Guidelines on spelling Welsh-language scientific loanwords
The Welsh Government Translation Service's pragmatic guidance on spelling Welsh-language scientific loanwords. This document is published in Welsh only.
This file may not be fully accessible.
In this page
Rhagymadrodd
Diben y canllawiau hyn yw rhoi arweiniad pragmataidd i Wasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru ar sillafiad termau benthyg gwyddonol yn ei waith.
Mae’r ddogfen hon yn adeiladu ar ganllawiau Uned Cyfieithu Deddfwriaeth y Gwasanaeth Cyfieithu, Egwyddorion Termau Cemegol, ac yn estyniad naturiol ohonynt.
Mae’r ddogfen hefyd yn parhau i ystyried y materion a ddisgrifiwyd yn Nodyn Rhagarweiniol y llyfryn Termau Bioleg, Cemeg, Gwyddor Gwlad a gyhoeddwyd gan Gyd-bwyllgor Addysg Cymru,[1] a cheisiwyd cadw at ysbryd y Nodyn hwn wrth lunio’r egwyddorion. Yn benodol rhoddwyd ystyriaeth ofalus i’r geiriau hyn:
[…] Yn ôl y naill garfan dylid seilio’r termau Cymraeg ar ynganiad y termau Saesneg cyfatebol tra mynnai carfan arall bwyso ar sillafiad ‘cydwladol’ y term – a derbyn fod modd adnabod hwnnw. Tuedd y Gymraeg hyd at yn gymharol ddiweddar fu dilyn y cyntaf o’r ddau ddewis hwn trwy beri i’r ynganiad Saesneg wisgo sillafiad Cymraeg ac y mae gennym bellach lu o eiriau technegol a lled-dechnegol sy’n tystio i gryfder y duedd hon, geiriau megis aloi, proses, silindr, seiclo, sment, teipiadur ac ati. At ei gilydd, trosi’r ynganiad neu’r sain fu’r dull a argymhellwyd gan yr is-banel a sefydlwyd gan y Bwrdd Gwybodau Celtaidd i edrych ar orgraff y Gymraeg.
Fodd bynnag, y mae enghreifftiau penodol lle na fyddai trosi’r ynganiad yn dechnegol dderbyniol. Er engraifft, y mae cyt C, – CN a Cys yn fyrfoddau cydwladol cydnabyddedig bellach ar gyfer cytochrome C, cyanide a cysteine. Barnwyd felly fod cytochrom, cyanid a cystein yn fwy derbyniol na seitocrom seianid a systen. Lleisiodd nifer o athrawon yr ymgynghorwyd â hwy wrthwynebiad mwy cyffredinol na hyn i’r egwyddor ‘drosi ynganiad’. Dadleuant ei bod yn bwysicach i’r plentyn o Gymro gael ymgydnabod â ‘golwg cydwladol’ termau nag a’u hynganiad Saesneg a bod cyflwyno i sylw plentyn fersiynau megis liwcoseit neu seliwlos yn debyg o’i anfanteisio o safbwynt gwyddoniaeth gydwladol.
Tuedd y panel oedd derbyn y dadleuon hyn ac argymell termau sydd, o ran eu golwg fodd bynnag, yn cydymffurfio â’r termau cydwladol tybiedig. Wrth reswm, ni fedrid gweithredu’r egwyddor hon yn hollol gyson ac y mae yn y rhestr elfen gref o gyfaddawd. Ni ellid, er enghraifft, argymell typ am type (megis yn genotype) am y byddai hyn yn anghyson â geiriau megis teipiadur sydd bellach wedi hen ennill eu plwyf yn yr iaith.
Nodir hefyd y gwaith hirsefydledig a pharhaus gan yr Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor yn y maes hwn. Gwiriwyd y patrymau a’r enghreifftiau a geir yn y ddogfen hon yn erbyn cofnodion y Porth Termau gan yr Uned honno, a’r bwriad yw ceisio sicrhau cymaint o gysondeb â phosibl rhwng y ffurfiau a geir yn y Porth Termau a’r ffurfiau a ddefnyddir gan Wasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru.
Am ymdriniaeth ehangach o ffurfiant termau Cymraeg, gweler yr erthygl Term formation in Welsh gan Delyth Prys, Tegau Andrews a Gruffudd Prys o’r Uned Technolegau Iaith.
Trafodwyd drafftiau o'r canllawiau hyn â'r Uned Technolegau Iaith ac â Geiriadur Prifysgol Cymru, a chydnabyddir eu cymorth gwerthfawr. Cyfrifoldeb y Gwasanaeth Cyfieithu yn unig yw'r canllawiau, fodd bynnag.
[1] Termau Bioleg, Cemeg, Gwyddor Gwlad (Cyd-bwyllgor Addysg Cymru, Caerdydd: 2il arg., 1993)
Cyflwyniad
Mae’r ddogfen hon yn cynnig arweiniad pragmataidd ar gyfer sillafu termau benthyg gwyddonol (neu elfennau benthyg mewn termau gwyddonol cyfansawdd) i’w defnyddio mewn testunau Cymraeg gan Wasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru.
- Ystyr “termau benthyg” yn y cyd-destun hwn yw geiriau a gymhathwyd yn uniongyrchol i’r Gymraeg o ieithoedd eraill at ddiben dynodi cysyniadau technegol, gan addasu eu horgraff yn unig. Yn achos termau benthyg gwyddonol Cymraeg, yn ymarferol daw’r mwyafrif llethol i’r iaith drwy’r Saesneg. Yn eu tro, tarddiad Lladin neu Roeg sydd i lawer o elfennau’r geiriau Saesneg hynny.
- Nid yw “termau benthyg” yn cynnwys dynwarediadau (‘calques’), sef geiriau neu ymadroddion a fenthycwyd o iaith arall drwy eu cyfieithu’n uniongyrchol neu air-am-air (ee frequency, amledd; prevalence, cyffredinrwydd).
- Nid yw’r ddogfen hon yn ymwneud â thermau lle nad yw’r ffurf Gymraeg yn fenthyciad uniongyrchol diweddar (ee gold, aur; lead, plwm; silver, arian).
- Ystyr “gwyddonol” yn y cyd-destun hwn yw bod y termau yn disgrifio cysyniadau yn y gwyddorau naturiol a meysydd cysylltiedig. Golyga hyn dermau ym meysydd ffiseg, bioleg a chemeg (gan gynnwys enwau elfennau a chyfansoddion cemegol), yn ogystal â meysydd cymhwysol a/neu gysylltiedig megis meddygaeth, peirianneg a chyfrifiadureg.
Wrth eu natur, termau technegol (neu elfennau ohonynt) mewn meysydd gwyddonol penodol fydd y termau benthyg hyn i gyd.
Gall termau benthyg gwyddonol fod yn elfen o air cyfansawdd hwy, sydd hefyd yn cynnwys elfennau Cymraeg cynhenid. Rhagddodiaid neu ôl-ddodiaid fydd yr elfennau benthyg hyn gan amlaf. Bydd y canllawiau hyn yn berthnasol i sillafiad elfennau benthyg, a cheir arweiniad isod ar gyfuno elfennau o’r fath mewn termau cyfansawdd hwy (ee confensiynau treiglo).
Nod y canllawiau hyn yw taro’r cydbwysedd cywir gan ystyried egwyddorion fel:
- Bod y Gymraeg yn cael ei galw’n gyffredin yn iaith ffonetig, ac y dylai sillafiad geiriau fod yn arweiniad dibynadwy i’w hynganiad
- Bod ffurfiau Cymraeg sefydledig (a elwir weithiau yn ffurfiau “cynhenid”), sy’n wahanol i’r ffurfiau Saesneg/Lladin/Groeg, i’w cael ar gyfer rhai cysyniadau, ac os yw’n gyffredin defnyddio’r rheini a’u bod yn cyfleu’r cysyniad yn gywir, y dylid eu defnyddio
- Bod sillafiad rhai termau benthyg yn hirsefydledig, ac mewn amgylchiadau o’r fath na ddylid newid yr arfer bresennol
- Bod termau gwyddonol yn seiliedig ar ymdrech i ddefnyddio iaith mewn modd mwy systematig na’r hyn sy’n bosibl yn yr iaith yn gyffredinol a bod hyn yn golygu, ymysg pethau eraill, yr eir ati’n fwriadus i geisio osgoi homonymau (geiriau a ddefnyddir i olygu mwy nag un cysyniad)
- Bod rhai termau benthyg gwyddonol yn cael eu defnyddio mewn cyd-destunau gwyddonol yn unig, ond bod eraill (neu elfennau o’r termau benthyg hynny) yn cael eu defnyddio ar lawr gwlad yn amlach, a/neu mewn cyd-destunau mwy cyffredinol.
Nid yw’n fwriad i’r canllawiau hyn roi arweiniad ynghylch pryd y mae’n addas mabwysiadu termau benthyg mewn cyd-destunau gwyddonol yn y Gymraeg. Eu diben yw rhoi arweiniad ar y sillafiad safonol yn dilyn penderfyniad mai mabwysiadu gair benthyg sydd orau ar gyfer dynodi cysyniad penodol. Gall strategaethau eraill hefyd fod yn addas ar gyfer ffurfio termau gwyddonol mewn rhai amgylchiadau. Serch hynny, ceir peth arweiniad isod ar addasrwydd defnyddio rhagddodiaid ac elfennau sefydlog Cymraeg eraill fel rhan o dermau technegol gwyddonol, ar y cyd ag elfennau benthyg.
