Skip to main content

Cofnod

Yn bresennol

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Dafydd Hughes, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Dyfed Edwards, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Rhian Huws Williams, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Lowri Morgans, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Rosemary Jones, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Samuel Williams, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Jeremy Evas, Is-adran Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru

(Ysgrifenyddiaeth), Is-adran Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru

Aelodau staff Is-adran Cymraeg 2050 (arsylwi’n unig), Is-adran Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru

Ymddiheuriadau

Angharad Mai Roberts, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Meleri Davies, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Rhys Jones, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Enlli Thomas, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Andrew White, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Eitem 1: Croeso gan Bennaeth Prosiect 2050

Croesawyd pawb i gyfarfod Cyngor Partneriaeth y Gymraeg gan Bennaeth Prosiect  2050. Roedd sesiwn gyntaf y bore yn sesiwn ar y cyd â Grŵp Hyrwyddo’r Gymraeg.

Cafwyd cyflwyniadau byr ar lafar gan rai o swyddogion Is-adran Cymraeg 2050 am waith yr Is-adran ers y cyfarfod diwethaf. Wrth drafod, cytunwyd i rannu’r canlynol gydag Aelodau: dolen at Newyddlen Cymraeg 2050 a’r Polisi Seilwaith Ieithyddol y Gymraeg sydd wedi ei gyhoeddi’n ddiweddar.

Eitem 2: Sesiwn ar y cyd â Grŵp Hyrwyddo’r Gymraeg

Nod y sesiwn gyntaf gyda Grŵp Hyrwyddo’r Gymraeg oedd trafod argymhellion yr Adolygiad o gynllun grantiau hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg. Cafwyd cyflwyniad ar yr argymhellion gan Bennaeth Prosiect Cymraeg 2050 ac yna  rhannwyd pawb yn grwpiau trafod. Cafwyd adborth o’r grwpiau trafod a chytunwyd i drefnu diwrnod cyfan yn y dyfodol gyda phawb er mwyn trafod ymhellach.

Cam Gweithredu 1

Ysgrifenyddiaeth i anfon dolen at Newyddlen Cymraeg 2050 at aelodau’r Grŵp Hyrwyddo a’r Cyngor Partneriaeth yn cynnwys manylion rhaglen y Llywodraeth yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd.

Cam Gweithredu 2

Ysgrifenyddiaeth i anfon copi o bolisi Seilwaith Ieithyddol y Gymraeg at aelodau’r Grŵp Hyrwyddo a’r Cyngor Partneriaeth.

[Grŵp Hyrwyddo’r Gymraeg yn ymadael. Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn ymuno â’r cyfarfod ac yn cymryd y gadair.]

Eitem 3: Gair o Groeso gan y Gweinidog

Estynnwyd croeso cynnes i bawb gan Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, i gyfarfod Cyngor Partneriaeth y Gymraeg. 

Cafwyd diweddariad gan y Gweinidog ar ddatblygiadau Rhaglen Waith Cymraeg 2050 ers y cyfarfod diwethaf.

Cytunodd y Gweinidog i rannu ystadegau am broffil defnyddwyr gwasanaeth Helo Blod.

Cam Gweithredu 3

Trafod pwyntiau gweithredu ambr cofnodion y cyfarfod diwethaf (29 Mawrth 2023) yn ein cyfarfodydd nesaf naill ai wedi’r haf neu yn y flwyddyn newydd.

Cam Gweithredu 4

Ysgrifenyddiaeth i rannu gwybodaeth am broffil defnyddwyr gwasanaeth Helo Blod gydag aelodau’r Cyngor Partneriaeth.

Eitem 4: Adborth o sesiwn y bore ar Adolygiad y Cynllun Grantiau

Rhannodd ddau o aelodau’r Cyngor Partneriaeth adborth o sesiwn y bore gyda’r Gweinidog. Dyma’r prif bwyntiau:

  • Croesawyd y cyfle i gwrdd wyneb yn wyneb ac i gynnal trafodaeth a chydweithio gyda Grŵp Hyrwyddo’r Gymraeg. 
  • Gwnaethpwyd cais i gynnal sesiwn debyg yn y dyfodol a hynny am ddiwrnod cyfan. Nodwyd y byddai’n fuddiol cynnwys trafodaeth gyda’r Gweinidog fel rhan o’r diwrnod i drafod gweithredu Cymraeg 2050.
  • Trafodwyd heriau gwneud gwaith i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ar adeg ariannol anodd.
  • Nodwyd pwysigrwydd cydweithio gan gofio nad oes rhaid dyrannu cyllid er mwyn i gydweithio allu digwydd. 
  • Roedd rhai sefydliadau’n cael y broses weinyddu grant i hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg yn haws na’i gilydd rhai yn gweld y broses yn llafurus ac eraill yn ei gweld yn haws na phrosesau grantiau gan sefydliadau eraill.

Cam Gweithredu 5

Ysgrifenyddiaeth i drefnu i’r Cyngor Partneriaeth a’r Grŵp Hyrwyddo gwrdd eto am ddiwrnod cyfan i drafod ymhellach gyda chyfle o bosib i’r Gweinidog fod yn bresennol am ran o’r dydd.

Eitem 5: Gofodau Uniaith a Chynhwysiant

Cafwyd cyflwyniad gan swyddog o Lywodraeth Cymru ac yna trafodwyd y canlynol ar sail y cyflwyniad:

  • Cytunwyd i rannu pecyn o slediau gyda dadansoddiad manylach o ddata Cyfrifiad 2021 ar ethnigrwydd.
  • Pwysigrwydd gofodau uniaith gan gydnabod eu bod yn digwydd yn naturiol mewn rhai ardaloedd, ond bod angen eu creu nhw mewn ardaloedd eraill.
  • Pwysigrwydd canolfannau trochi fel gofodau uniaith ar gyfer mewnfudwyr a siaradwyr di-Gymraeg.
  • Nododd y Gweinidog y bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal yn ystod yr Eisteddfod yn trafod y pwnc hwn mewn mwy o fanylder a nododd y byddai’n gwerthfawrogi trafodaeth gyda’r Is-grŵp Grŵp Cydraddoldeb, Cynhwysiant ac Amrywiaeth cyn hynny.

