GOV.WALES uses cookies which are essential for the site to work. Non-essential cookies are also used to tailor and improve services. By continuing to use this site, you agree to our use of cookies.
Context: Seinweddau dymunol / pleserus: mae pobl yn tueddu i ddeall seinweddau dymunol / pleserus fel amgylcheddau acwstig sydd yn y cefndir i raddau, gyda chymysgedd o ffynonellau naturiol a dynol a nodweddion dŵr, gyda rhagweladwyedd cymharol uchel, dim newidiadau sydyn, sy’n gogwyddo tuag at lonyddwch, ond ddim o reidrwydd mor "araf" a "distaw" â hynny.
Notes: Un o wyth disgrifydd ar gyfer nodweddion canfyddiadol seinweddau, at ddiben gwneud ymchwil i seinweddau'n unol â ISO/TS 12913-2:2018. Pennwyd y disgrifyddion Cymraeg drwy'r Soundscape Attributes Translation Project (SATP), a arweinir gan UCL, mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru. Gosodir y nodweddion canfyddiadol ar fodel cylchbleth, lle mae gan bob nodwedd un sy'n groes iddi, a lle mae perthynas rhwng nodweddion sydd nesaf at ei gilydd. Mae 'pleasant' yn groes i 'annoying', a rhwng 'vibrant' a 'calm'. Lle ceir dau ansoddair Cymraeg, mae'r ddau i'w defnyddio gyda'i gilydd, yn hytrach na defnyddio'r naill neu'r llall. Gweler y maes Cyd-destun am ddisgrifiad safonol o'r nodwedd ar sail deunyddiau'r SATP. Gweler https://tinyurl.com/cylchblethseinwedd am ddyluniad o’r model cylchbleth Saesneg.