Skip to main content

TermCymru

28 results
Results are displayed by relevance.
Welsh: pôl y rhoddir y gorau iddo
Status B
Subject: Politics
Part of speech: Noun, Masculine, Singular
Plural: polau y rhoddir y gorau iddynt
Definition: Pôl a ddygir i ben gan fod y swyddog canlyniadau wedi ei fodloni, ar ôl i'r pleidleisio ddechrau ond cyn i ganlyniadau'r etholiad gael eu datgan, fod un o'r ymgeiswyr wedi marw.
Context: Mae’r rheol hon yn gymwys i bôl y rhoddir y gorau iddo yn unol â rheol 72(1)(b) fel pe bai’n bôl mewn etholiad a ymleddir.
Notes: Gweler y cofnodion am poll/pôl a polling/pôl ym maes gwleidyddiaeth. Wrth gyfeirio at bôl penodol yn y gorffennol, bydd 'pôl y rhoddwyd y gorau iddo' yn fwy addas. Daw'r testun cyd-destunol o Orchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025.
Last Updated: 28 May 2025
Welsh: cyfuno polau
Status B
Subject: Politics
Part of speech: Verb
Definition: Cynnal dau neu ragor o etholiadau ar yr un pryd, gan ddefnyddio'r un trefniadau gweinyddol ar gyfer pob proses.
Notes: Gweler y cofnodion am poll/pôl a polling/pôl ym maes gwleidyddiaeth.
Last Updated: 29 May 2025
English: combined poll
Welsh: pôl cyfun
Status B
Subject: Politics
Part of speech: Noun, Masculine, Singular
Plural: polau cyfun
Definition: Dau neu ragor o etholiadau a gynhelir ar yr un pryd, gan ddefnyddio'r un trefniadau gweinyddol ar gyfer pob proses.
Notes: Gweler y cofnodion am poll/pôl a polling/pôl ym maes gwleidyddiaeth.
Last Updated: 29 May 2025
English: date of poll
Welsh: dyddiad pôl
Status B
Subject: Politics
Part of speech: Noun, Masculine, Singular
Plural: dyddiadau polau
Notes: Gweler y cofnodion am poll/pôl a polling/pôl ym maes gwleidyddiaeth.
Last Updated: 28 May 2025
English: day of poll
Welsh: diwrnod pôl
Status B
Subject: Politics
Part of speech: Noun, Masculine, Singular
Plural: diwrnodau polau
Notes: Gweler y cofnodion am poll/pôl a polling/pôl ym maes gwleidyddiaeth.
Last Updated: 29 May 2025
English: deed poll
Welsh: gweithred newid enw
Status C
Subject: Law
Part of speech: Noun, Feminine, Singular
Definition: Change a name deed.
Last Updated: 7 June 2007
English: deed poll
Welsh: gweithred unrhan
Status C
Subject: Law
Part of speech: Noun, Feminine, Singular
Context: In terms of property law.
Last Updated: 7 June 2007
Welsh: gweithred newid enw gofrestredig
Status B
Subject: Law
Part of speech: Noun, Feminine, Singular
Plural: gweithredoedd newid enw cofrestredig
Definition: Gweithred newid enw y gwnaed cofnod cyhoeddus ohoni drwy ei chofrestru yn y Llysoedd Cyfiawnder Brenhinol.
Context: At the age of 18 a person can change their name by enrolled deed poll. Young people over 16 can change their legal name by unenrolled deed poll without requiring consent of those with parental responsibility. Learners under 18 can also change their legal name by enrolled deed poll with consent from all those with legal responsibility.
Last Updated: 2 May 2024
English: exit poll
Welsh: pôl ymadael
Status B
Subject: Politics
Part of speech: Noun, Masculine, Singular
Plural: polau ymadael
Definition: Pôl piniwn a gynhelir wrth i bleidleiswyr adael gorsaf neu orsafoedd pleidleisio.
Notes: Gweler y cofnod am opinion poll/pôl piniwn ym maes cyllid ac ystadegau.
Last Updated: 28 May 2025
English: flat poll
Welsh: pen fflat
Status C
Subject: Environment
Part of speech: Noun, Masculine, Singular
Definition: Type of cabbage.
Last Updated: 1 June 2005
English: hours of poll
Welsh: oriau'r pôl
Status B
Subject: Politics
Part of speech: Noun, Plural
Notes: Gweler y cofnodion am poll/pôl a polling/pôl ym maes gwleidyddiaeth.
Last Updated: 28 May 2025
Welsh: gorsaf bleidleisio symudol
Status A
Subject: Politics
Part of speech: Noun, Feminine, Singular
Plural: gorsafoedd pleidleisio symudol
Notes: Gweler y cofnodion am poll/pôl a polling/pôl ym maes gwleidyddiaeth.
