Welsh Language Partnership Council meeting: 13 July 2023
Minutes from the Welsh Partnership Council meeting on July 13, 2023 (HTML).
This file may not be fully accessible.
In this page
Cofnod
Yn bresennol
Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Dafydd Hughes, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Dyfed Edwards, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Rhian Huws Williams, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Lowri Morgans, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Rosemary Jones, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Samuel Williams, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Jeremy Evas, Is-adran Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru
(Ysgrifenyddiaeth), Is-adran Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru
Aelodau staff Is-adran Cymraeg 2050 (arsylwi’n unig), Is-adran Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru
Ymddiheuriadau
Angharad Mai Roberts, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Meleri Davies, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Rhys Jones, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Enlli Thomas, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Andrew White, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Eitem 1: Croeso gan Bennaeth Prosiect 2050
Croesawyd pawb i gyfarfod Cyngor Partneriaeth y Gymraeg gan Bennaeth Prosiect 2050. Roedd sesiwn gyntaf y bore yn sesiwn ar y cyd â Grŵp Hyrwyddo’r Gymraeg.
Cafwyd cyflwyniadau byr ar lafar gan rai o swyddogion Is-adran Cymraeg 2050 am waith yr Is-adran ers y cyfarfod diwethaf. Wrth drafod, cytunwyd i rannu’r canlynol gydag Aelodau: dolen at Newyddlen Cymraeg 2050 a’r Polisi Seilwaith Ieithyddol y Gymraeg sydd wedi ei gyhoeddi’n ddiweddar.
Eitem 2: Sesiwn ar y cyd â Grŵp Hyrwyddo’r Gymraeg
Nod y sesiwn gyntaf gyda Grŵp Hyrwyddo’r Gymraeg oedd trafod argymhellion yr Adolygiad o gynllun grantiau hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg. Cafwyd cyflwyniad ar yr argymhellion gan Bennaeth Prosiect Cymraeg 2050 ac yna rhannwyd pawb yn grwpiau trafod. Cafwyd adborth o’r grwpiau trafod a chytunwyd i drefnu diwrnod cyfan yn y dyfodol gyda phawb er mwyn trafod ymhellach.
Cam Gweithredu 1
Ysgrifenyddiaeth i anfon dolen at Newyddlen Cymraeg 2050 at aelodau’r Grŵp Hyrwyddo a’r Cyngor Partneriaeth yn cynnwys manylion rhaglen y Llywodraeth yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd.
Cam Gweithredu 2
Ysgrifenyddiaeth i anfon copi o bolisi Seilwaith Ieithyddol y Gymraeg at aelodau’r Grŵp Hyrwyddo a’r Cyngor Partneriaeth.
[Grŵp Hyrwyddo’r Gymraeg yn ymadael. Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn ymuno â’r cyfarfod ac yn cymryd y gadair.]
Eitem 3: Gair o Groeso gan y Gweinidog
Estynnwyd croeso cynnes i bawb gan Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, i gyfarfod Cyngor Partneriaeth y Gymraeg.
Cafwyd diweddariad gan y Gweinidog ar ddatblygiadau Rhaglen Waith Cymraeg 2050 ers y cyfarfod diwethaf.
Cytunodd y Gweinidog i rannu ystadegau am broffil defnyddwyr gwasanaeth Helo Blod.
Cam Gweithredu 3
Trafod pwyntiau gweithredu ambr cofnodion y cyfarfod diwethaf (29 Mawrth 2023) yn ein cyfarfodydd nesaf naill ai wedi’r haf neu yn y flwyddyn newydd.
Cam Gweithredu 4
Ysgrifenyddiaeth i rannu gwybodaeth am broffil defnyddwyr gwasanaeth Helo Blod gydag aelodau’r Cyngor Partneriaeth.
