Skip to main content

TermCymru

28 results
Results are displayed in English alphabetical order A-Z
Welsh: Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol
Status A
Subject: General
Part of speech: Adjective
Definition: Pobl sy’n dod o gefndir Du, Asiaidd neu ethnig leiafrifol arall
Notes: Daw'r term hwn o gasgliad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Derminoleg ym maes Cydraddoldeb o ran Hil ac Ethnigrwydd. Diffiniad a nodiadau defnydd y Grŵp a gofnodir gyda'r cofnod hwn. "Peidiwch â defnyddio’r term na’r acronym Saesneg ‘BAME’ os oes modd ei osgoi, gan ei fod yn tramgwyddo rhai pobl y mae’n ceisio’i ddisgrifio, drwy grwpio a chyffredinoli a phwysleisio rhai grwpiau gan eithrio eraill. Caiff ei gynnwys yma yn unig er mwyn rhoi arweiniad i'r rhai sydd yn gorfod ei drosi i’r Gymraeg. Defnyddiwch y term Cymraeg llawn yn unig os oes angen cyfateb i’r Saesneg ‘BAME’. O ddewis, disgrifiwch pobl yn ôl eu cymuned ethnig unigol, nid yn ôl lliw croen na chategorïau gorgyffredinol. Os oes rhaid cyffredinoli, defnyddiwch ymadrodd fel ‘cymunedau ethnig amrywiol’ (‘diverse ethnic communities’) neu ‘mwyafrif byd-eang’ (‘global majority’)."
Last Updated: 18 April 2023
Welsh: Tsieineaidd neu grŵp ethnig arall
Status A
Subject: Personnel
Part of speech: Adjective
Definition: ethnic group used in 2001 Census
Last Updated: 26 April 2005
Welsh: cymuned ethnig
Status A
Subject: General
Part of speech: Noun, Feminine, Singular
Plural: cymunedau ethnig
Definition: Uned gymdeithasol sy’n rhannu hunaniaeth ar sail nodweddion fel tarddiad, iaith, hanes, traddodiadau, crefydd, neu ddiwylliant cyffredin. Cymerir weithiau fod y termau ‘grŵp ethnig’ a ‘cymuned ethnig’ yn gyfystyron, ond mae’r ymdeimlad o berthyn yn gryfach wrth ddefnyddio ‘cymuned’, gyda’r defnydd o ‘grŵp’ yn fwy amlwg wrth gasglu ystadegau Llywodraeth.
Notes: Daw'r term hwn o gasgliad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Derminoleg ym maes Cydraddoldeb o ran Hil ac Ethnigrwydd. Diffiniad y Grŵp a gofnodir gyda'r cofnod hwn.
Last Updated: 18 April 2023
English: ethnic group
Welsh: grŵp ethnig
Status A
Subject: General
Part of speech: Noun, Masculine, Singular
Plural: grwpiau ethnig
Definition: Categori o bobl sy’n rhannu hunaniaeth ar sail nodweddion fel tarddiad neu ddiwylliant cyffredin. Ar gyfer casglu data yng nghyfrifiad y boblogaeth, y dosbarthiad a ddefnyddir ar gyfer grwpiau ethnig yw Asiaidd, Du, Cymysg, Gwyn ac Arall, gydag isgategorïau yn y rhain i gyd.
Notes: Daw'r term hwn o gasgliad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Derminoleg ym maes Cydraddoldeb o ran Hil ac Ethnigrwydd. Diffiniad a nodiadau defnydd y Grŵp a gofnodir gyda'r cofnod hwn.
Last Updated: 18 April 2023
English: ethnicity
Welsh: ethnigrwydd
Status A
Subject: Finance and statistics
Part of speech: Noun, Masculine, Singular
Context: Er nad oes gennym ddadansoddiadau manwl ar gyfer gwahanol gefndiroedd ethnig, mae’r data diweddaraf yn dangos bod cefndir ethnig heb fod yn wyn yn gysylltiedig â mwy o debygolrwydd o dlodi incwm cymharol.
Last Updated: 25 July 2019
Welsh: data ethnigrwydd
Status B
Subject: Finance and statistics
Part of speech: Noun, Masculine, Singular
Last Updated: 25 June 2020
Welsh: bwlch cyflog ethnigrwydd
Status C
Subject: Finance and statistics
Part of speech: Noun, Masculine, Singular
Last Updated: 2 March 2023
Welsh: Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru
Status A
Subject: General
Part of speech: Noun, Masculine, Singular
Notes: Teitl ar sefydliad allanol - elusen sy'n cefnogi pobl ifanc yng Nghymru drwy raglenni ym meysydd addysg, cyflogaeth, iechyd, a diogelwch a chydlyniant cymunedol.
