Skip to main content

Cofnod

Yn bresennol

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Simon Brooks, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Dafyd Edwards, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Dafydd Hughes, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Rosemary Jones , Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Rhys Jones,  Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Rhodri Llwyd Morgan, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Angharad Mai Roberts, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Rhian Huws Williams, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Rhian Hodges, Prifysgol Bangor (ar gyfer Eitem 6 yn unig)

Cynog Prys, Prifysgol Bangor (ar gyfer Eitem 6 yn unig)

Sioned Rees, Dirprwy Gyfarwyddwr, Diogelu Iechyd, Llywodraeth Cymru

Bethan Webb, Is-Adran Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru

(Ysgrifenyddiaeth), Is-Adran Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru

(Ysgrifenyddiaeth), Is-Adran Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru

Aelodau staff Is-adran y Gymraeg (Arsylwi’n unig), Is-Adran Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru

Ymddiheuriadau

Meleri Davies, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Lowri Morgans, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Enlli Thomas, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Andrew White, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Samuel Williams, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Eitem 1: Croeso gan Ddirprwy Gyfarwyddwr Is-adran y Gymraeg

Croesawyd pawb i gyfarfod Cyngor Partneriaeth y Gymraeg gan Ddirprwy Gyfarwyddwr Is-adran Cymraeg 2050.

Eitem 2: Y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg: diweddariad a thrafodaeth

Trosglwyddwyd yr awenau i un o swyddogion Llywodraeth Cymru roi diweddariad ar y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg.

Dyma rai o’r materion a godwyd yn ystod y drafodaeth:

  • Nododd un aelod ei fod eisiau datgan buddiant gan fod ganddo eiddo yng Nghaerdydd.
  • Nodwyd bod nifer yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn galonogol iawn.  
  • Roedd yna gefnogaeth i’r rheoliadau ar drethi newydd. Cafwyd trafodaeth am rôl y llysgenhadon diwylliannol. Nododd ambell aelod nad oedd am weld y Llywodraeth yn colli ffocws ar y materion hanfodol bwysig fel tai, yn benodol y maes tai i bobl leol. Nodwyd bod angen gofal rhag i’r llysgenhadon ddwyn adnoddau swyddogion oddi wrth waith mai dim ond Llywodraeth, a llywodraeth leol all ymgymryd ag ef.
  • Pwysleisiwyd bod angen edrych ar y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg yn ei gyd-destun ehangach drwy gysylltu gyda’r maes twristiaeth, yr economi, tai a’r gymuned. Nodwyd y gallai’r pwyslais ar greu mentrau cydweithredol fod yn ddull effeithiol o glymu nifer o’r meysydd hyn at ei gilydd.

Eitem 3: Y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA): diweddariad a thrafodaeth

Cafwyd cyflwyniad gan un o swyddogion Llywodraeth Cymru ar yr hyn sydd wedi bod yn digwydd wrth i’r CSCA newydd gael eu paratoi a’r hyn fydd yn digwydd dros y misoedd nesaf.

  • Fe wnaeth un aelod ddatgan buddiant gan ei bod yn cefnogi ysgolion yn y Gogledd.
  • Cydnabuwyd bod hwn yn faes hollbwysig.
  • Nodwyd bod y data yn gadarnhaol a phwysigrwydd cyrraedd y targedau o ran y taflwybr tua’r miliwn.
  • Cydnabuwyd bod llawer o waith i’w wneud gydag Awdurdodau Lleol.
  • Cafwyd trafodaeth am faint y buddsoddiad sydd ei angen o ran refeniw, costau cyfalaf a datblygu gweithlu i wireddu hyn.

Cam Gweithredu 1: Trafod adroddiad ar gynllun peilot Dwyfor yn y cyfarfod nesaf os yn bosib.

Eitem 4: Unrhyw Fater Arall

Nid oedd unrhyw fater arall i’w drafod.

Egwyl

(Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn ymuno â’r cyfarfod ac yn cymryd y gadair.)

Eitem 5: Gair o groeso a diweddariad gan y Gweinidog  

Estynnwyd croeso cynnes i bawb gan Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, i gyfarfod Cyngor Partneriaeth y Gymraeg.

Cafwyd diweddariad gan y Gweinidog ar ddatblygiadau 'Rhaglen Waith Cymraeg 2050' ers y cyfarfod diwethaf.

Eitem 6: Defnyddio’r Gymraeg ar Ynys Môn

Cafwyd cyflwyniad gan Rhian Hodges a Cynog Prys o Brifysgol Bangor am brosiect sy’n edrych ar ddefnydd o’r Gymraeg ar Ynys Môn.

