Skip to main content

Cofnod

  • Mark Drakeford AS: Ysgrifenydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg 
  • Savanna Jones: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Meleri Light: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Lowri Morgans: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Manon Cadwaladr: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg 
  • Tegryn Jones: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Owain Wyn: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Rosemary Jones: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Elin Burns: Cyfarwyddwr Diwylliant, Treftadaeth, Chwaraeon a’r Gymraeg, Llywodraeth Cymru
  • Swyddogion Is-adran Cymraeg 2050: Is-adran Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru

Ymddiheuriadau

  • Dyfed Edwards: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Sam Williams : Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Anwen Davies: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Croeso gan y Is-Gyfarwyddwr Cymraeg 2050

Eitem 1: croeso

Croesawyd pawb i'r cyfarfod gan Mari Stevens, Is-Gyfarwyddwr Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru. Fe wnaeth Elin Burns, Cyfarwyddwr Diwylliant, Treftadaeth, Chwaraeon a’r Gymraeg, Llywodraeth Cymru egluro blaenoriaethau Cymraeg 2050 dros y cyfnod sydd i ddod.

[Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg yn ymuno â’r cyfarfod ac yn cymryd y gadair.]

Eitem 2: diweddariad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Rhoddodd yr Ysgrifennydd Cabinet ddiweddariad i’r Cyngor ar y cynnydd o ran gwaith Cymraeg 2050 ers y cyfarfod diwethaf. Diolchodd hefyd i Dafydd Hughes, cyn-aelod o’r Cyngor, yn dilyn derbyn ei lythyr ymddiswyddiad, gan fynegi ei werthfawrogiad o’i gyfraniad.

Trafodwyd pwyntiau gweithredu'r cyfarfod blaenorol a derbyniwyd cofnodion y cyfarfod.

Cam Gweithredu 1: 

Ysgrifenyddiaeth i ysgrifennu nodyn o ddiolch i Dafydd Hughes am ei waith fel aelod o’r Cyngor.

Eitem 3: defnydd mewnol o’r Gymraeg yn y Llywodraeth: Diweddariad ar Cymraeg. Mae’n perthyn i ni i gyd.

Cafwyd cyflwyniad gan swyddogion Llywodraeth Cymru ar y gwaith sydd yn mynd rhagddo o fewn y Llywodraeth gyda’r nod o ddod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog erbyn 2050. Canolbwyntiodd y sesiwn ar gefndir y strategaeth ac yna ar y gwaith sy’n digwydd i brif ffrydio’r Gymraeg o fewn y gweithlu.

  • Esboniwyd eu bod yn gweithio mewn cylch 5 mlynedd a bod y cylch cyntaf, wedi canolbwyntio ar sut i hyrwyddo’r Gymraeg ymhlith staff. 
  • Bydd yr ail gylch yn canolbwyntio ar y polisïau y bydd angen eu rhoi ar waith, gyda phwyslais ar: 
    • Recriwtio
    • Ddyrchafu
    • Hyfforddi
  • Cyflwynwyd trosolwg gan swyddog Cymraeg 2050 o’r dechnoleg sydd ar gael i gefnogi a hyrwyddo gweithlu dwyieithog.
  • Awgrymwyd y dylai’r Llywodraeth roi arweinyddiaeth ar y gwaith hwn a rhannu’r llwyddiant â sefydliadau eraill, gan nodi y byddai cyrff allanol yn croesawu hyn.

Ar ran aelodau’r Cyngor Partneriaeth, mynegodd Tegryn Jones ei ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei gyfraniad sylweddol i’r Gymraeg, yn rhinwedd ei rôl fel Ysgrifennydd y Cabinet ac fel Prif Weinidog yn flaenorol, ynghyd â’i arweinyddiaeth o waith a chyfarfodydd y Cyngor Partneriaeth, gan estyn dymuniadau gorau iddo ar gyfer y dyfodol.

[Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg yn ymadael â’r cyfarfod a swyddog o Lywodraeth Cymru yn cymryd y gadair.]

Eitem 4: edrych i’r dyfodol Strategaeth Cymraeg 2050

Cafwyd diweddariad gan swyddogion o Is-adran Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru ar dair elfen bwysig o’r gwaith sy’n mynd rhagddo yn Cymraeg 2050 sef.

  • Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025
  • Y Comisiwn Cymunedau Cymraeg
  • Taflwybr ystadegol data Cymraeg 2050 – y darlun cyflawn

Eitem 6: edrych tua’r dyfodol – parhau â’r drafodaeth

Gweledigaeth ar gyfer strategaeth newydd Cymraeg 2050

Gan adeiladu ar y sesiwn flaenorol, cafwyd cyflwyniad byr gan swyddog Cymraeg 2050 ar Strategaeth ddiwygiedig Cymraeg 2050. Yn dilyn hynny, cynhaliwyd gweithdy lle cafodd aelodau’r Cyngor Partneriaeth gyfle i rannu eu syniadau ynghylch y pum blaenoriaeth strategol y dylid eu cynnwys yn y Strategaeth newydd. Rhannwyd y Cyngor yn ddau grŵp i drafod y materion hyn.

Pwyntiau a godwyd

  • Nodwyd bod angen rhoi mwy o gefnogaeth i rieni drwy ddatblygu strwythur gwirfoddoli er mwyn eu helpu i ddysgu Cymraeg ac i gynnal defnydd o’r iaith yn y cartref. 
  • Awgrymwyd y gallai sefydliadau ddefnyddio un neu ddau o’u diwrnodau gwirfoddoli i gefnogi’r broses o ddysgu Cymraeg. 
  • Trafodwyd cynlluniau iaith, gyda’r awgrym o symud tuag at un cynllun strategol i hybu’r Gymraeg ar draws gwasanaethau cyhoeddus o fewn un ardal, yn hytrach nag ar lefel sefydliadau unigol. 
  • Rhannwyd enghreifftiau o fentrau cymunedol, megis grwpiau cerdded a chymdeithasu, sy’n annog dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg. Trafodwyd hefyd gynaliadwyedd y mentrau hyn a’u heffaith gadarnhaol ar gymunedau lleol. 
  • Nodwyd yr angen i blethu twf economaidd a hyrwyddo’r Gymraeg, gan sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei chefnogi mewn ardaloedd sy’n profi twf economaidd. 
  • Awgrymwyd y dylai’r strategaeth nesaf adlewyrchu’r gwahaniaethau rhwng ardaloedd o ddwysedd uchel ac isel, a bod angen dulliau neu strategaethau penodol ar gyfer gwahanol fathau o gymunedau.

Cam Gweithredu 2:

Gwahodd adran gynllunio’r Llywodraeth i fynychu cyfarfod yn y dyfodol er mwyn trafod yr heriau a’r rhwystrau sy’n bodoli rhwng twf economaidd a’r Gymraeg.

Cam Gweithredu 3:

Trefnu cyfarfodydd rhwng gwahanol adrannau o fewn y Llywodraeth, gan fanteisio ar y cyfle i godi a thrafod cwestiynau sy’n ymwneud â’r Gymraeg.

Eitem 5: unrhyw Fater Arall

Nodwyd y byddai’r cyfarfod nesaf yn gyfarfod cychwynnol i’r Gweinidog newydd ar ôl etholiadau’r Senedd ym mis Mai, a’i fod yn gyfle i barhau â’r drafodaeth ar y Strategaeth ddiwygiedig Cymraeg 2050.

Pwynt gweithredu

Cam gweithredu 1

Pwynt gweithredu

Ysgrifenyddiaeth i ysgrifennu nodyn o ddiolch i Dafydd Hughes am ei waith fel aelod o’r Cyngor.

I bwy

Ysgrifenyddiaeth

Statws

Gwyrdd

Cam gweithredu 2

Pwynt gweithredu

Gwahodd adran gynllunio y Llywodraeth i fynychu cyfarfod yn y dyfodol i drafod yr her a (neu) rhwystrau rhwng twf economaidd a’r Gymraeg.

I bwy

Ysgrifenyddiaeth.

Statws

Melyn.

Cam gweithredu 3

Pwynt gweithredu

Trefnu cyfarfodydd rhwng gwahanol adrannau o fewn y Llywodraeth gan ddefnyddio'r cyfle i holi cwestiynau ynglŷn â'r Gymraeg.

I bwy

Ysgrifenyddiaeth.

Statws

Melyn.

Cam gweithredu 4

Pwynt gweithredu

Ysgrifenyddiaeth i drefnu sesiwn ar Cyfrifiad 2031 yn un o gyfarfodydd y dyfodol yn nes ta ddiwedd 2026.

I bwy

Ysgrifenyddiaeth.

Statws

Melyn.

Cam gweithredu 5

Pwynt gweithredu

Ysgrifenyddiaeth i gynnwys elfen am y CEFR yn y sgwrs ar Cyfrifiad 2031 yn un o gyfarfodydd nesaf y Cyngor Partneriaeth.

I bwy

Ysgrifenyddiaeth.

Statws

Melyn.