Eitem 4: Adborth o sesiwn y bore ar Adolygiad y Cynllun Grantiau
Rhannodd ddau o aelodau’r Cyngor Partneriaeth adborth o sesiwn y bore gyda’r Gweinidog. Dyma’r prif bwyntiau:
- Croesawyd y cyfle i gwrdd wyneb yn wyneb ac i gynnal trafodaeth a chydweithio gyda Grŵp Hyrwyddo’r Gymraeg.
- Gwnaethpwyd cais i gynnal sesiwn debyg yn y dyfodol a hynny am ddiwrnod cyfan. Nodwyd y byddai’n fuddiol cynnwys trafodaeth gyda’r Gweinidog fel rhan o’r diwrnod i drafod gweithredu Cymraeg 2050.
- Trafodwyd heriau gwneud gwaith i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ar adeg ariannol anodd.
- Nodwyd pwysigrwydd cydweithio gan gofio nad oes rhaid dyrannu cyllid er mwyn i gydweithio allu digwydd.
- Roedd rhai sefydliadau’n cael y broses weinyddu grant i hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg yn haws na’i gilydd rhai yn gweld y broses yn llafurus ac eraill yn ei gweld yn haws na phrosesau grantiau gan sefydliadau eraill.
Cam Gweithredu 5
Ysgrifenyddiaeth i drefnu i’r Cyngor Partneriaeth a’r Grŵp Hyrwyddo gwrdd eto am ddiwrnod cyfan i drafod ymhellach gyda chyfle o bosib i’r Gweinidog fod yn bresennol am ran o’r dydd.
Eitem 5: Gofodau Uniaith a Chynhwysiant
Cafwyd cyflwyniad gan swyddog o Lywodraeth Cymru ac yna trafodwyd y canlynol ar sail y cyflwyniad:
- Cytunwyd i rannu pecyn o slediau gyda dadansoddiad manylach o ddata Cyfrifiad 2021 ar ethnigrwydd.
- Pwysigrwydd gofodau uniaith gan gydnabod eu bod yn digwydd yn naturiol mewn rhai ardaloedd, ond bod angen eu creu nhw mewn ardaloedd eraill.
- Pwysigrwydd canolfannau trochi fel gofodau uniaith ar gyfer mewnfudwyr a siaradwyr di-Gymraeg.
- Nododd y Gweinidog y bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal yn ystod yr Eisteddfod yn trafod y pwnc hwn mewn mwy o fanylder a nododd y byddai’n gwerthfawrogi trafodaeth gyda’r Is-grŵp Grŵp Cydraddoldeb, Cynhwysiant ac Amrywiaeth cyn hynny.
Cam Gweithredu 6
Ysgrifenyddiaeth i rannu pecyn o slediau gyda dadansoddiad manylach o ddata Cyfrifiad 2021 ar ethnigrwydd.
Cam Gweithredu 7
Ysgrifenyddiaeth i drefnu cyfarfod rhwng y Gweinidog a’r Is-grŵp Grŵp Cydraddoldeb, Cynhwysiant ac Amrywiaeth cyn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd.
[Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn ymadael â’r cyfarfod a swyddog o Lywodraeth Cymru yn cymryd y gadair.]
Eitem 6: Y Comisiwn Cymunedau Cymraeg – diweddariad
Trosglwyddwyd yr awenau i Seimon Brooks, Cadeirydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, i roi diweddariad ar waith y Comisiwn hyd yma ac i fanylu ar y Papur Safbwynt a gyhoeddwyd yn ddiweddar:
- Papur safbwynt wedi ei gyhoeddi a’r Cadeirydd yn awyddus i dderbyn sylwadau Aelodau ar ei gynnwys.
- Cadeirydd y Comisiwn wrthi’n trafod y papur safbwynt gydag arweinwyr awdurdodau lleol ar hyn o bryd.
- Bydd argymhellion terfynol y Comisiwn yn cael eu cyhoeddi yn ystod haf 2024.
- Ail gam y Comisiwn fydd canolbwyntio ar ddefnydd cymdeithasol o’r Gymraeg mewn ardaloedd â dwysedd is o siaradwyr Cymraeg.