Ffynonellau eraill
Wrth gyfeirio at ffynonellau eraill yn y ddogfen hon, golygir yn bennaf y Porth Termau, Geiriadur Prifysgol Cymru a Geiriadur yr Academi.
Perthnasedd y canllawiau hyn i gyd-destunau eraill
Nid yw termau gwyddonol yn bodoli yn annibynnol ar batrymau ehangach ffurfiant a sillafiad geiriau Cymraeg.
Mae’n bosibl y bydd rhai o’r egwyddorion yn ddefnyddiol wrth ystyried sut i sillafu termau benthyg mewn meysydd heblaw gwyddoniaeth hefyd, er nad bwriad y ddogfen hon yw rhoi arweiniad cyffredinol.
O bryd i’w gilydd bydd rhai termau neu elfennau benthyg gwyddonol yn cael eu defnyddio y tu allan i’w cyd-destun gwyddonol gwreiddiol. Ystyriwyd y mater hwn yn ofalus wrth lunio’r argymhellion yn y canllawiau hyn. Oherwydd hyn, gall sillafiad cyffredin rhai termau neu elfennau benthyg cyfarwydd iawn yn yr iaith gyffredin ddylanwadu ar eu sillafiad yn y cyd-destun gwyddonol. Gellir gweld cynsail i hyn ym mhenderfyniad CBAC yn y llyfryn Termau Cemeg, Bioleg a Gwyddor Gwlad (1993 ac argraffiad cyntaf 1982) i fabwysiadu -teip yn ôl-ddodiad Cymraeg yn hytrach na -typ, o dan ddylanwad geiriau cyffredin fel teipiadur. Ac i’r gwrthwyneb, wrth ddefnyddio termau ac elfennau benthyg technegol mewn cyd-destunau annhechnegol, dylid cadw at y sillafiad cydnabyddedig a ddefnyddir mewn cyd-destunau technegol.
Ffurf y canllawiau hyn
Mae dwy ran i’r canllawiau hyn.
Mae’r rhan gyntaf yn trafod sillafiad ac orgraff termau benthyg gwyddonol yn gyffredinol. Mae hefyd yn trafod ffurfiant termau gwyddonol sy’n seiliedig ar dermau benthyg o’r fath mewn cyd-destunau penodol a rhai agweddau ar eu cymhwyso mewn testunau.
Mae’r ail ran yn cynnwys geirfa enghreifftiol o ragddodiaid, ôl-ddodiaid a thermau sydd wedi eu seilio ar yr egwyddorion hyn.
Yn hyn o beth, mae’r canllawiau hyn yn adlewyrchu patrwm Orgraff yr Iaith Gymraeg (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd: 3ydd arg., 1987).
Drwy’r ddogfen hon, dynodir termau Saesneg mewn teip italig, a thermau Cymraeg mewn teip italig trwm: oxygen, ocsigen. Pan ddefnyddir yr un ffurf yn y ddwy iaith, dynodir y ffurf honno mewn teip italig trwm yn unig: hydrogen.
Yn yr enghreifftiau, defnyddir y sillafiad mwyaf cyffredin yn Saesneg Prydain. Sylwer y gall sillafiad termau fod yn wahanol mewn amrywiadau ar yr iaith honno, ee Saesneg America.
Y RHAN GYNTAF – SILLAFIAD AC ORGRAFF
Egwyddor gyffredinol
Dylid dilyn y sillafiad a ddefnyddir ar gyfer termau benthyg gwyddonol yn yr iaith wreiddiol (sef Saesneg gan amlaf, ond Lladin a Groeg weithiau), gan gymhwyso unrhyw addasiadau a ddisgrifir yn y canllawiau isod.
Cytseiniaid
Cytseiniaid: cytseiniaid unigol
Sylwer: nid yw’r rhestr hon yn cynnwys pob graffem a sain gytseiniol bosibl yn Gymraeg. Ei diben yw rhoi arweiniad ar gytseiniaid a all fod yn broblemus wrth eu Cymreigio.
Yn y tabl isod, nodir y sain neu seiniau a ddynodir gan y graffemau yn y ddwy iaith yn y Wyddor Seinegol Ryngwladol (IPA) gan adlewyrchu – yn achos y Saesneg – yr ynganiad yn Saesneg safonol y DU.
Tabl 1: Cytseiniaid unigol
Saesneg | Cymraeg | Enghreifftiau | Nodiadau |
c [dechrau gair] IPA: s
| c IPA: k; s
| cyanide, cyanid cyanobacteria citric, citrig ciliary, ciliaraidd cellulose, cellwlos Rhagddodiad: cerebro- cerebrovascular, cerebrofasgwlaidd Rhagddodiad: centi- centimetre, centimetr Rhagddodiad: cis- cisgender, cisryweddol | Mae'r arfer o ran ynganu'r termau hyn yn amrywio (yn ôl y gair, y siaradwr a’r cyd-destun) rhwng yr 'c' galed ac 's'. O ran ynganiad cellwlos, gweler para 1.6.1 ar yr elfen ‘cell’ mewn termau benthyg. Eithriadau: y rhagddodiad seiber- a’r termau cervix, serfics, cervical, serfigol a cylinder, silindr Nodyn drafftio: Yn yr achos hwn, mae’r argymhelliad yn dilyn y patrwm yn y Porth Termau, ond nid yw’n gyson â’r patrwm yng Ngeiriadur yr Academi na Geiriadur y Brifysgol. Gweler hefyd y Nodyn Rhagarweiniol yn y llyfryn Termau Cemeg, Bioleg a Gwyddor Gwlad (CBAC, 1993 ac argraffiad cyntaf 1982) a ddyfynnir yn Rhagarweiniad y canllawiau hyn.
|
c [canol neu ddiwedd gair] IPA: s
| s IPA: s
| acetic, asetig calcium, calsiwm laurencium, lawrensiwm nociceptive, nosiseptaidd | Eithriadau: y rhagddodiad deci- a’r ôl-ddodiad -cyte, -cyt. Serch hynny, sylwer ar y ffurf decibel, desibel. Noder mai “c” galed yw’r sain yn y rhagddodiaid glyco- a leuco-, lewco- yn Saesneg ac yn Gymraeg. Nodyn drafftio: Yn achos yr eithriad deci-, mae’r argymhelliad yn dilyn y patrwm cyffredinol yn y Porth Termau, ond nid yw’n gyson â’r patrwm yng Ngeiriadur yr Academi na Geiriadur y Brifysgol. |
cc IPA: ks | cs IPA: ks | coccidiostat, cocsidiostat | |
ch; ck; k IPA: k
| c IPA: k | chlorine, clorin chromatography, cromatograffi chelate, celad nickel, nicel berkelium, berceliwm keratitis, ceratitis krypton, crypton Rhagddodiad: kilo-, cilo- kilometre, cilometr Rhagddodiad: chiro-, ciro- chiropodist, ciropodydd | Noder mai’r sain Gymraeg “ch” yw’r sain yn y ffurf Gymraeg ar y term technetium, technetiwm
|
g IPA: dʒ
| g IPA: dʒ; g | oxygen, ocsigen germanium, germaniwm Ôl-ddodiad: -genic, -genig pathogenic, pathogenig | Sylwer y bydd rhai termau benthyg yn y categori hwn yn cael eu hynganu’n gyffredin â’r sain a ddynodir fel arfer gan ‘g’ yn Gymraeg ee germanium, germaniwm ac eraill yn cael eu hynganu’n gyffredin â’r sain a ddynodir fel arfer â ‘j’ yn Gymraeg, ee oxygen, ocsigen Am arweiniad ar dreiglo termau benthyg sy’n cychwyn â’r llythyren ‘g’, gweler adran 2.7 ac yn enwedig baragraff 2.7.2.
|
f; ph IPA: f
| ff IPA: f | hafnium, haffniwm francium, ffranciwm electrophoresis, electrofforesis ophthalmic, offthalmig phosphorus, ffosfforws sphere, sffêr Rhagddodiad: phyto-, ffyto- phytosanitary, ffytoiechydol Ôl-ddodiad: -philia, -ffilia haemophilia, haemoffilia |
|
v IPA: v | f IPA: v | mendelevium, mendelefiwm valent, falent electronegative, electronegatif | |
x IPA: ks | cs IPA: ks | oxide, ocsid ecotoxicology, ecotocsicoleg extremeophile, ecstremoffil flux, fflwcs pixel, picsel Rhagddodiad: exo-, ecso- exocrine, ecsocrin | Eithriad: X-ray, pelydr X
|
x; z IPA: z | s IPA: s; z | xenon, senon zinc, sinc topaz, topas quartz, cwarts azide, asaid hertz, herts |
Cytseiniaid: dyblu cytseiniaid
Pan fo cytsain ddwbl yn y ffurf Saesneg, defnyddir cytsain unigol yn y ffurf Gymraeg, ee beryllium, beryliwm; potassium, potasiwm; yttrium, ytriwm; gamma, gama; watt, wat.
Serch hynny dilynir y rheolau arferol o ran orgraff y Gymraeg ar gyfer dyblu “n” ac “r”, ee rennet; ferrous, fferrig.
Cytseiniaid: cytseiniaid mud
Mewn termau technegol, cedwir unrhyw gytsain fud gychwynnol a welir mewn termau sy’n deillio o Roeg. Ffurfiau sy’n cychwyn â ps-, pt-, pn- neu mn- fydd y rhain, ee pteroylmonoglutamic, pteroylmonoglwtamig. Serch hynny, mae rhai rhagddodiaid gwyddonol cyffredin sy’n eithriadau i’r rheol hon: psycho-, seico-; pneumo-, niwmo-.