Last Updated: 29 May 2025
Welsh: cerdyn swyddogol pleidleisio drwy ddirprwy
Status B
Subject: Politics
Part of speech: Noun, Masculine, Singular
Plural: cardiau swyddogol pleidleisio drwy ddirprwy
Context: Rhaid i gerdyn swyddogol pleidleisio drwy ddirprwy neu gerdyn swyddogol pleidleisio drwy’r post drwy ddirprwy gael ei anfon neu ei ddanfon i gyfeiriad y dirprwy, fel y’i dangosir yn y rhestr dirprwyon.
Notes: Gweler y cofnodion am poll/pôl a polling/pôl ym maes gwleidyddiaeth. Daw'r testun cyd-destunol o Orchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025.
Last Updated: 29 May 2025
Welsh: cerdyn swyddogol pleidleisio drwy'r post drwy ddirprwy
Status B
Subject: Politics
Part of speech: Noun, Masculine, Singular
Plural: cardiau swyddogol pleidleisio drwy'r post drwy ddirprwy
Context: Rhaid i gerdyn swyddogol pleidleisio drwy ddirprwy neu gerdyn swyddogol pleidleisio drwy’r post drwy ddirprwy gael ei anfon neu ei ddanfon i gyfeiriad y dirprwy, fel y’i dangosir yn y rhestr dirprwyon.
Notes: Gweler y cofnodion am poll/pôl a polling/pôl ym maes gwleidyddiaeth. Daw'r testun cyd-destunol o Orchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025.
Last Updated: 29 May 2025
English: opinion poll
Welsh: pôl piniwn
Status B
Subject: Finance and statistics
Part of speech: Noun, Masculine, Singular
Plural: polau piniwn
Definition: Arolwg o sampl cynrychioliadol o bobl er mwyn casglu gwybodaeth am farn ar fater penodol.
Notes: Weithiau defnyddir y ffurf fer poll/pôl am y cysyniad hwn. Sylwer ar y gwahaniaeth ystyr rhwng 'poll' ym maes cyllid ac ystadegau a 'poll' ym maes gwleidyddiaeth.
Last Updated: 28 May 2025
English: poll
Welsh: pôl
Status B
Subject: Politics
Part of speech: Noun, Masculine, Singular
Plural: polau
Definition: Y trefniant i gofnodi pleidleisiau mewn etholiad, neu'r broses o wneud hynny.
Notes: Mewn cyd-destunau technegol, sylwer bod gwahaniaeth rhwng poll/pôl a vote/pleidlais. Serch hynny, mewn rhai cyfuniadau hirsefydledig yn Gymraeg defnyddir 'pleidlais' neu 'pleidleisio' i drosi 'poll' neu 'polling', ee polling station/gorsaf bleidleisio, yn enwedig lle mae'r termau hynny yn ymwneud â'r weithred o fwrw pleidlais gan unigolyn. Sylwer hefyd ar y gwahaniaeth rhwng 'poll' ym maes gwleidyddiaeth a 'poll' (neu 'opinion poll') ym maes cyllid ac ystadegau.
Last Updated: 29 May 2025
English: poll card
Welsh: cerdyn pleidleisio
Status B
Subject: Politics
Part of speech: Noun, Masculine, Singular
Plural: cardiau pleidleisio
Notes: Gweler y cofnodion am poll/pôl a polling/pôl ym maes gwleidyddiaeth.
Last Updated: 28 May 2025
English: poll clerk
Welsh: clerc pôl
Status B
Subject: Politics
Part of speech: Noun, Masculine, Singular
Plural: clercod polau
Definition: Gweithiwr mewn gorsaf bleidleisio sy'n helpu’r swyddog llywyddu.
Notes: Gweler y cofnodion am poll/pôl a polling/pôl ym maes gwleidyddiaeth.
Last Updated: 28 May 2025
English: polling
Welsh: pôl
Status B
Subject: Politics
Part of speech: Noun, Masculine, Singular
Definition: Y trefniant i gofnodi pleidleisiau mewn etholiad, neu'r broses o wneud hynny.
Notes: Mewn cyd-destunau technegol, sylwer bod gwahaniaeth rhwng polling/pôl a voting/pleidleisio. Serch hynny, mewn rhai cyfuniadau hirsefydledig yn Gymraeg defnyddir 'pleidlais' neu 'pleidleisio' i drosi 'poll' neu 'polling', ee polling station/gorsaf bleidleisio, yn enwedig lle mae'r termau hynny yn ymwneud â'r broses o fwrw pleidlais gan unigolyn. Gellir defnyddio'r ffurf ferfenwol 'polio' lle bo angen.
Last Updated: 29 May 2025
English: polling agent
Welsh: asiant pôl
Status B
Subject: Politics
Part of speech: Noun, Masculine, Singular
Plural: asiantiaid pôl
Definition: Person sydd yn cynrychioli ymgeisydd mewn gorsaf bleidleisio.
Context: Cyn i’r bleidlais ddechrau, caiff ymgeisydd unigol ac asiant etholiad plaid wleidyddol gofrestredig sy’n dal wedi ei henwebu benodi—(a) asiantiaid pôl i fod yn bresennol mewn gorsafoedd pleidleisio er mwyn canfod cambersonadu, a (b) asiantiaid cyfrif i fod yn bresennol wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif.