Last Updated: 4 August 2025
Welsh: Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Iechyd Meddwl Lleiafrifoedd Ethnig
Status B
Subject: Health
Part of speech: Noun, Masculine, Singular
Last Updated: 1 March 2024
Welsh: ethnig leiafrifol
Status B
Subject: General
Part of speech: Adjective
Notes: Dyma'r ffurf gryno Gymraeg i'w defnyddio pan fydd "ethnic minority" yn cael ei ddefnyddio fel ymadrodd ansoddeiriol yn Saesneg. Sylwer y dylid treiglo'r elfen olaf hyd yn oed os yw'n goleddfu enw gwrywaidd neu luosog, gan mai ansoddair cyfansawdd llac yw "ethnig leiafrifol". Mewn cyd-destunau lle nad oes raid bod yn gryno, gallai "o grŵp ethnig lleiafrifol" fod yn opsiwn amgen addas.
Last Updated: 18 April 2023
Welsh: lleiafrif ethnig
Status B
Subject: General
Part of speech: Noun, Masculine, Singular
Plural: lleiafrifoedd ethnig
Notes: Dyma'r ffurf Gymraeg i'w defnyddio pan fydd "ethnic minority" yn cael ei ddefnyddio fel ymadrodd enwol yn Saesneg.
Last Updated: 18 April 2023
Welsh: cymuned ethnig leiafrifol
Status A
Subject: General
Part of speech: Noun, Feminine, Singular
Plural: cymunedau ethnig lleiafrifol
Definition: Cymuned o bobl sy’n perthyn i leiafrif ethnig o fewn y diriogaeth neu’r ardal dan sylw.
Notes: Daw'r term hwn o gasgliad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Derminoleg ym maes Cydraddoldeb o ran Hil ac Ethnigrwydd. Diffiniad a nodiadau defnydd y Grŵp a gofnodir gyda'r cofnod hwn: "Weithiau defnyddir y term ‘minority ethnic community’ yn Saesneg ond argymhellir defnyddio’r un drefn geiriau i gyfieithu’r ddau derm yn Gymraeg." Yn y term hwn mae'r ansoddair 'lleiafrifol' yn goleddfu'r ymadrodd 'cymuned ethnig'.
Last Updated: 3 June 2024
Welsh: Y Sefydliad Lleiafrifoedd Ethnig
Status C
Subject: Local government
Part of speech: Noun, Masculine, Singular
Last Updated: 23 September 2005
Welsh: grŵp ethnig lleiafrifol
Status A
Subject: General
Part of speech: Noun, Masculine, Singular
Plural: grwpiau ethnig lleiafrifol
Definition: Grŵp o bobl sy’n perthyn i leiafrif ethnig o fewn y diriogaeth neu’r ardal dan sylw.
Notes: Daw'r term hwn o gasgliad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Derminoleg ym maes Cydraddoldeb o ran Hil ac Ethnigrwydd. Diffiniad a nodiadau defnydd y Grŵp a gofnodir gyda'r cofnod hwn: "Weithiau defnyddir y term ‘minority ethnic group’ yn Saesneg ond argymhellir defnyddio’r un drefn geiriau i gyfieithu’r ddau derm yn Gymraeg." Yn y term hwn mae'r ansoddair 'lleiafrifol' yn goleddfu'r ymadrodd 'grŵp ethnig'.
Last Updated: 3 June 2024
Welsh: Y Cynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol i Athrawon ar gyfer Rhai o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol
Status B
Subject: Education
Part of speech: Noun, Masculine, Singular
Definition: Cynllun grant gan Lywodraeth Cymru a fu ar gael ers Medi 2022. Nod y cynllun yw cynyddu nifer yr athrawon sydd o gymunedau ethnig lleiafrifol, fel bod dysgwyr Cymru yn cael profiad dysgu mwy amrywiol.
Last Updated: 5 June 2024
Welsh: Y Cynllun Cymhelliant AGA ar gyfer Rhai o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol
Status B
Subject: Education
Part of speech: Noun, Masculine, Singular
Definition: Cynllun grant gan Lywodraeth Cymru a fu ar gael ers Medi 2022. Nod y cynllun yw cynyddu nifer yr athrawon sydd o gymunedau ethnig lleiafrifol, fel bod dysgwyr Cymru yn cael profiad dysgu mwy amrywiol.
Last Updated: 5 June 2024
Welsh: disgybl ethnig leiafrifol
Status B
Subject: General
Part of speech: Noun, Masculine, Singular
Plural: disgyblion ethnig leiafrifol
Notes: Mewn cyfuniadau Saesneg o'r math hwn, dehonglir bod "ethnic minority" yn cael ei ddefnyddio fel ymadrodd ansoddeiriol yn Saesneg. Sylwer y dylid treiglo'r elfen olaf, er ei bod yn goleddfu enw gwrywaidd, gan mai ansoddair cyfansawdd llac yw "ethnig leiafrifol". Mewn cyd-destunau lle nad oes raid bod yn gryno, gallai "disgybl o grŵp ethnig lleiafrifol" fod yn opsiwn amgen addas.