Llafariaid, cyfuniadau llafariaid a deuseiniaid
Llafariaid, cyfuniadau llafariaid a deuseiniaid: yn gyffredinol
Yn gyffredinol, bydd llafariaid mewn gair benthyg yn Gymraeg yn arddangos mwy o newidiadau yn eu hynganiad na chytseiniaid, o’u cymharu â’r ynganiad yn Saesneg (neu’r iaith wreiddiol arall).
Gall ynganiad llafariaid – a deuseiniaid yn enwedig – mewn termau benthyg yn Gymraeg amrywio o unigolyn i unigolyn, a/neu o gyd-destun i gyd-destun. Gall hyn ei gwneud yn anodd pennu llafariaid Cymraeg ar gyfer termau technegol, gan na fydd y graffem o reidrwydd yn cyfleu ynganiad pob siaradwr Cymraeg.
Sylwer: nid yw’r rhestr hon yn cynnwys pob graffem a sain lafarog bosibl yn Saesneg a Chymraeg. Ei diben yw rhoi arweiniad ar lafariaid a all fod yn broblemus wrth eu Cymreigio.
Yn y tabl isod, nodir y sain neu seiniau a ddynodir gan y graffemau yn y ddwy iaith yn y Wyddor Seinegol Ryngwladol (IPA).
Tabl 2: Llafariaid
Saesneg | Cymraeg | Enghreifftiau | Nodiadau |
a IPA: eɪ | a IPA: a | germanium, germaniwm Ôl-ddodiad: -ane, -an methane, methan Ôl-ddodiad: -ate, -ad nitrate, nitrad |
|
ae IPA: iː | ae IPA: ɛ; aɛ | caesium, caesiwm orthopaedic, orthopaedig aetiology, aetioleg Rhagddodiad: paedi- paediatrician, paediatregydd Rhagddodiad: haemo- haemophilia, haemoffilia Ôl-ddodiad: -aemia anaemia |
|
ae IPA: ɛː | ae IPA: aɛ; ɛ | anaesthetic, anaesthetig archaeology, archaeoleg Rhagddodiad: aero- aerodynamic, aerodynamig Rhagddodiad: palaeo- palaeolithic, palaeolithig | Sylwer y gall ynganiad termau benthyg sy’n cynnwys y graffem hon amrywio o unigolyn i unigolyn, ac o gyd-destun i gyd-destun.
|
au IPA: ɔː | aw IPA: au | laurencium, lawrensiwm trauma, trawma glaucoma, glawcoma bauxite, bawcsit | Eithriad: yr ôl-ddodiad -saur, -sor
|
e [acen ar sillaf gynderfynol yn Gymraeg] IPA: iː | e IPA: ɛ
| electrophoresis, electrofforesis Ôl-ddodiad: -ene, -en ethene, ethen polythene, polythen graphene, graffen Ôl-ddodiad: -eme, -em grapheme, graffem Ôl-ddodiad: -metre, -metr centimetre, centimetr | Sylwer mai ar sillaf nad yw’n sillaf derfynol ddisgynna’r acen yn y ffurfiau Cymraeg ar y termau benthyg hyn, hyd yn oed os yw’r acen ar y sillaf derfynol yn y ffurfiau Saesneg.
|
e [acen ar sillaf derfynol yn Gymraeg] IPA: iː | î IPA: iː | manganese, manganîs | |
e IPA: ə | e IPA: ɛ | laser Rhagddodiad: derma- dermatology, dermatoleg Ôl-ddodiad: -er polymer | Eithriad: copper, copr
|
eo IPA: ɪɒ, ɒ | eo IPA: ɛɔ | Rhagddodiad: geo- geometric, geometrig Rhagddodiad: meteo- meteorology, meteoroleg Rhagddodiad: neo- neophyte, neoffyt | |
eu [yn union ar ddechrau gair] IPA: juː; jʊ | ew IPA: ɛu | europium, ewropiwm eutrophic, ewtroffig | |
eu [heblaw yn union ar ddechrau gair] IPA: juː; jʊ | iw IPA: ɪu | neutron, niwtron therapeutic, therapiwtig pleural, pliwrol Rhagddodiad: neuro-, niwro- neurological, niwrolegol Rhagddodiad: pneumo-, niwmo- pneumonia, niwmonia | Eithriad: aneurysm, anewrysm
|
i [llafariad sengl] IPA: ɪ; iː | i IPA: ɪ | endocrine, endocrinaidd spin, sbin Ôl-ddodiad: -ic, -ig arsenic, arsenig Ôl-ddodiad: -itis (ail lafariad) tonsillitis, tonsilitis Ôl-ddodiad: -ine, -in nicotine, nicotin lysine, lysin | Sylwer: nid yw’r ôl-ddodiad -ics, -eg (i ddynodi gwyddor neu gangen o wyddor) yn berthnasol yn yr achos hwn.
|
i [deusain] IPA: ʌɪ | i IPA: ɪ | mitochondrion, mitocondrion titanium, titaniwm vinyl, finyl Rhagddodiad: bio- biology, bioleg biodegradable, bioddiraddadwy Rhagddodiad: dia- diameter, diamedr Rhagddodiad: nitr- nitrogen nitrate, nitrad Rhagddodiad: iso- isotope, isotop Ôl-ddodiad: -ide, -id bromide, bromid Ôl-ddodiad: -ile, -il extremophile, ecstremoffil Ôl-ddodiad: -itis (llafariad cyntaf) tonsillitis, tonsilitis Ôl-ddodiad: -ite, -it trilobite, trilobit | Eithriadau: ar sail cyffredinrwydd sillafiadau sy’n defnyddio “ei” mewn cyd-destunau yn yr iaith gyffredin, argymhellir diet, deiet; virus, feirws; fibre, ffeibr a’r rhagddodiad micro-, meicro-. Dylid estyn yr eithriad hwn i dermau sydd yn defnyddio’r termau uchod fel bôn hefyd, ee dietary, deietegol; virology, feiroleg; fibrosis, ffeibrosis. Hefyd, er mwyn gwahaniaethu rhwng y termau Cymraeg am acid ac azide, argymhellir yr eithriad azide, asaid. Sylwer yr ychwanegir didolnod yn iodine, ïodin ac yn ion, ïon Nodyn drafftio: Dyma’r mater sydd, o bosib, yn peri’r drafferth fwyaf wrth sillafu termau benthyg yn Gymraeg. Rhoddwyd ystyriaeth fanwl a gofalus i’r mater hwn, gan gydnabod bod yr arferion yn gyffredinol yn yr iaith yn gymysg iawn, o ran sillafu yn ogystal ag ynganu geiriau o’r fath. Penderfynwyd mai’r ateb sy’n debygol o beri’r lleiaf o anghysondeb o fewn deunyddiau Llywodraeth Cymru yw defnyddio’r llythyren “i” mewn termau benthyg gwyddonol, ac eithrio mewn nifer fach o dermau neu elfennau penodol iawn a sillefir yn gyffredin iawn ag “ei” yn yr iaith gyffredin. Yn hyn o beth, rhoddwyd pwys ar yr esboniad a geir yn Nodyn Rhagarweiniol y gyfrol Termau Bioleg, Cemeg, Gwyddor Gwlad gan CBAC ym 1982 (dyfynnir uchod), ynghylch penderfyniad y corff hwnnw i arddel yr ôl-ddodiad -teip yn hytrach na -typ, yn groes i’r egwyddor gyffredinol, oherwydd dylanwad sillafiad cyffredin geiriau megis teipiadur. Dyma’r mater lle ceir y ceir y mwyaf o anghysondeb â sillafiad cyffredin geiriau a thermau benthyg anwyddonol, fel dialogue, deialog; diagram, deiagram; client, cleient ac ati. O’r herwydd, dyma’r mater fyddai’n peri’r trafferth mwyaf o ran estyn yr egwyddor i sillafiad geiriau a thermau mewn meysydd anwyddonol.
|
iu IPA: ɪə | iw IPA: ɪu
| Ôl-ddodiad: -ium, -iwm sodium, sodiwm | |
o IPA: ɒ; ə; əʊ | o IPA: o; o: | coronary, coronaidd globe, glôb isotope, isotop mole, môl molar nematode, nematod | |
oe IPA: ᵻ; iː; ɛ | oe IPA: ɔi; ɔɨ; oɛ | oestrogen oesophagus, oesoffagws | |
oo [dwy lafariad annibynnol mewn cyfosodiad sefydlog] IPA: uːɒ; əʊɒ; əʊə | oo IPA: oːo; uːo | oolitic, oolitig | Eithriad: y rhagddodiad zoo-, sŵo- (ee zoology, sŵoleg; zoologist, sŵolegydd) Gweler hefyd yr arweiniad yn 2.2.7 ar gysylltnodi yn achos -oo- lle bo dwy elfen eiriol yn cyfuno. Nodyn drafftio: Ceir anghysondeb mawr yn y ffynonellau eraill o ran orgraff y llafariad cyntaf mewn cyfosodiad o’r fath yn Gymraeg, gydag amrywio rhwng o, ö, w a ŵ. Mae’n debyg mai’r eithriad sŵo- fydd yr enghraifft fwyaf cyffredin o gyfosodiad o’r fath mewn elfen fenthyg mewn termau gwyddonol Cymraeg. Mabwysiadwyd yr eithriad hwn ar sail cyffredinrwydd y gair Cymraeg sw a’i ffurf luosog arferol sŵau, ynghyd â chofnodion Geiriadur Prifysgol Cymru a’r enghraifft sŵolegydd yn Rhan 2 Orgraff yr Iaith Gymraeg. Tybir nad oes angen didolnod yn y cyfosodiad Cymraeg -oo- gan na all y cyfuniad llafariaid hwn fod yn ddeusain. |
u [mewn sillaf gynderfynol] IPA: juː; (j)ᵿ; jʊə; jɔː; jᵿ | w IPA: ʊ; uː; ɪu | butane, bwtan aluminium, alwminiwm plutonium, plwtoniwm macular, macwlar mercury, mercwri mucus, mwcws (llafariad cyntaf) spatula, sbatwla vascular, fasgwlaidd ocular, ocwlar | Eithriadau: formula, fformiwla; muon, miwon; gluon, gliwon; nuclear, niwclear; immunity, imiwnedd a’r rhagddodiaid nucl(eo)-, niwcl(eo)- ac immun-, imiwn- Nodyn drafftio: Yn achos y llafariad “u” mewn termau amlsillafog Saesneg, mae’r argymhellion yn dilyn y patrwm cyffredinol yn y Porth Termau a Geiriadur yr Academi, tra bod Geiriadur y Brifysgol yn gyffredinol yn cynnig y ddau sillafiad.
