GOV.WALES uses cookies which are essential for the site to work. Non-essential cookies are also used to tailor and improve services. By continuing to use this site, you agree to our use of cookies.
Context: Seinweddau undonog: fel arfer, lefel isel-ganolig o fath o sain sy’n debyg i ffan; gallai hyn naill ai bod yn gyson/parhaus, neu fod yn ailadrodd, gydag ysbeidiau byr o dawelwch (ee lefel isel o sain ceir pell yn pasio heibio’n aml, neu hymian peiriant, waeth beth fo'r lefel ond yn gyson iawn); dim un digwyddiad sain yn erbyn cefndir (cymhareb signal-i-sŵn isel).
Notes: Un o wyth disgrifydd ar gyfer nodweddion canfyddiadol seinweddau, at ddiben gwneud ymchwil i seinweddau'n unol â ISO/TS 12913-2:2018. Pennwyd y disgrifyddion Cymraeg drwy'r Soundscape Attributes Translation Project (SATP), a arweinir gan UCL, mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru. Gosodir y nodweddion canfyddiadol ar fodel cylchbleth, lle mae gan bob nodwedd un sy'n groes iddi, a lle mae perthynas rhwng nodweddion sydd nesaf at ei gilydd. Mae 'monotonous' yn groes i 'vibrant', a rhwng 'uneventful' ac 'annoying'. Lle ceir dau ansoddair Cymraeg, mae'r ddau i'w defnyddio gyda'i gilydd, yn hytrach na defnyddio'r naill neu'r llall. Gweler y maes Cyd-destun am ddisgrifiad safonol o'r nodwedd ar sail deunyddiau'r SATP. Gweler https://tinyurl.com/cylchblethseinwedd am ddyluniad o’r model cylchbleth Saesneg.