Skip to main content

TermCymru

5 results
Results are displayed in English alphabetical order A-Z
English: annul
Welsh: annilysu
Status A
Subject: Law
Part of speech: Verb
Definition: Peri i is-ddeddfwriaeth a wnaed heb ddilyn gweithdrefn gadarnhau'r Senedd neu weithdrefn gymeradwyo'r Senedd, ac felly a ddaeth i rym yn syth wrth ei gosod, fod yn ddi-rym drwy ddilyn gweithdrefn (gweithdrefn annilysu'r Senedd) a gwblheir o fewn 40 diwrnod i'r adeg y gosodwyd yr is-ddeddfwriaeth gerbron yn Senedd.
Context: Caiff Senedd Cymru, cyn diwedd y 40 niwrnod sy’n dechrau â’r dyddiad y gosodir yr offeryn statudol Cymreig ger ei bron, benderfynu annilysu’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys yn yr offeryn.
Notes: Dyma hefyd y term Cymraeg a argymhellir ar gyfer trosi 'annul' wrth gyfeirio at ddiddymu deddfwriaeth mewn cyd-destunau eraill (ee mewn seneddau eraill).
Last Updated: 25 November 2024
Welsh: diddymu priodas
Status B
Subject: Law
Part of speech: Verb
Notes: Serch hynny, sylwer mai 'dirymu' yw 'annulment' yn y rhan fwyaf o gyd-destunau. Defnyddir 'diddymu' yng nghyd-destun priodas er mwyn gwahaniaethu wrth 'dissolution of marriage'.
Last Updated: 28 December 2017
Welsh: cyfnod dirymu
Status C
Subject: Law
Part of speech: Noun, Masculine, Singular
Last Updated: 8 December 2010
Welsh: cynnig i ddirymu
Status C
Subject: Law
Part of speech: Noun, Masculine, Singular
Plural: cynigion i ddirymu
Last Updated: 25 November 2022
Welsh: gweithdrefn annilysu'r Senedd
Status A
Subject: Law
Part of speech: Noun, Feminine, Singular
Definition: Gweithdrefn yn Senedd Cymru ar gyfer gwneud deddfwriaeth. Drwy'r weithdrefn hon daw'r ddeddfwriaeth ddrafft yn gyfraith wrth gael ei gwneud, ond gall gael ei hannilysu - a cholli ei grym - drwy bleidlais yn y Senedd hyd at 40 diwrnod ar ôl iddi gael ei gwneud.
Context: Mae’r adran hon yn gymwys pan fo deddfiad yn darparu bod is-ddeddfwriaeth sydd i’w gwneud drwy offeryn statudol Cymreig yn ddarostyngedig i “weithdrefn annilysu'r Senedd”.
Notes: Un o dair prif weithdrefn arfaethedig Senedd Cymru ar gyfer gwneud deddfwriaeth. Y ddwy arall yw gweithdrefn gadarnhau'r Senedd a gweithdrefn gymeradwyo'r Senedd.
Last Updated: 25 November 2024