|
u [mewn geiriau unsill neu sillaf derfynol] IPA: juː; (j)ᵿ; jʊə; jɔː; jᵿ | iw IPA: ɪu | module, modiwl cube, ciwb tube, tiwb acute, acíwt absolute, absoliwt flu, ffliw glue, gliw | Bydd y sillafiadau hyn yn estyn i eiriau sy’n adeiladu ar y ffurfiau hyn, ee modular, modiwlaidd; nanotube, nanodiwb. Sylwer ar yr acen ddyrchafedig ynacíwt.
|
u [llafariad sengl] IPA: ʌ | w IPA: ʊ; uː | ulcer, wlser mucus, mwcws (ail lafariad) quantum, cwantwm reticulum, reticwlwm urethra, wrethra uranium, wraniwm Ôl-ddodiad: -um, -wm molybdenum, molybdenwm Ôl-ddodiad: -us, -ws fundus, ffwndws | Eithriad: y llafariad cyntaf yn sulphur (neu sulfur), sylffwr
|
uo IPA: ʊə; ɔː | wo IPA: uːɔ | fluoride, fflworid | |
y [deusain] IPA: ʌɪ | y IPA: ɛi; iː | dynamo hydrate, hydradu lysosome, lysosom lysine, lysin Rhagddodiad: hydro- hydrogen hydrocarbon Rhagddodiad: glyco- glycoside, glycosid Rhagddodiad: myo- myocardial, myocardiaidd Ôl-ddodiad: -cyte, -cyt erythrocyte, erythrocyt Ôl-ddodiad: -phyte, -ffyt halophyte, haloffyt Ôl-ddodiad: -hyde, -hyd aldehyde, aldehyd Ôl-ddodiad: -yne, -yn alkyne, alcyn | Eithriadau: byte, beit; yr ôl-ddodiad -type, -teip, y rhagddodiaid psycho-, seico- a cyber-, seiber- a’r rhagddodiad/elfen fewnol cycl(o)-, -seicl(o)- Nodyn drafftio: Dyma’r mater lle ceir y mwyaf o anghysondeb â sillafiad cyffredin geiriau a thermau benthyg anwyddonol, fel dynamic, deinamig ac ati. O’r herwydd, dyma’r mater fyddai’n peri’r trafferth mwyaf o ran estyn yr egwyddor i sillafiad geiriau a thermau mewn meysydd anwyddonol.
|
y [llafariad sengl, mewn sillaf gynderfynol] IPA: ɪ; ᵻ | y IPA: iː | beryllium, beryliwm yttrium, ytriwm Ôl-ddodiad: -ysm aneurysm, anewrysm Ôl-ddodiad: -lysis electrolysis | Eithriadau: cylinder, silindr a’r rhagddodiad oxy-, ocsi-
|
y [llafariad sengl, yn y sillaf derfynol] IPA: ɪ; ᵻ | i IPA: iː | enthalpy, enthalpi entropy, entropi |
|
Y berthynas rhwng sillafiad termau a symbolau cydnabyddedig
Sylwer bod tuedd i enwau elfennau cemegol ac unedau mesur eu Cymreigio hyd yn oed pan fydd symbol gydwladol gydnabyddedig yr elfen neu’r uned fesur honno yn seiliedig ar lythyren sy’n anghyfiaith i’r Gymraeg, ee vanadium, fanadiwm (Va); krypton, crypton (Kr); xenon, senon (Xe); zinc, sinc (Zn); uranium, wraniwm (U) kilometre, cilometr (km). Serch hynny, nid yw hon yn rheol ddiwyro a cheir enghreifftiau o enwau elfennau cemegol ac unedau mesur nad ydynt wedi eu Cymreigio’n llawn, ee scandium, scandiwm (Sc); coulomb (C); ohm (Ω).
Rhagddodiaid
Rhagddodiaid: ffurfiau sefydledig Cymraeg
Pan fo rhagddodiad Cymraeg sefydledig sy’n cyfateb yn union ag ystyr y rhagddodiad yn y gair Saesneg, defnyddir y rhagddodiad Cymraeg, ee:
- bi-, deu-
- di-, deu-
- multi-, aml-
- uni-, un-
- vari-, amryw- (neu amry- fel sy’n briodol)
Rhagddodiaid: ffurfiau eraill
Pan nad oes rhagddodiad Cymraeg sefydledig, neu pan fo amheuaeth a yw’r ystyr yn cyfateb yn union, defnyddir rhagddodiad benthyg, gan gymhwyso unrhyw egwyddorion perthnasol, ee:
- aero-
- bio-
- cis-
- dys-
- geo-
- hetero-
- mono-
Nid yw bodolaeth rhagddodiad Cymraeg penodol mewn rhai geiriau yn yr iaith gyffredin (hy, geiriau nad ydynt yn dermau technegol) yn golygu o angenrheidrwydd y dylid defnyddio’r rhagddodiad hwnnw mewn termau gwyddonol. Er enghraifft, nid yw’r defnydd o union- yn orthodox, uniongred yn golygu bod rhaid ei ddefnyddio mewn termau fel orthopaedic, orthopaedig.
Mae ambell ragddodiaid benthyg yn cael ei fabwysiadu mewn rhai cyd-destunau gwyddonol yn Gymraeg, ond nid mewn eraill, ee:
- cyclo-, cylch(o)- mewn termau mathemategol fel cyclosymmetry, cylchgymesuredd ond seicl(o)- fel rhagddodiad neu elfen fewnol mewn termau cemegol fel cyclohexane, seiclohecsan.
- neo-, newydd- mewn termau fel neonatal, newyddanedig ond neo- mewn termau fel neophyte, neoffyt.
- hyper-, gor- mewn termau fel hypertension, gorbwysedd ond hyper- mewn termau fel hyperthermic, hyperthermig
- poly-, aml- mewn termau fel polypharmacy, amlgyffuriaeth ond poly- mewn termau fel polythene, polythen.
Ar y cyfan mewn termau benthyg gwyddonol bydd y rhagddodiad cynhenid Cymraeg yn cael ei ddefnyddio lle bydd yn rhagflaenu elfen Gymraeg, a’r rhagddodiad benthyg yn cael ei ddefnyddio lle bydd yn rhagflaenu elfen fenthyg.
Mae’n werth bod yn ymwybodol hefyd o’r canlynol:
- Y gwahaniaeth rhwng y rhagddodiad dia- (a drosir i’r Gymraeg fel arfer fel dia-, ee diameter, diamedr) a’r rhagddodiad di- (a drosir i’r Gymraeg fel arfer fel deu-, ee dioxide, deuocsid). Sylwer mai o’r gair Groeg a fynegir yn y wyddor Rufeinig fel diastasis y daw’r term diastase, diastas. Gall llunio term Cymraeg addas ar gyfer term Saesneg sy’n cychwyn â’r llythrennau di(a)- ofyn am waith ymchwil manwl i’r union ystyr a tharddiad
- Y gall y rhagddodiad calc- gyfeirio at yr elfen gemegol calcium, calsiwm fel yn y ffurf calcite, calsit neu at lime, calch fel yn y ffurf calciphobe, calchgas.
Yr elfen ‘cell’
Pan fo’r elfen cell yn ymddangos mewn gair Saesneg a fenthycir i’r Gymraeg, defnyddir y gair Cymraeg cell yn y gair Cymraeg, ee cellulose, cellwlos (nid selwlos). Gan hynny, yngenir y term technegol hwn fel “cellwlos”.
Ôl-ddodiaid
Ôl-ddodiaid: ôl-ddodiaid ansoddeiriol
Dyma arweiniad cyffredinol ar ôl-ddodiaid ansoddeiriol:
- Os oes ffurf sefydledig sy’n defnyddio ôl-ddodiad ansoddeiriol Cymraeg, ee -aidd neu -ol, defnyddir y ffurf sefydledig, ee alkaline, alcalïaidd; neurological, niwrolegol
- Os nad oes ffurf sefydledig sy’n defnyddio ôl-ddodiad ansoddeiriol Cymraeg, ffefrir defnyddio ôl-ddodiad ansoddeiriol Cymraeg pan fo modd. Wrth ddewis yr ôl-ddodiad, ffefrir dewis yr ôl-ddodiad Cymraeg sydd fwyaf agos i’r ôl-ddodiad Saesneg, ee am -ic gellir defnyddio -ig, ee citric, citrig, ac am -ous gellir defnyddio -us, ee nitrous, nitrus
- Ond mewn rhai achosion bydd yn fwy addas (at ddiben yr ynganiad a pha mor gyfarwydd yw’r ffurf) adael yr ôl-ddodiad Saesneg fel y mae, ee defnyddir -ar yn ocular, ocwlar, ac -al yn bifocal, deuffocal.
