Skip to main content

TermCymru

7 results
Results are displayed in English alphabetical order A-Z
English: common law
Welsh: cyfraith gyffredin
Status A
Subject: Law
Part of speech: Noun, Feminine, Singular
Definition: Corff o gyfraith yng Nghymru a Lloegr a ddatblygir gan y llysoedd o’i gyferbynnu â’r corff a lunnir drwy statud.
Context: Nid yw’r rheol gyfreithiol bod dyletswydd oblygedig ar denant i ymddwyn fel tenant wrth ddefnyddio annedd sydd ar les (yn yr ystyr sydd i “tenant-like user” yn ôl y gyfraith gyffredin) yn gymwys i ddeiliad contract os yw’r denantiaeth yn gontract meddiannaeth.
Last Updated: 12 September 2018
English: common law
Welsh: cyfraith gyffredin
Status A
Subject: Law
Part of speech: Noun, Feminine, Singular
Definition: Rheolau cyfraith a ddatblygwyd yng Nghymru a Lloegr yn hanesyddol gan Lysoedd y Brenin o’u cyferbynnu â rheolau ecwiti a ddatblygwyd gan Lysoedd y Canghellor; mae’r ddwy set o reolau bellach yn cael eu gweinyddu gan system lysoedd unedig.
Context: Effaith gwneud y llysoedd yn awdurdod cyhoeddus o dan y Ddeddf yw rhoi pwysau arnynt i fireinio ac i ddatblygu rheolau’r gyfraith gyffredin ac ecwiti mewn ffordd sy’n cyd-fynd â hawliau’r Confensiwn.
Notes: Er bod y ddwy “system” yn cael eu gweinyddu o fewn yr un drefn lysoedd, mae gwahaniaeth yn parhau rhyngddynt, er enghraifft rhwng rhwymedïau’r gyfraith gyffredin a rhwymedïau ecwiti. Os yw rhywun yn torri contract, un o rwymedïau’r gyfraith gyffredin yw talu iawndal, ond o dan reolau ecwiti, mae modd i’r llys orchymyn i’r parti sydd heb gyflawni telerau’r contract i wneud hynny (‘specific performance’) neu roi’r ddau barti yn ôl yn eu sefyllfa cyn gwneud y contract drwy ddad-wneud y contract (‘recission’).
Last Updated: 12 September 2018
English: common law
Welsh: cyfraith gyffredin
Status A
Subject: Law
Part of speech: Noun, Feminine, Singular
Definition: Y corff o gyfraith sy’n seiliedig ar system gyfreithiol Cymru a Lloegr, o’i chyferbynnu â systemau cyfraith sifil sy’n seiliedig ar y Cod Napoleonaidd neu Gyfraith Rhufain.
Context: Yn yr un modd ag y lledaenodd traddodiad y gyfraith gyffredin drwy’r byd yn sgil twf yr Ymerodraeth Brydeinig, aethpwyd â’r gyfraith sifil i gyfandiroedd eraill drwy ymdrechion ymerodraethol gwladwriaethau eraill yng ngorllewin Ewrop.
Last Updated: 12 September 2018
Welsh: amddiffyniad yn y gyfraith gyffredin
Status A
Subject: Law
Part of speech: Noun, Masculine, Singular
Last Updated: 13 December 2017
Welsh: trosedd yn y gyfraith gyffredin
Status A
Subject: Law
Part of speech: Noun, Feminine, Singular
Last Updated: 13 December 2017
Welsh: hawl mynediad o dan y gyfraith gyffredin
Status A
Subject: Planning
Part of speech: Noun, Feminine, Singular
Last Updated: 27 February 2014
Welsh: tenant y gyfraith gyffredin
Status B
Subject: Housing
Part of speech: Noun, Masculine, Singular
Last Updated: 24 May 2012