GOV.WALES uses cookies which are essential for the site to work. Non-essential cookies are also used to tailor and improve services. By continuing to use this site, you agree to our use of cookies.
Context: Seinweddau caotig: fel arfer i'w cael ar ffyrdd (canu corn, goddiweddyd, seirenau) a thraffig awyr, synau eraill o safleoedd adeiladu; llawer o ffynonellau o wahanol fathau, anghydamserol â'i gilydd, hefyd yn dod o wahanol gyfeiriadau, yn eithaf uchel, dim patrwm; anhrefnus iawn o ran eu digwyddiadedd, math, cynnwys amlder, etc; un o'u prif nodweddion yw bod yn anrhagweladwy.
Notes: Un o wyth disgrifydd ar gyfer nodweddion canfyddiadol seinweddau, at ddiben gwneud ymchwil i seinweddau'n unol â ISO/TS 12913-2:2018. Pennwyd y disgrifyddion Cymraeg drwy'r Soundscape Attributes Translation Project (SATP), a arweinir gan UCL, mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru. Gosodir y nodweddion canfyddiadol ar fodel cylchbleth, lle mae gan bob nodwedd un sy'n groes iddi, a lle mae perthynas rhwng nodweddion sydd nesaf at ei gilydd. Mae 'chaotic' yn groes i 'calm', a rhwng 'annoying' ac 'eventful'. Lle ceir dau ansoddair Cymraeg, mae'r ddau i'w defnyddio gyda'i gilydd, yn hytrach na defnyddio'r naill neu'r llall. Gweler y maes Cyd-destun am ddisgrifiad safonol o'r nodwedd ar sail deunyddiau'r SATP. Gweler https://tinyurl.com/cylchblethseinwedd am ddyluniad o’r model cylchbleth Saesneg.