Ôl-ddodiaid: ôl-ddodiaid enwol
Weithiau wrth ffurfio term benthyg Cymraeg ychwanegir ôl-ddodiaid enwol Cymraeg fel -yn at ddiwedd ffurf enwol Saesneg a fyddai fel arall yn ymddangos fel ffurf ansoddeiriol Gymraeg, ee integral, integryn; bracteole, bractolyn.
Cewch restr o ôl-ddodiaid enwol gwyddonol yn Rhan 2.
Acenion
Mewn termau amlsillafog lle nad yw’r pwyslais ar y goben, fel arfer ni ddefnyddir acenion i ddangos lle mae’r pwyslais, heblaw bod Geiriadur Prifysgol Cymru eisoes yn gwneud hynny.
Cysylltnodau mewn termau benthyg cyfansawdd
Yn gyffredinol, dilynir rheolau arferol orgraff y Gymraeg wrth ddefnyddio’r cysylltnod mewn termau benthyg cyfansawdd.
Serch hynny dylid nodi bod rheolau penodol gan yr IUPAC (International Union of Pure and Applied Chemistry) ar gysylltnodi mewn enwau cemegol a dylai’r ffurfiau Cymraeg ar enwau o’r fath adlewyrchu’r cysylltnodi a welir yn y ffurfiau Saesneg.
Mae rhai sefyllfaoedd eithriadol eraill lle gall fod yn fanteisiol cysylltnodi mewn termau benthyg cyfansawdd mewn ffordd anghonfensiynol. Ymysg y sefyllfaoedd hyn y mae: (i) cysylltnodi i osgoi’r posibilrwydd o gamddehongli ffurf, ee microbicidial, meicrob-leiddiol a (ii) cysylltnodi i osgoi amwysedd ynganiad yn y cyfuniad llafariaid -oo- pan fo dwy elfen eiriol yn cyfuno, ee gastro-oesoffagaidd, bio-olew. Dylid cadw eithriadau o’r fath i’r lleiafswm posibl.
Treiglo o fewn termau cyfansawdd
Mewn termau cyfansawdd pan fo’r elfen gyntaf yn derm neu’n rhagddodiad benthyg, ond yr ail elfen (neu elfen ddilynol) yn air Cymraeg hirsefydledig, mae’r ail elfen yn treiglo, ee bioddiraddadwy, geofwrdd, seicogymdeithasol.
Mewn termau cyfansawdd pan fo’r elfen gyntaf yn derm neu’n rhagddodiad benthyg, a’r ail elfen (neu elfen ddilynol) hefyd yn derm neu’n rhagddodiad benthyg, neu’n gyfaddasiad o air anghyfiaith, nid yw’r ail elfen yn treiglo, ee biomas, ecotocsicoleg, aerodynamig, dyspepsia.
Gall fod yn anodd, weithiau, benderfynu a ydyw ail elfen – pan fo’n derm benthyg ei hun yn Gymraeg, ond o gyfnod hŷn – bellach wedi cymhathu ddigon i’r iaith i’r elfen honno gael ei chyfrif yn air Cymraeg “hirsefydledig”, ee geotechnegol. Mewn achosion o’r fath dilynir arweiniad y ffynonellau eraill.
Mewn termau cyfansawdd pan fo’r elfen gyntaf yn derm neu’n rhagddodiad Cymraeg hirsefydledig, a’r ail elfen (neu elfen ddilynol) yn derm benthyg, mae’r ail elfen yn treiglo, ee gwrthfiotig, amlbaramedr.
Serch hynny sylwer na fydd elfennau benthyg mewn enwau cyfansawdd ar gyfansoddion cemegol byth yn treiglo, ee hydrocarbon; copolymer; deucromiwm.
Enwau priod mewn termau gwyddonol
Yn gyffredinol ni fydd enwau priod yn gwrthsefyll cael eu cymhathu gan ddefnyddio’r egwyddorion yn y ddogfen hon, ee rebaudioside, rebawdiosid. Serch hynny, ceir rhai eithriadau yn achos enwau personol mewn elfennau cemegol, ee rutherfordium, rutherfordiwm; curium, curiwm. Ym mhob achos, ni ddefnyddir priflythyren.
Yn achos unedau mesur a seiliwyd ar enwau personol, mae’r arfer o ran Cymreigio yn anghyson iawn. Yn achos y rhain, dilynir arweiniad y ffynonellau eraill, felly watt, wat (ar ôl James Watt) a hertz, herts (ar ôl Heinrich Rudolf Hertz) ond coulomb (ar ôl Charles-Augustin de Coulomb) a Planck (ar ôl Max Karl Ernst Ludwig Planck).
Cyfansoddion – trefn yr elfennau
Mewn termau (ee enwau cyfansoddion) sy’n cynnwys mwy nag un elfen gemegol, dilynir trefn y symbolau. Yn ymarferol bydd hyn yn golygu dilyn trefn y geiriau Saesneg ym mwyafrif llethol yr enghreifftiau, ee sodium chloride, sodiwm clorid; copper oxide, copr ocsid; polyvinyl alcohol-polyethylene glycol, polyfinyl alcohol-polyethylen glycol.
Ni fydd hyn yn berthnasol pan fo’r term Saesneg yn cynnwys ffurf ansoddeiriol, ee manganous oxide, ocsid manganaidd.
Dylid nodi ei bod yn ansafonol defnyddio ffurfiau ansoddeiriol o’r fath mewn testunau gwyddonol, ac mai rhifau Rhufeinig a ddefnyddir yn y dull safonol, ee dull ansafonol: ferric oxide, ocsid fferrig; dull safonol: iron(III) oxide, haearn(III) ocsid. Serch hynny os yw’r testun Saesneg yn defnyddio ffurf ansoddeiriol, dylid gwneud yr un fath yn Gymraeg.
Rhifau mewn cyfansoddion
Wrth ysgrifennu cyfansoddion fel symbolau, dylid gofalu defnyddio is-ysgrif lle bo angen, ee H2O nid H2O a CO2nid CO2.
Ond sylwer bod angen defnyddio rhif mawr mewn rhai achosion prin, megis pan fo cyfansoddyn yn cynnwys dŵr grisialu (ee fformiwla copr(II) sylffad anhydrus yw CuSO4 a fformiwla copr(II) sylffad hydradol yw CuSO4.5H2O)
Dylid nodi na ellir arddangos is-ysgrif yng nghofnodion TermCymru.
Meddyginiaethau
Mae’r egwyddorion yn berthnasol i enwau meddyginiaethau, ond ni ddylid Cymreigio sillafiad enwau meddyginiaethau os yw’r rheini’n enwau priod (fel nodau masnach) ee paracetamol, parasetamol ond Neurofen. Mae sefydlu hyn yn gofyn am ymchwil drylwyr weithiau. Fel rheol y fawd, bydd enwau meddyginiaethau generig mewn llythrennau bach i gyd ac enwau brand yn cychwyn â phriflythyren.
Enwau bacteria a theuluoedd feirysau
Ni ddylid Cymreigio enwau bacteria a theuluoedd feirysau, ee Saccharomyces cerevisiae; Lactobacillus buchneri, gan adlewyrchu’r ffaith na Chymreigir enwau Lladin rhywogaethau yn y drefn Linneaidd.
Defnyddio termau benthyg gwyddonol mewn brawddegau
Treiglo
Mae termau sydd wedi eu sillafu yn unol â’r egwyddorion hyn i’w trin fel termau Cymraeg, a dylid dilyn y rheolau arferol o ran eu treiglo. Mae’r arfer yn wahanol o ran eu cynnwys mewn termau cyfansawdd (gweler yr adran uchod ar ffurfiant).
Mae rhai elfennau benthyg yn gwrthsefyll y rheol hon, ee elfennau sy’n cychwyn â’r llythyren g- ac a yngenir dʒ megis geo-.
Mewn rhai testunau a chyd-destunau, gall ymddangos yn lletchwith treiglo rhai termau cwbl newydd a ragflaenir gan elfennau benthyg treigladwy, ee bio-, gan fod treiglo’r elfen honno yn gallu dieithrio’r term cyflawn a’i gwneud yn anodd i ddarllenydd ddeall ei ffurfiant a’i arwyddocâd. Argymhellir defnyddio crebwyll o ran treiglo ai peidio mewn sefyllfaoedd o’r fath.
Italeiddio
Mae termau sydd wedi eu sillafu yn unol â’r egwyddorion hyn – waeth faint o newid a wnaed iddynt mewn cymhariaeth â’r termau Saesneg – i’w trin fel termau Cymraeg, ac nid oes angen eu hitaleiddio.
