Yn yr iaith ysgrifenedig safonol:
- ystyr ‘adref’ yw ‘homewards’, hy mae’n cyfleu’r syniad o fynd tua’r cartref
- ystyr ‘gartref’ yw ‘yn y cartref’
Yn yr iaith lafar gall ‘adref’ a ‘gartref’ gyfleu’r naill ystyr neu’r llall. Ond er cysondeb yng ngwaith y Gwasanaeth Cyfieithu rydym yn defnyddio ‘adref’ ar gyfer ‘tua’r cartref’ yn unig a ‘gartref’ ar gyfer ‘yn y cartref’ yn unig.
Felly:
Teithio adref OND Aros gartref
Dyma felly a ddewiswyd ar gyfer slogan ymgyrch y Llywodraeth ‘Aros Gartref, Diogelu’r GIG, Achub Bywydau’.