ac arbed 25%”); (b) hyrwyddiad sy’n dangos bod eitem, neu unrhyw ran o eitem, yn rhad ac am ddim (gan gynnwys “50% yn ychwanegol am ddim”, neu “prynu un eitem a chael un arall am ddim”).
Notes: Daw'r testun cyd-destunol o Reoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025