YR AIL RAN – GEIRFA
Rhestr o’r elfennau cemegol
Tabl 3: Rhestr o’r elfennau cemegol
Rhif | Symbol | Saesneg | Cymraeg |
1 | H | hydrogen | hydrogen |
2 | He | helium | heliwm |
3 | Li | lithium | lithiwm |
4 | Be | beryllium | beryliwm |
5 | B | boron | boron |
6 | C | carbon | carbon |
7 | N | nitrogen | nitrogen |
8 | O | oxygen | ocsigen |
9 | F | fluorine | fflworin |
10 | Ne | neon | neon |
11 | Na | sodium | sodiwm |
12 | Mg | magnesium | magnesiwm |
13 | Al | aluminium | alwminiwm |
14 | Si | silicon | silicon |
15 | P | phosphorus | ffosfforws |
16 | S | sulfur | sylffwr |
17 | Cl | chlorine | clorin |
18 | Ar | argon | argon |
19 | K | potassium | potasiwm |
20 | Ca | calcium | calsiwm |
21 | Sc | scandium | scandiwm |
22 | Ti | titanium | titaniwm |
23 | V | vanadium | fanadiwm |
24 | Cr | chromium | cromiwm |
25 | Mn | manganese | manganîs |
26 | Fe | iron | haearn |
27 | Co | cobalt | cobalt |
28 | Ni | nickel | nicel |
29 | Cu | copper | copr |
30 | Zn | zinc | sinc |
31 | Ga | gallium | galiwm |
32 | Ge | germanium | germaniwm |
33 | As | arsenic | arsenig |
34 | Se | selenium | seleniwm |
35 | Br | bromine | bromin |
36 | Kr | krypton | crypton |
37 | Rb | rubidium | rwbidiwm |
38 | Sr | strontium | strontiwm |
39 | Y | yttrium | ytriwm |
40 | Zr | zirconium | sirconiwm |
41 | Nb | niobium | niobiwm |
42 | Mo | molybdenum | molybdenwm |
43 | Tc | technetium | technetiwm |
44 | Ru | ruthenium | rwtheniwm |
45 | Rh | rhodium | rhodiwm |
46 | Pd | palladium | paladiwm |
47 | Ag | silver | arian |
48 | Cd | cadmium | cadmiwm |
49 | In | indium | indiwm |
50 | Sn | tin | tun |
51 | Sb | antimony | antimoni |
52 | Te | tellurium | telwriwm |
53 | I | iodine | ïodin |
54 | Xe | xenon | senon |
55 | Cs | caesium | caesiwm |
56 | Ba | barium | bariwm |
57 | La | lanthanum | lanthanwm |
58 | Ce | cerium | ceriwm |
59 | Pr | praseodymium | praseodymiwm |
60 | Nd | neodymium | neodymiwm |
61 | Pm | promethium | promethiwm |
62 | Sm | samarium | samariwm |
63 | Eu | europium | ewropiwm |
64 | Gd | gadolinium | gadoliniwm |
65 | Tb | terbium | terbiwm |
66 | Dy | dysprosium | dysprosiwm |
67 | Ho | holmium | holmiwm |
68 | Er | erbium | erbiwm |
69 | Tm | thulium | thwliwm |
70 | Yb | ytterbium | yterbiwm |
71 | Lu | lutetium | lwtetiwm |
72 | Hf | hafnium | haffniwm |
73 | Ta | tantalum | tantalwm |
74 | W | tungsten | twngsten |
75 | Re | rhenium | rheniwm |
76 | Os | osmium | osmiwm |
77 | Ir | iridium | iridiwm |
78 | Pt | platinum | platinwm |
79 | Au | gold | aur |
80 | Hg | mercury | mercwri |
81 | Tl | thallium | thaliwm |
82 | Pb | lead | plwm |
83 | Bi | bismuth | bismwth |
84 | Po | polonium | poloniwm |
85 | At | astatine | astatin |
86 | Rn | radon | radon |
87 | Fr | francium | ffranciwm |
88 | Ra | radium | radiwm |
89 | Ac | actinium | actiniwm |
90 | Th | thorium | thoriwm |
91 | Pa | protactinium | protactiniwm |
92 | U | uranium | wraniwm |
93 | Np | neptunium | neptwniwm |
94 | Pu | plutonium | plwtoniwm |
95 | Am | americium | americiwm |
96 | Cm | curium | curiwm |
97 | Bk | berkelium | berceliwm |
98 | Cf | californium | califforniwm |
99 | Es | einsteinium | einsteiniwm |
100 | Fm | fermium | ffermiwm |
101 | Md | mendelevium | mendelefiwm |
102 | No | nobelium | nobeliwm |
103 | Lr | lawrencium | lawrensiwm |
104 | Rf | rutherfordium | rutherfordiwm |
Rhestr o ôl-ddodiaid benthyg gwyddonol
Tabl 4: Rhestr o ôl-ddodiaid benthyg gwyddonol a ddyfynnir yn y canllawiau hyn, ac eraill
Saesneg | Cymraeg | Enghreifftiau | Nodiadau |
-aemia | -aemia | bacteraemia | |
-al | -al | ethanal | |
-ane | -an | ethane, ethan | |
-ate | -ad | nitrate, nitrad | |
-bite | -bit | trilobite, trilobit | |
-byte | -beit | gigabyte, gigabeit | Mae’r ôl-ddodiad hwn yn groes i’r egwyddorion arferol. |
-cyte | -cyt | erythrocyte, erythrocyt | |
-ene | -en | ethene, ethen | |
-er | -er | polymer | Eithriad: copper, copr |
-hyde | -hyd | acetaldehyde, asetaldehyd | Enw arall am ethanal |
-ic | -ig | arsenic, arsenig | |
-ics | -eg | orthopaedics, orthopedeg | Yn dechnegol nid yw’r ôl-ddodiad hwn yn elfen fenthyg ond fe’i cynhwysir yma er cyflawnder. |
-ide | -id | bromide, bromid | |
-ile | -il | extremeophile, ecstremoffil | |
-ine | -in | nicotine, nicotin | |
-ite | -it | pyrite, pyrit | |
-itis | -itis | tonsillitis, tonsilitis | |
-ium | -iwm | sodium, sodiwm | |
-lysis | -lysis | electrolysis | |
-meter | -medr | hygrometer, hygromedr | Sylwer ar y gwahaniaeth rhwng -meter a -metre |
-metre | -metr | centimetre, centimetr | Sylwer ar y gwahaniaeth rhwng -meter a -metre |
-ol | -ol | phenol, ffenol | |
-one | -on | propanone, propanon | |
-philia | -ffilia | haemophilia, haemoffilia | |
-phyte | -ffyt | halophyte, haloffyt | |
-saur | -sor | plesiosaur, plesiosor | Mae’r ôl-ddodiad hwn yn groes i’r egwyddorion arferol. |
-type | -teip | genotype, genoteip | Mae’r ôl-ddodiad hwn yn groes i’r egwyddorion arferol. |
-um | -wm | molybdenum, molybdenwm | |
-ur | -wr | sulfur, sylffwr | |
-us | -ws | fundus, ffwndws | |
-yl | -yl | acetyl, asetyl | |
-yne | -yn | alkyne, alcyn | |
-ysm | -ysm | aneurysm, anewrysm |
Rhestr o ragddodiaid benthyg gwyddonol
Tabl 5: Rhestr o ragddodiaid benthyg gwyddonol a ddyfynnir yn y canllawiau hyn, ac eraill
Saesneg | Cymraeg | Enghreifftiau | Nodiadau |
aero- | aero- | aerodynamig, aerodynamic | |
benzo- | benso- | benzopyrene, bensopyren benzoic, bensöig | |
bio- | bio- | biodegradable, bioddiraddadwy | |
calc- | calch- | calciphobe, calchgas | Wrth gyfeirio at galsiwm. |
calc- | cals- | calcite, calsit | Wrth gyfeirio at galch. |
centi- | centi- | centimetre, centimetr | |
cerebro- | cerebro- | cerebrovascular, cerebrofasgwlaidd | |
chiro- | ciro- | chiropodist, ciropodydd | |
co- | co- | copolymer | |
cyano- | cyano- | cyanobacteria | |
cyber- | seiber- | cybersecurity, seiberddiogelwch | Mae’r rhagddodiad hwn yn groes i’r egwyddorion arferol. |
cyclo- | cylch- | cyclosymmetry, cylchgymesuredd | Ym maes mathemateg. |
cyclo- | seiclo- | cyclohexane, seiclohecsan | Ym maes cemeg. Mae’r rhagddodiad hwn yn groes i’r egwyddorion arferol. |
deci- | deci- | decimetre, decimetr | Ond sylwer ar decibel, desibel |
derma- | derma- | dermatology, dermatoleg | |
dia- | dia- | diameter, diamedr | |
dys- | dys- | dysphoria, dysfforia | |
eco- | eco- | ecotoxicolgy, ecotocsicoleg | |
electro- | electro- | electromagnetic, electromagnetig | |
exo- | ecso- | exocrine, ecsocrin | |