Cam Gweithredu 6

Ysgrifenyddiaeth i rannu pecyn o slediau gyda dadansoddiad manylach o ddata Cyfrifiad 2021 ar ethnigrwydd.

Cam Gweithredu 7

Ysgrifenyddiaeth i drefnu cyfarfod rhwng y Gweinidog a’r Is-grŵp Grŵp Cydraddoldeb, Cynhwysiant ac Amrywiaeth cyn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd.

[Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn ymadael  â’r cyfarfod a swyddog o Lywodraeth Cymru yn cymryd y gadair.]

Eitem 6: Y Comisiwn Cymunedau Cymraeg – diweddariad

Trosglwyddwyd yr awenau i Seimon Brooks, Cadeirydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, i roi diweddariad ar waith y Comisiwn hyd yma ac i fanylu ar y Papur Safbwynt a gyhoeddwyd yn ddiweddar:

  • Papur safbwynt wedi ei gyhoeddi a’r Cadeirydd yn awyddus i dderbyn sylwadau Aelodau ar ei gynnwys.
  • Cadeirydd y Comisiwn wrthi’n trafod y papur safbwynt gydag arweinwyr awdurdodau lleol ar hyn o bryd. 
  • Bydd argymhellion terfynol y Comisiwn yn cael eu cyhoeddi yn ystod haf 2024. 
  • Ail gam y Comisiwn fydd canolbwyntio ar ddefnydd cymdeithasol o’r Gymraeg mewn ardaloedd â dwysedd is o siaradwyr Cymraeg.

Cam Gweithredu 8

Aelodau i anfon sylwadau neu gwestiynau pellach at fewnflwch Cymraeg 2050 er mwyn eu rhannu gyda’r Comisiwn.

Cam Gweithredu 9

Ysgrifenyddiaeth i rannu gwybodaeth am amserlen Eisteddfod y Gweinidog ac Is-adran Cymraeg 2050 gyda’r Cyngor.

Eitem 7: Unrhyw Fater Arall

Cytunodd pawb bod cyfarfod wyneb yn wyneb wedi bod yn werthfawr ac y byddent yn hapus i barhau i wneud hynny yn y dyfodol.

Nododd yr Ysgrifenyddiaeth y byddant yn cysylltu maes o law gyda'r aelodau hynny y mae eu penodiadau yn dirwyn i ben yn fuan er mwyn trafod proses ailbenodi.

Cytunodd yr Ysgrifenyddiaeth i geisio trefnu dyddiadau tri chyfarfod nesaf y Cyngor yn fuan er mwyn i Aelodau allu cadw’r dyddiadau’n glir.

Cam Gweithredu 10

Ysgrifenyddiaeth i drefnu dyddiadau cyfarfodydd y flwyddyn sydd i ddod.

Crynodeb o’r Pwyntiau Gweithredu

Cam GweithreduPwynt gweithreduI bwy?Wedi cwblhau?
1.Ysgrifenyddiaeth i anfon dolen at Newyddlen Cymraeg 2050 at aelodau’r Grŵp Hyrwyddo a’r Cyngor Partneriaeth.YsgrifenyddiaethYdw.
2.Ysgrifenyddiaeth i anfon copi o’r polisi Seilwaith Ieithyddol y Gymraeg at aelodau’r Grŵp Hyrwyddo a’r Cyngor Partneriaeth.YsgrifenyddiaethYdw.
3.Trafod pwyntiau gweithredu ambr cofnodion y cyfarfod diwethaf (29 Mawrth 2023) yn ein cyfarfodydd nesaf naill ai wedi’r haf neu yn y flwyddyn newydd.YsgrifenyddiaethNac ydw.
4.Ysgrifenyddiaeth i rannu gwybodaeth am broffil defnyddwyr gwasanaeth Helo Blod gydag aelodau’r Cyngor Partneriaeth.YsgrifenyddiaethNac ydw.
5.Ysgrifenyddiaeth i drefnu i’r Cyngor Partneriaeth a’r Grŵp Hyrwyddo gwrdd eto am ddiwrnod cyfan i drafod ymhellach gyda chyfle o bosib i’r Gweinidog fod yn bresennol am ran o’r dydd.YsgrifenyddiaethNac ydw.
6.Ysgrifenyddiaeth i rannu pecyn o slediau gyda dadansoddiad manylach o ddata Cyfrifiad 2021 ar ethnigrwydd.YsgrifenyddiaethYdw.
7.Ysgrifenyddiaeth i drefnu trafodaeth gyda’r Is Grŵp Cydraddoldeb, Cynhwysiant ac Amrywiaeth cyn yr Eisteddfod.YsgrifenyddiaethYdw.
8.Aelodau i anfon sylwadau neu gwestiynau pellach at fewnflwch Cymraeg 2050 er mwyn eu rhannu gyda’r Comisiwn.Aelodau a’r YsgrifenyddiaethYdw.
9.Ysgrifenyddiaeth i rannu gwybodaeth am amserlen Eisteddfod y Gweinidog ac Is-adran Cymraeg 2050 gyda’r Cyngor.YsgrifenyddiaethYdw.
10.Ysgrifenyddiaeth i drefnu dyddiadau cyfarfodydd y flwyddyn sydd i ddod. YsgrifenyddiaethYdw.