Cam Gweithredu 8
Aelodau i anfon sylwadau neu gwestiynau pellach at fewnflwch Cymraeg 2050 er mwyn eu rhannu gyda’r Comisiwn.
Cam Gweithredu 9
Ysgrifenyddiaeth i rannu gwybodaeth am amserlen Eisteddfod y Gweinidog ac Is-adran Cymraeg 2050 gyda’r Cyngor.
Eitem 7: Unrhyw Fater Arall
Cytunodd pawb bod cyfarfod wyneb yn wyneb wedi bod yn werthfawr ac y byddent yn hapus i barhau i wneud hynny yn y dyfodol.
Nododd yr Ysgrifenyddiaeth y byddant yn cysylltu maes o law gyda'r aelodau hynny y mae eu penodiadau yn dirwyn i ben yn fuan er mwyn trafod proses ailbenodi.
Cytunodd yr Ysgrifenyddiaeth i geisio trefnu dyddiadau tri chyfarfod nesaf y Cyngor yn fuan er mwyn i Aelodau allu cadw’r dyddiadau’n glir.
Cam Gweithredu 10
Ysgrifenyddiaeth i drefnu dyddiadau cyfarfodydd y flwyddyn sydd i ddod.
Crynodeb o’r Pwyntiau Gweithredu
Cam Gweithredu | Pwynt gweithredu | I bwy? | Wedi cwblhau? |
---|---|---|---|
1. | Ysgrifenyddiaeth i anfon dolen at Newyddlen Cymraeg 2050 at aelodau’r Grŵp Hyrwyddo a’r Cyngor Partneriaeth. | Ysgrifenyddiaeth | Ydw. |
2. | Ysgrifenyddiaeth i anfon copi o’r polisi Seilwaith Ieithyddol y Gymraeg at aelodau’r Grŵp Hyrwyddo a’r Cyngor Partneriaeth. | Ysgrifenyddiaeth | Ydw. |
3. | Trafod pwyntiau gweithredu ambr cofnodion y cyfarfod diwethaf (29 Mawrth 2023) yn ein cyfarfodydd nesaf naill ai wedi’r haf neu yn y flwyddyn newydd. | Ysgrifenyddiaeth | Nac ydw. |
4. | Ysgrifenyddiaeth i rannu gwybodaeth am broffil defnyddwyr gwasanaeth Helo Blod gydag aelodau’r Cyngor Partneriaeth. | Ysgrifenyddiaeth | Nac ydw. |
5. | Ysgrifenyddiaeth i drefnu i’r Cyngor Partneriaeth a’r Grŵp Hyrwyddo gwrdd eto am ddiwrnod cyfan i drafod ymhellach gyda chyfle o bosib i’r Gweinidog fod yn bresennol am ran o’r dydd. | Ysgrifenyddiaeth | Nac ydw. |
6. | Ysgrifenyddiaeth i rannu pecyn o slediau gyda dadansoddiad manylach o ddata Cyfrifiad 2021 ar ethnigrwydd. | Ysgrifenyddiaeth | Ydw. |
7. | Ysgrifenyddiaeth i drefnu trafodaeth gyda’r Is Grŵp Cydraddoldeb, Cynhwysiant ac Amrywiaeth cyn yr Eisteddfod. | Ysgrifenyddiaeth | Ydw. |
8. | Aelodau i anfon sylwadau neu gwestiynau pellach at fewnflwch Cymraeg 2050 er mwyn eu rhannu gyda’r Comisiwn. | Aelodau a’r Ysgrifenyddiaeth | Ydw. |
9. | Ysgrifenyddiaeth i rannu gwybodaeth am amserlen Eisteddfod y Gweinidog ac Is-adran Cymraeg 2050 gyda’r Cyngor. | Ysgrifenyddiaeth | Ydw. |
10. | Ysgrifenyddiaeth i drefnu dyddiadau cyfarfodydd y flwyddyn sydd i ddod. | Ysgrifenyddiaeth | Ydw. |