Last Updated: 18 April 2023
Welsh: staff ethnig leiafrifol
Status B
Subject: General
Part of speech: Noun, Plural
Notes: Mewn cyfuniadau Saesneg o'r math hwn, dehonglir bod "ethnic minority" yn cael ei ddefnyddio fel ymadrodd ansoddeiriol yn Saesneg. Sylwer y dylid treiglo'r elfen olaf, er ei bod yn goleddfu enw lluosog, gan mai ansoddair cyfansawdd llac yw "ethnig leiafrifol". Mewn cyd-destunau lle nad oes raid bod yn gryno, gallai "staff o grŵp ethnig lleiafrifol" fod yn opsiwn amgen addas.
Last Updated: 18 April 2023
Welsh: athro ethnig leiafrifol
Status B
Subject: General
Part of speech: Noun, Masculine, Singular
Plural: athrawon ethnig leiafrifol
Notes: Mewn cyfuniadau Saesneg o'r math hwn, dehonglir bod "ethnic minority" yn cael ei ddefnyddio fel ymadrodd ansoddeiriol yn Saesneg. Sylwer y dylid treiglo'r elfen olaf, er ei bod yn goleddfu enw gwrywaidd, gan mai ansoddair cyfansawdd llac yw "ethnig leiafrifol". Mewn cyd-destunau lle nad oes raid bod yn gryno, gallai "athro o grŵp ethnig lleiafrifol" fod yn opsiwn amgen addas.
Last Updated: 18 April 2023
Welsh: bwlch cyflog ethnigrwydd cymedrig
Status C
Subject: Finance and statistics
Part of speech: Noun, Masculine, Singular
Last Updated: 2 March 2023
Welsh: bwlch cyflog ethnigrwydd canolrifol
Status C
Subject: Finance and statistics
Part of speech: Noun, Masculine, Singular
Last Updated: 2 March 2023
Welsh: Grŵp yr Awdurdodau Lleol ar gyfer Cyflawniad Disgyblion o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol
Status B
Subject: Education
Part of speech: Noun, Masculine, Singular
Last Updated: 6 October 2022
Welsh: Gwasanaeth Cyrhaeddiad Disgyblion o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol
Status A
Subject: Education
Part of speech: Noun, Masculine, Singular
Notes: Math o wasanaeth a ddarperir gan awdurdodau addysg lleol.
Last Updated: 6 October 2022
Welsh: cymuned ethnig leiafrifol
Status A
Subject: General
Part of speech: Noun, Feminine, Singular
Plural: cymunedau ethnig lleiafrifol
Definition: Cymuned o bobl sy’n perthyn i leiafrif ethnig o fewn y diriogaeth neu’r ardal dan sylw.
Notes: Daw'r term hwn o gasgliad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Derminoleg ym maes Cydraddoldeb o ran Hil ac Ethnigrwydd. Diffiniad a nodiadau defnydd y Grŵp a gofnodir gyda'r cofnod hwn: "Weithiau defnyddir y term ‘ethnic minority community’ yn Saesneg ond argymhellir defnyddio’r un drefn geiriau i gyfieithu’r ddau derm yn Gymraeg." Yn y term hwn mae'r ansoddair 'lleiafrifol' yn goleddfu'r ymadrodd 'cymuned ethnig'.
Last Updated: 3 June 2024
Welsh: grŵp ethnig lleiafrifol
Status A
Subject: General
Part of speech: Noun, Masculine, Singular
Plural: grwpiau ethnig lleiafrifol
Definition: Grŵp o bobl sy’n perthyn i leiafrif ethnig o fewn y diriogaeth neu’r ardal dan sylw.
Notes: Daw'r term hwn o gasgliad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Derminoleg ym maes Cydraddoldeb o ran Hil ac Ethnigrwydd. Diffiniad a nodiadau defnydd y Grŵp a gofnodir gyda'r cofnod hwn: "Weithiau defnyddir y term ‘ethnic minority group’ yn Saesneg ond argymhellir defnyddio’r un drefn geiriau i gyfieithu’r ddau derm yn Gymraeg." Yn y term hwn mae'r ansoddair 'lleiafrifol' yn goleddfu'r ymadrodd 'grŵp ethnig'.
Last Updated: 3 June 2024
Welsh: Y Grant Disgyblion o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol, Sipsiwn, Roma a Theithwyr
Status A
Subject: Education
Part of speech: Noun, Masculine, Singular
Last Updated: 6 October 2022
Welsh: Rhwydwaith y Staff Ethnig Lleiafrifol
Status A
Subject: Personnel
Part of speech: Noun, Masculine, Singular
Notes: Rhwydwaith i staff yn Llywodraeth Cymru.
Last Updated: 1 July 2021
Welsh: Nenfwd Gwydr Triphlyg: Rhwystrau i Fenywod Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) rhag cymryd rhan yn yr economi
Status B
Subject: Community development
Part of speech: Proper noun
Notes: Adroddiad gan y mudiad Chwarae Teg.
Last Updated: 25 March 2021