Cyfarfod Cyngor Partneriaeth y Gymraeg: 16 Tachwedd 2023
Cofnod o gyfarfod Cyngor Partneriaeth y Gymraeg ar 16 Tachwedd 2023.
This file may not be fully accessible.
In this page
Cofnod
Yn bresennol
Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Dafydd Hughes, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Rhian Huws Williams, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Lowri Morgans, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Rosemary Jones, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Andrew White, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Angharad Mai Roberts, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Seimon Brooks, Y Comisiwn Cymunedau Cymraeg
Emma Spear, Dirprwy Gyfarwyddwr Diogelu Iechyd, Llywodraeth Cymru
Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin
Bethan Webb, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru
(Ysgrifenyddiaeth), Is-adran Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru
(Ysgrifenyddiaeth), Is-adran Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru
Aelodau staff Is-adran Cymraeg 2050 (arsylwi’n unig), Is-adran Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru
Ymddiheuriadau
Samuel Williams, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Meleri Davies, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Rhys Jones, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Enlli Thomas, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Dyfed Edwards, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Croeso gan Ddirprwy Gyfarwyddwr Is-adran Cymraeg 2050
Croesawyd pawb i gyfarfod Cyngor Partneriaeth y Gymraeg gan Bethan Webb Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Cymraeg 2050,
Dymunwyd llongyfarchiadau i Sam ar enedigaeth ei efeilliaid bach newydd.
Eitem 1: Pynciau poeth
Cafwyd diweddariad gan Ddirprwy Gyfarwyddwr Is-adran Cymraeg 2050 ar y canlynol:
- y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg
- penderfyniad diweddar Duolingo i beidio parhau i ddiweddaru’r cwrs Cymraeg.
- cyhoeddiad diweddar 'Adroddiad Blynyddol Cymraeg 2050 ar gyfer 2022 i 2023'
Eitem 2: Y Bil Addysg Gymraeg
Cafwyd diweddariad gan swyddogion Llywodraeth Cymru ar hynt y Bil Addysg Gymraeg, y cyd-destun ehangach o ran y continwwm ieithyddol a’r hyn fydd yn digwydd dros y misoedd nesaf.
Eitem 3: Cyflwyniad ar bwysigrwydd y blynyddoedd cynnar a'r Gymraeg
Cafwyd diweddariad ar bwysigrwydd a heriau’r blynyddoedd cynnar a'r Gymraeg gan Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr, Mudiad Meithrin.
[Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn ymuno â’r cyfarfod ac yn cymryd y gadair.]
Eitem 4: Gair o Groeso gan y Gweinidog
Estynnwyd croeso cynnes i bawb gan Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, i gyfarfod Cyngor Partneriaeth y Gymraeg.
Cafwyd diweddariad gan y Gweinidog ar ddatblygiadau 'Rhaglen Waith Cymraeg 2050' ers y cyfarfod diwethaf.
Eitem 5: Iechyd a’r Gymraeg
Cafwyd diweddariad ar raglen 'Mwy na Geiriau' gan Emma Spear, Dirprwy Gyfarwyddwr Swyddfa'r Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Cymru.
Dyma rai o’r materion a godwyd yn ystod y drafodaeth:
- 200k o aelodau o staff yn y maes iechyd a'r sector gofal cymdeithasol a’r rhan fwyaf o’r gweithlu wedi eu haddysgu yng Nghymru
- mae gan nifer ohonynt sgiliau Cymraeg ond eu bod yn ddihyder ac yn swil i’w defnyddio. Mae gwaith ar y gweill gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i fynd i’r afael â hyn
- trafodwyd bod y gweithlu ar lefel alwedigaethol yn aml yn weithlu lleol ac felly’n cyfrannu’n fawr at yr economi ac at gymunedau. Awgrymwyd ei bod yn bwysig i’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol ystyried blaenoriaethu iechyd a gofal a’r Gymraeg fel rhan o’u gwaith cynllunio economaidd a sgiliau fel cam nesaf eu gwaith
- cafwyd cais gan Aelod i gael cyflwyniad ar y sector gofal cymdeithasol yn y dyfodol
Cam Gweithredu 1
Ysgrifenyddiaeth i drefnu cyflwyniad ar y sector gofal cymdeithasol yn y dyfodol.
Eitem 6: Diweddariad ar Ystadegau’r Gymraeg
Cafwyd cyflwyniad gan swyddogion Llywodraeth Cymru ar y data diweddaraf am y Gymraeg gan gynnwys yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth a’r Arolwg Defnydd Iaith.
Trafodwyd yr isod yn rhinwedd y cyflwyniad:
- cydnabuwyd pwysigrwydd mesur gallu ieithyddol, ond hefyd yr angen i holi cwestiynau sy’n anos i’w mesur e.e. sut wyt ti yn teimlo at y Gymraeg?
[Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn ymadael â’r cyfarfod a swyddog o Lywodraeth Cymru yn cymryd y gadair.]
Eitem 7: Y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, diweddariad
Trosglwyddwyd yr awenau i Seimon Brooks, Cadeirydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, i roi diweddariad ar waith y Comisiwn hyd yma.
- Trafodwyd rôl y mentrau iaith ym maes yr economi a’r galw am gynllunio ieithyddol cymunedol ar lefel feicro.
- Nodwyd ei bod yn bwysig i’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol ystyried materion cynllunio ieithyddol.
- Gwahoddwyd aelodau'r Cyngor sydd â diddordeb i gyfarfod eto gyda Seimon i wneud yn siŵr bod pob llais yn cael ei glywed.
Cam Gweithredu 2
Ysgrifenyddiaeth i drefnu cyfarfod rhwng y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ag aelodau’r Cyngor sydd â diddordeb i drafod gwaith y Comisiwn ymhellach.
Crynodeb o’r Pwyntiau Gweithredu
Cam Gweithredu | Pwynt gweithredu | I bwy? | Wedi cwblhau? |
---|---|---|---|
1. | Ysgrifenyddiaeth i drefnu cyflwyniad ar y sector gofal cymdeithasol yn y dyfodol. | Ysgrifenyddiaeth | Ydw. |
2. | Ysgrifenyddiaeth i drefnu cyfarfod rhwng y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ag aelodau’r Cyngor sydd â diddordeb i drafod gwaith y Comisiwn ymhellach. | Ysgrifenyddiaeth | Ydw. |