Dyma rai o’r materion a godwyd yn ystod y drafodaeth:

  • Fe wnaeth un aelod ddatgan diddordeb gan ei fod yn byw ar yr ynys.
  • Nodwyd y byddai wedi bod yn fuddiol gweld y data ar gyfer ardaloedd glan y môr e.e. Benllech a Bae Trearddur, sydd bellach ar eu hail neu drydedd genhedlaeth o bobl ddi-Gymraeg.
  • Nodwyd bod yna wahaniaeth rhwng gorfodaeth i ddefnyddio’r Gymraeg a chreu amgylchedd i deimlo’n gyfforddus wrth ei defnyddio.
  • Trafodwyd defnyddio chwaraeon fel sbardun i ysgogi pobl ifanc i ddefnyddio'r Gymraeg. Cyfeiriwyd at bwysigrwydd manteisio ar broffil y Gymraeg yn sgil llwyddiant y tîm pêl-droed cenedlaethol gyda’u hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd yn Qatar a llwyddiant Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn hyrwyddo’r iaith. 
  • Nodwyd bod dyfyniad gan Ian Gwyn Hughes yn adran hamdden Pecyn Cymorth Hybu’r Gymraeg yn y Gymuned a gyhoeddwyd gan Brifysgol Bangor yn 2017.

Cam Gweithredu 2: Rhian Hodges i rannu’r cyflwyniad gyda’r Aelodau drwy law'r Ysgrifenyddiaeth.

Cam Gweithredu 3: Rhian Hodges i rannu’r Pecyn Cymorth Hybu’r Gymraeg yn y Gymuned gyda’r Aelodau drwy law'r Ysgrifenyddiaeth.

Eitem 7: Diweddariad ar Mwy na Geiriau

Cafwyd diweddariad ar raglen 'Mwy na Geiriau' gan Sioned Rees, Dirprwy Gyfarwyddwr Diogelu Iechyd Llywodraeth Cymru.

Dyma rai o’r materion a godwyd yn ystod y drafodaeth.

  • Data: nodwyd bod peidio â chynnwys data yn y prosiect cyntaf yn gam gwag. Cytunwyd y bydd hi’n bwysig cynnwys data o hyn ymlaen er mwyn gosod sylfaen i drywydd y polisi.
  • Gweithlu ac ymwybyddiaeth iaith: gan fod canran mor sylweddol yn gweithio yn y maes iechyd, nodwyd bod hyn yn gyfle i ni fynd ati i gynyddu defnydd o’r Gymraeg.
  • Nodwyd bod angen canolbwyntio ar arweinyddiaeth o fewn y sector er mwyn gwthio’r neges a chodi ymwybyddiaeth iaith.

Eitem 8: Cyngor i’r Gweinidog ar sail trafodaethau’r bore

Rhoddwyd adborth gan un aelod i’r Gweinidog ar sail trafodaethau’r bore.

Eitem 9: Unrhyw fater arall

  • Diolchwyd i Rhodri Llwyd Morgan am ei waith fel aelod o Gyngor Partneriaeth y Gymraeg dros y degawd diwethaf gan mai hwn oedd ei gyfarfod olaf.
  • Nodwyd bod Samuel Williams wedi derbyn gwahoddiad i ymuno â’r Cyngor fel aelod newydd.
  • Diolchodd y Gweinidog i’r Aelodau am eu hamser, eu cefnogaeth ac am eu gwaith.

Pwyntiau Gweithredu

Pwyntiau Gweithredu
  Pwynt gweithredu I bwy? Erbyn pryd? Wedi cwblhau?
1

Trafod adroddiad ar gynllun peilot Dwyfor yn y cyfarfod nesaf os yn bosib.

Ysgrifenyddiaeth Cyfarfod Rhagfyr 2022 Cwblhawyd
2 Rhian Hodges i rannu’r cyflwyniad gyda’r Aelodau drwy law'r Ysgrifenyddiaeth. Ysgrifenyddiaeth Wedi’u hanfon ar 20 Mehefin 2022 Cwblhawyd
3

Rhian Hodges i rannu’r 'Pecyn Cymorth Hybu’r Gymraeg yn y Gymuned' gyda’r Aelodau drwy law'r Ysgrifenyddiaeth.

Ysgrifenyddiaeth Wedi’u hanfon ar 20 Mehefin 2022 Cwblhawyd