geo- | geo- | geometric, geometrig | |
giga- | giga- | gigabyte, gigabeit | |
glyco- | glyco- | glycoside, glycosid | |
halo- | halo- | halophyte, haloffyt | |
haemo- | haemo- | haemoglobin | |
hetero- | hetero- | heterogeneity, heterogenedd | |
homo- | homo- | homocyclic, homoseiclig | |
hydro- | hydro- | hydrogen | |
hydroxyl- | hydrocsyl- | hydroxylamine, hydrocsylamin | |
hyper- | hyper- | hyperthermic, hyperthermig | |
hypo- | hypo- | hypothalamus, hypothalamws | |
immuno- | imiwno- | immunotherapy, imiwnotherapi | Mae’r rhagddodiad hwn yn groes i’r egwyddorion arferol. |
iso- | iso- | isotope, isotop | |
kilo- | cilo- | kilogram, cilogram | |
leuco- | lewco- | leucoplast, lewcoplast | |
mega- | mega- | megawatt, megawat | |
meteo- | meteo- | meteorology, meteoroleg | |
micro- | meicro- | microbial, meicrobaidd | Mae’r rhagddodiad hwn yn groes i’r egwyddorion arferol. |
milli- | mili- | millilitre, mililitr | |
mono- | mono- | monoclonal, monoclonaidd | |
myo- | myo- | myopathy, myopathi | |
nano- | nano- | nanosecond, nanoeiliad | |
neo- | neo- | neophyte, neoffyt | |
neuro- | niwro- | neurological, niwrolegol | |
nucl(eo)- | niwcl(eo)- | nucleotide, niwcleotid | Mae’r rhagddodiad hwn yn groes i’r egwyddorion arferol. |
ortho- | ortho- | orthopaedic, orthopaedig | |
oxy- | ocsi- | oxygen, ocsigen oxidise, ocsideiddio | Mae’r rhagddodiad hwn yn groes i’r egwyddorion arferol. |
paedi- | paedi- | paediatrician, paediatregydd | |
palaeo- | palaeo- | palaeolithic, palaeolithig | |
phyto- | ffyto- | phytosanitary, ffytoiechydol | |
pneumo- | niwmo- | pneumonia, niwmonia | Mae’r rhagddodiad hwn yn groes i’r egwyddorion arferol. |
psycho- | seico- | psychosocial, seicogymdeithasol | Mae’r rhagddodiad hwn yn groes i’r egwyddorion arferol. |
tera- | tera- | terahertz, teraherts | |
zoo- | sŵo- | zoologist, sŵolegydd | Mae’r rhagddodiad hwn yn groes i’r egwyddorion arferol. |
Rhestr o dermau benthyg gwyddonol
Tabl 6: Rhestr o dermau benthyg gwyddonol a ddyfynnir yn y canllawiau hyn, ac eraill
Saesneg | Cymraeg | Croesgyfeiriad |
absolute | absoliwt | Tabl 2: u, iw |
acetaldehyde | asetaldehyd | Tabl 4: -hyde, -hyd |
acetic | asetig | Tabl 1: c, s |
acute | acíwt | Tabl 2: u, iw |
aerodynamic | aerodynamig | Tabl 2: ae, ae 2.3.2 Tabl 5: aero- |
aetiology | etioleg | Tabl 2: ae, e |
aldehyde | aldehyd | Tabl 2; y, y |
alkaline | alcalïaidd | 1.7.1 |
alkyne | alcyn | Tabl 2; y, y Tabl 4: -yne, -yn |
aluminium | alwminiwm | Tabl 2: u, w Tabl 3 |
anaesthetic | anaesthetig | Tabl 2: ae, ae |
aneurysm | anewrysm | Tabl 2: eu, iw (eithriad) Tabl 2: y, y Tabl 4: -ysm |
antibiotic | gwrthfiotig | 2.3.4 |
archaeology | archaeoleg | Tabl 2: ae, ae |
arsenic | arsenig | Tabl 2: i, i Tabl 3 Tabl 4: -ic, -ig |
azide | asaid | Tabl 1: x; z, s |
bacteraemia | bacteraemia | Tabl 4: -aemia (eithriad) |
bauxite | bawcsit | Tabl 2: au, aw |
benzoic | bensöig | Tabl 5: benzo- |
benzopyrene | bensopyren | Tabl 5: benzo- |
berkelium | berceliwm | Tabl 1: ch; ck; k, c Tabl 3. |
beryllium | beryliwm | 1.2.3 Tabl 2: y, y Tabl 3 |
bifocal | deuffocal | 1.7.1 |
biodegradable | bioddiraddadwy | Tabl 2: i, i 2.3.1 Tabl 5: bio- |
biology | bioleg | Tabl 2: i, i |
biomass | biomas | 2.3.2 |
bio-oil | bio-olew | 2.2.3 |
bromide | bromid | Tabl 2: i, i Tabl 4: -ide, -id |
butane | bwtan | Tabl 2: u, w |
byte | beit | Tabl 2: y, y (eithriad) Tabl 4: -byte, -beit |
caesium | cesiwm | Tabl 2: ae, e Tabl 3 |
calcium | calsiwm | Tabl 1: c, s Tabl 3 |
cellulose | cellwlos | Tabl 1: c, c 1.6.1 |
centimetre | centimetr | Tabl 1: c, c Tabl 2: e, e Tabl 4: -metre, -metr Tabl 5: centi- |
cerebrovascular | cerebrofasgwlaidd | Tabl 1: c, c Tabl 5: cerebro- |
cervical | serfigol | Tabl 1: c, c (eithriad) |
cervix | serfics | Tabl 1: c, c (eithriad) |
chelate | celad | Tabl 1: ch; ck; k, c |
chiropodist | ciropodydd | Tabl 1: ch; ck; k, c Tabl 5: chiro-, ciro- |
chlorine | clorin | Tabl 1: ch; ck; k, c Tabl 3 |
chromatography | cromatograffi | Tabl 1: ch; ck; k, c |
ciliary | ciliaraidd | Tabl 1: c, c |
cisgender | cisryweddol | Tabl 1: c, c Tabl 5: cis- |
citric | citrig | Tabl 1: c, c 1.7.1 |
coccidiostat | cocsidiostat | Tabl 1: cc, cs |
copolymer | copolymer | 2.3.5 Tabl 5: co- |
copper | copr | Tabl 2: e, e (eithriad) Tabl 4: -er, -er (eithriad) |
copper oxide | copr ocsid | 2.5.1 |
coronary | coronaidd | Tabl 2: o, o |
coulomb | coulomb | 1.4.1 2.4.2 |
cube | ciwb | Tabl 2: u, iw |
curium | curiwm | 2.4.1 Tabl 3 |
cyanide | cyanid | Rhagymadrodd Tabl 1: c, c |
cyanobacteria | cyanobacteria | Tabl 1: c, c Tabl 5: cyano- |
cybersecurity | seiberddiogelwch | Tabl 5: cyber-, seiber- |
cylinder | silindr | Tabl 1: c, c (eithriad) Tabl 2: y, y (eithriad) |
decibel | desibel | Tabl 1: c, s Tabl 5: deci- |
decimeter | decimetr | Tabl 5: deci- |
dermatology | dermatoleg | Tabl 2: e, e Tabl 5: derma- |
diameter | diamedr | Tabl 2: i, i 1.5.6 Tabl 5: dia- |
diastase | diastas | 1.5.6 |
dichromium | deucromiwm | 2.3.5 |
diet | deiet | Tabl 2: i, i (eithriad) |
dietary | deietegol | Tabl 2: i, i (eithriad) |
dioxide | deuocsid | 1.5.6 |
dynamo | dynamo | Tabl 2: y, y |
dysphoria | dysfforia | Tabl 5: dys- |
ecotoxicology | ecotocsicoleg | Tabl 1: x, cs Tabl 5: eco- |
electrolysis | electrolysis | Tabl 2: y, y Tabl 4: -lysis |
electromagnetic | electromagnetig | Tabl 5: electro- |
electronegative | electronegatif | Tabl 1: v, f |
electrophoresis | electrofforesis | Tabl 1: f; ph, ff Tabl 2: e, e |
endocrine | endocrinaidd | Tabl 2: i, i |
enthalpy | enthalpi | Tabl 2: y, i |
entropy | entropi | Tabl 2: y, i |
erythrocyte | erythrocyt | Tabl 2: y, y Tabl 4: -cyte, -cyt |
ethene | ethen | Tabl 2: e, e Tabl 4: -ene, -en |
europium | ewropiwm | Tabl 2: eu, ew Tabl 3 |
eutrophic | ewtroffig | Tabl 2: eu, ew |
exocrine | ecsocrin | Tabl 1: x, cs Tabl 5: exo-, ecso- |
extremophile | ecstremoffil | Tabl 1: x, cs Tabl 4: -phile, -ffil |
ferric oxide | ocsid fferrig | 2.5.3 |
ferrous | fferrig | 1.2.4 |
fibre | ffeibr | Tabl 2: i, i (eithriad) |
fibrosis | ffeibrosis | Tabl 2: i, i (eithriad) |
flu | ffliw | Tabl 2: u, iw |
fluoride | fflworid | Tabl 2: uo, wo |
flux | fflwcs | Tabl 1: x, cs |
formula | fformiwla | Tabl 2: u, w (eithriad) |
francium | ffranciwm | Tabl 1: f; ph, ff Tabl 3 |
fundus | ffwndws | Tabl 2: u, w Tabl 4: -us, -ws |
gamma | gama | 1.2.4 |
gastro-oesophageal | gastro-oesoffagaidd | 2.2.3 |
genotype | genoteip | Tabl 4: -type, -teip |
geoboard | geofwrdd | 2.3.1 |