Notes: Gweler y cofnodion am poll/pôl a polling/pôl ym maes gwleidyddiaeth. Daw'r testun cyd-destunol o Orchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025.
Last Updated: 28 May 2025
English: polling booth
Welsh: bwth pleidleisio
Status B
Subject: Politics
Part of speech: Noun, Masculine, Singular
Plural: bythau pleidleisio
Notes: Gweler y cofnodion am poll/pôl a polling/pôl ym maes gwleidyddiaeth.
Last Updated: 29 May 2025
English: polling day
Welsh: diwrnod pôl
Status B
Subject: Politics
Part of speech: Noun, Masculine, Singular
Plural: diwrnodau polau
Notes: Gweler y cofnodion am poll/pôl a polling/pôl ym maes gwleidyddiaeth.
Last Updated: 28 May 2025
Welsh: dosbarth pôl
Status B
Subject: Politics
Part of speech: Noun, Masculine, Singular
Plural: dosbarthau pôl
Definition: Is-ran ddaearyddol o ardal etholiadol.
Context: At ddibenion etholiadau’r Senedd rhaid rhannu pob etholaeth yn ddosbarthau pôl. Rhaid bod man pôl ar gyfer pob dosbarth pôl, oni bai bod maint neu amgylchiadau eraill dosbarth pôl yn golygu nad yw lleoliad y gorsafoedd pleidleisio yn effeithio’n sylweddol ar y cyfleustra i’r etholwyr, na’r cyfleustra i unrhyw gorff ohonynt.
Notes: Gweler y cofnodion am poll/pôl a polling/pôl ym maes gwleidyddiaeth. Daw'r testun cyd-destunol o Orchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025.
Last Updated: 28 May 2025
English: polling place
Welsh: man pôl
Status B
Subject: Politics
Part of speech: Noun, Masculine, Singular
Plural: mannau pôl
Definition: Adeilad neu ardal lle bydd y Swyddog Canlyniadau yn dewis agor gorsaf bleidleisio. Er enghraifft gall man pôl fod yn ganolfan hamdden, eglwys neu ysgol, yr agorir gorsaf bleidleisio mewn rhan ohoni.
Notes: Gweler y cofnodion am poll/pôl a polling/pôl ym maes gwleidyddiaeth.
Last Updated: 28 May 2025
Welsh: gorsaf bleidleisio
Status A
Subject: Politics
Part of speech: Noun, Feminine, Singular
Plural: gorsafoedd pleidleisio
Definition: Ystafell neu ardal o fewn y man pôl, lle bydd etholwyr yn bwrw pleidlais. Yn wahanol i fannau pôl, sy'n cael eu pennu gan yr awdurdod lleol, y Swyddog Canlyniadau sy'n dewis gorsafoedd pleidleisio at ddiben unrhyw etholiad.
Context: Yn ein hetholiadau lleol fis diwethaf roedd y profiad o bleidleisio i’r rhan fwyaf o bobl, heblaw am rai eithriadau, yr un fath â’r profiad y byddai eu teidiau a’u neiniau wedi’i gael: cerdded i’r orsaf bleidleisio leol a llenwi papur pleidleisio gyda phensil yn sownd wrth linyn.
Notes: Gweler y cofnodion am poll/pôl a polling/pôl ym maes gwleidyddiaeth.
Last Updated: 28 May 2025
English: recall poll
Welsh: pôl adalw
Status A
Subject: Politics
Part of speech: Noun, Masculine, Singular
Plural: polau adalw
Context: Mae Aelod o’r Senedd yn dod yn destun pôl adalw os yw digwyddiad sbardun A neu ddigwyddiad sbardun B wedi digwydd mewn perthynas â’r Aelod o’r Senedd, a bod y Llywydd yn rhoi hysbysiad o’r ffaith honno o dan adran 6.
Notes: Daw'r frawddeg gyd-destunol o Fil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau).
Last Updated: 9 October 2025
Welsh: Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cyfuno Cynnal Pleidleisiau) (Cymru a Lloegr) 2004
Status B
Subject: Titles of legislation
Part of speech: Noun, Plural
Notes: Teitl cwrteisi ar enw deddfwriaeth sydd ar gael yn Saesneg yn unig.
Last Updated: 10 February 2022
Welsh: gweithred newid enw anghofrestredig
Status B
Subject: Law
Part of speech: Noun, Feminine, Singular
Plural: gweithredoedd newid enw anghofrestredig
Definition: Gweithred newid enw na wnaed cofnod cyhoeddus ohoni drwy ei chofrestru yn y Llysoedd Cyfiawnder Brenhinol.
Context: At the age of 18 a person can change their name by enrolled deed poll. Young people over 16 can change their legal name by unenrolled deed poll without requiring consent of those with parental responsibility. Learners under 18 can also change their legal name by enrolled deed poll with consent from all those with legal responsibility.
Last Updated: 30 April 2024