geometric | geometrig | Tabl 2: eo, eo Tabl 5: geo- |
geotechnical | geotechnegol | 2.3.3 |
germanium | germaniwm | Tabl 1: g, g Tabl 2: a, a Tabl 3 |
glaucoma | glawcoma | Tabl 2: au, aw |
globe | glôb | Tabl 2: o, o |
glue | gliw | Tabl 2: u, iw |
gluon | gliwon | Tabl 2: u, w (eithriad) |
glycoside | glycosid | Tabl 2: y, y Tabl 5: glyco- |
grapheme | graffem | Tabl 2: e, e |
graphene | graffen | Tabl 2: e, e |
2.3.4 | ||
haemoglobin | haemoglobin | Tabl 2: ae, e (eithriad) |
haemophilia | haemoffilia | Tabl 1: f; ph, ff Tabl 4: -philia, -ffilia |
hafnium | haffniwm | Tabl 1: f; ph, ff Tabl 3 |
halophyte | haloffyt | Tabl 2: y, y Tabl 4: -phyte, -ffyt Tabl 5: halo- |
hertz | herts | Tabl 1: x; z, s 2.4.2 |
heterogeneity | heterogenedd | Tabl 5: hetero- |
homocyclic | homoseiclig | Tabl 5: homo- |
hydrate | hydradu | Tabl 2; y, y |
hydrocarbon | hydrocarbon | Tabl 2: y, y 2.3.5 |
hydrogen | hydrogen | Rhagymadrodd Tabl 2: y, y Tabl 3 Tabl 5: hydro- |
hydroxylamine | hydrocsylamin | Tabl 5: hydroxy-, hydrocsi- |
hygrometer | hygromedr | Tabl 4: -meter, -medr |
hyperthermic | hyperthermig | Tabl 5: hyper- |
hypothalamus | hypothalamws | Tabl 5: hypo- |
immunity | imiwnedd | Tabl 2: u, w (eithriad) |
immunotherapy | imiwnotherapi | Tabl 5: immuno-, imiwno- (eithriad) |
iodine | ïodin | Tabl 2: i, i |
ion | ïon | Tabl 2: i, i |
iron(III) oxide | haearn(III) ocsid | 2.5.3 |
isotope | isotop | Tabl 2: i, i Tabl 2: o, o Tabl 5: iso- |
keratitis | ceratitis | Tabl 1: ch; ck; k, c |
kilogram | cilogram | Tabl 4: kilo-, cilo- |
kilometre | cilometr | Tabl 1: ch; ck; k, c 1.4.1 |
krypton | crypton | Tabl 1: ch; ck; k, c 1.4.1 Tabl 3 |
laser | laser | Tabl 2: e, e |
laurencium | lawrensiwm | Tabl 1: c, s Tabl 2: au, aw |
leucoplast | lewcoplast | Tabl 5: leuco-, lewco- |
lysine | lysin | Tabl 2: i, i Tabl 4: -ine, -in |
lysosome | lysosom | Tabl 2: y, y |
macular | macwlar | Tabl 2: u, w |
manganese | manganîs | Tabl 2: e, î Tabl 3 |
manganous oxide | ocsid manganaidd | 2.5.2 |
megawatt | megawat | Tabl 5: mega- |
mendelevium | mendelefiwm | Tabl 1: v, f Tabl 3 |
mercury | mercwri | Tabl 2: u, w |
meteorology | meteoroleg | Tabl 2: eo, eo Tabl 5: meteo- |
methane | methan | Tabl 2: a, a |
microbial | meicrobaidd | Tabl 4: micro-, meicro- (eithriad) |
microbicidial | meicrob-leiddiol | 2.2.3 |
millilitre | mililitr | Tabl 4: milli-, mili- |
mitochondrion | mitocondrion | Tabl 2: i, i |
module | modiwl | Tabl 2: u, iw |
modular | modiwlaidd | Tabl 2: u, iw |
molar | molar | Tabl 2: o, o |
mole | môl | Tabl 2: o, o |
molybdenum | molybdenwm | Tabl 2: u, w Tabl 3 Tabl 4: -um, -wm |
monoclonal | monoclonaidd | Tabl 5: mono- |
mucus | mwcws | Tabl 2, u: w |
muon | miwon | Tabl 2: u, w (eithriad) |
multiparameter | amlbaramedr | 2.3.4 |
myocardial | myocardiaidd | Tabl 2: y, y |
myopathy | myopathi | Tabl 5: myo- |
nanotube | nanodiwb | Tabl 2: u, iw |
nanosecond | nanoeiliad | Tabl 5: nano- |
nematode | nematod | Tabl 2: o, o |
neophyte | neoffyt | Tabl 2: eo, eo 1.5.4 Tabl 4: neo- |
Neurofen | Neurofen | 2.6.4 |
neurological | niwrolegol | Tabl 2: eu, iw 1.7.1 Tabl 5: neuro-, niwro- |
neutron | niwtron | Tabl 2: eu, iw |
nickel | nicel | Tabl 1: ch; ck; k, c Tabl 3 |
nicotine | nicotin | Tabl 1: i, i Tabl 4: -ine, -in |
nitrate | nitrad | Tabl 2: a, a Tabl 2: i, i Tabl 4: -ate, -ad |
nitrogen | nitrogen | Tabl 1: i, i Tabl 3 |
nitrous | nitrus | 1.7.1 |
nociceptive | nosiseptaidd | Tabl 1: ch; ck; k, c |
nuclear | niwclear | Tabl 2: u, w (eithriad) |
nucleotide | niwcleotid | Tabl 4: neucl(eo)-, niwcl(eo)- (eithriad) |
ocular | ocwlar | Tabl 2: u, w 1.7.1 |
oesophagus | oesoffagws | Tabl 2: oe, oe |
oestrogen | oestrogen | Tabl 2: oe, oe |
ohm | ohm | 1.4.1 |
oolitic | oolitig | Tabl 2: oo, oo |
ophthalmic | offthalmig | Tabl 1: f; ph, ff |
orthopaedic | orthopaedig | Tabl 2: ae, e 1.5.3 Tabl 5: ortho- |
orthopaedics | orthopaedeg | Tabl 4: -ics, -eg |
oxide | ocsid | Tabl 1: x, cs |
oxidise | ocsideiddio | Tabl 5: oxy-, ocsi- |
oxygen | ocsigen | Rhagymadrodd Tabl 1: g, g Tabl 3 Tabl 5: oxy-, ocsi- |
paediatrician | paediatregydd | Tabl 2: ae, e Tabl 5: paedi- |
palaeolithic | palaeolithig | Tabl 2: ae, ae Tabl 5: palaeo-, palaeo- |
pathogenic | pathogenig | Tabl 1: g, g Tabl 4: -genic, -genig |
phosphorus | ffosfforws | Tabl 1: f; ph, ff Tabl 3 |
phytosanitary | ffytoiechydol | Tabl 1: f; ph, ff Tabl 4: phyto-, ffyto- |
pixel | picsel | Tabl 1: x, cs |
Planck | Planck | 2.4.2 |
pleural | pliwrol | Tabl 2: eu, iw |
plesiosaur | plesiosor | Tabl 4: -saur, -sor (eithriad) |
plutonium | plwtoniwm | Tabl 2: u, w Tabl 3 |
pneumonia | niwmonia | Tabl 2: eu, iw Tabl 5: pneumo-, niwmo- |
polymer | polymer | Tabl 2: e, e Tabl 4: -er, -er |
polythene | polythen | Tabl 2: e, e 1.5.4 |
polyvinyl alcohol-polyethylene glycol | polyfinyl alcohol-polyethylen glycol | 2.5.1 |
propanone | propanon | Tabl 4: -one, -on |
psychosocial | seicogymdeithasol | Tabl 5: psycho-, seico- (eithriad) |
pteroylmonoglutamide | pteroylmonoglwtamid | 1.2.5 |
quantum | cwantwm | Tabl 2: u, w |
quartz | cwarts | Tabl 1: x; z, s |
rebaudioside | rebawdiosid | 2.4.1 |
reticulum | reticwlwm | Tabl 2: u, w |
rutherfordium | rutherfordiwm | 2.4.1 Tabl 3 |
sodium | sodiwm | Tabl 3 Tabl 4: -iwm, -ium |
sodium chloride | sodiwm clorid | 2.5.1 |
spatula | sbatwla | Tabl 2: u, w |
sphere | sffêr | Tabl 1: f; ph, ff |
spin | sbin | Tabl 2: i, i |
sulphur (sulfur) | sylffwr | Tabl 2: u, w (eithriad) |
terahertz | teraherts | Tabl 5: tera- |
therapeutic | therapiwtig | Tabl 2: eu, iw |
titanium | titaniwm | Tabl 2: i, i Tabl 3 |
tonsillitis | tonsilitis | Tabl 2: i, i Tabl 4: -itis |
topaz | topas | Tabl 1: x; z, s |
trauma | trawma | Tabl 2: au, aw |
trilobite | trilobit | Tabl 2: i, i Tabl 4: -ite, -it |
tube | tiwb | Tabl 2: u, iw |
ulcer | wlser | Tabl 2: u, w |
uranium | wraniwm | Tabl 2: u, w 1.4.1 Tabl 3 |
urethra | wrethra | Tabl 2: u, w |
valent | falent | Tabl 1: v, f |
vascular | fasgwlaidd | Tabl 2: u, w |
vinyl | finyl | Tabl 2: i, i |
virus | feirws | Tabl 2: i, i (eithriad) |
virology | feiroleg | Tabl 2: i, i (eithriad) |
watt | wat | 1.2.3 2.4.2 |
xenon | senon | Tabl 1: x; z, s Tabl 3 |
X-ray | pelydr X | Tabl 1: x; z, s (eithriad) |
yttrium | ytriwm | 1.2.3 Tabl 2: y, y Tabl 3 |
zinc | sinc | Tabl 1: x; z, s 1.4.1 Tabl 3 |
zoologist | sŵolegydd | Tabl 2: oo, oo (eithriad) Tabl 5: zoo-, sŵo- |
zoology | sŵoleg | Tabl 2: oo, oo (eithriad) |