Skip to main content

Yn bresennol

  • Eluned Morgan AS, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol
  • Lee Waters AS (yn bresennol ar gyfer yr ail eitem “Eitem yng nghwmni Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth” yn unig), Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
  • Gwenllian Roberts, Prif Swyddogol Rhanbarthol – y Gogledd, Llywodraeth Cymru
  • Rhodri Llwyd Morgan, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Gwion Lewis Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Rhian Huws-Williams, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Marian Thomas, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Angharad Mai Roberts, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Owen Derbyshire, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Dewi Jones, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Simon Brooks, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Bethan Webb, Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru

Ymddiheuriadau

  • Gwynedd Parry, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Enlli Thomas, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Croeso

Estynnwyd croeso cynnes i bawb gan Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, i ail rith-gyfarfod Cyngor Partneriaeth y Gymraeg. Nodwyd bod aelodau o Uwch-dîm Rheoli Is-Adran y Gymraeg yn bresennol yn y cyfarfod i wrando ar y trafodaethau ac i fod ar gael i ateb cwestiynau ar unrhyw faes perthnasol yn ôl y galw.

Diolchodd y Gweinidog i’r pedwar aelod o’r Cyngor Partneriaeth sydd wedi penderfynu camu i lawr ar ddiwedd eu tymor tair blynedd, ddiwedd mis Mehefin.

Yn ogystal, diolchodd i’r chwe aelod sydd am barhau i fod yn aelodau, gan edrych ymlaen at gyfnod cyffrous o gydweithio wrth baratoi cynnwys y Rhaglen Waith nesaf ar gyfer 2021 ymlaen.

Eitem 1: diweddariad gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

Cafwyd diweddariad gan y Gweinidog ar yr hyn sydd wedi digwydd ers y cyfarfod diwethaf, fis Ebrill.

Cyn troi at yr eitem gyntaf, cynigodd y Gweinidog bod aelodau yn cysylltu gyda’r Ysgrifenyddiaeth os bydd ganddynt unrhyw sylwadau ar gofnodion y ddau gyfarfod diwethaf sef 12 Mawrth a 30 Ebrill 2020.

Pwynt Gweithredu 1: aelodau i gyflwyno unrhyw gywiriadau sydd ganddynt i swyddogion i’r 2 set o gofnodion (12 Mawrth a 30 Ebrill 2020). Oni chlywir yn wahanol, cânt eu cymeradwyo a’u cyhoeddi ar wefan y Llywodraeth.

Nododd y Gweinidog bod tri is-grŵp wedi’u sefydlu er mwyn trafod gwahanol elfennau o bolisi’r Gymraeg yn fanylach – un o dan bob un o themâu Cymraeg 2050. Bydd yr is-grwpiau yn cyfarfod rhwng cyfarfodydd ffurfiol y Cyngor. Mae’r tri is-grŵp wedi eu henwi fel a ganlyn:

  • thema 1: Is-grŵp Addysg
  • thema 2: Is-grŵp Cynyddu Defnydd o’r Gymraeg yn Gymunedol
  • thema 3: Is-grŵp Economi ac Iaith

Cyn troi i drafod yr eitemau ar yr agenda, holodd y Gweinidog a oedd gan unrhyw un sylwadau. Cafwyd trafodaeth fer ar gyllidebau ac ar Fil y Cwricwlwm.

Eitem 2: adborth o Is-grŵp Thema 3 – Is-grŵp Economi ac Iaith

[Eitem yng nghwmni Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth]

Croesawodd y Gweinidog Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth (DW) i’r cyfarfod.

Diolchodd y DW am y gwahoddiad.  

Rhoddodd y DW ddiweddariad lefel uchel ar y datblygiadau ym maes yr economi ers dyfodiad COVID-19. Nododd fod gweithgaredd economaidd ar ei lefel isaf ers sawl blwyddyn ac yn sgil hyn, gwelwyd bod nifer sylweddol o bobl wedi colli eu gwaith. Yn anochel, bydd effaith hyn i’w deimlo ar draws Cymru gan gynnwys mewn cymunedau lle mae canran y siaradwyr Cymraeg yn uchel.

Nododd fod nifer o elfennau yn y maes economaidd lle mae modd ymyrryd er mwyn dylanwadu ar y Gymraeg.

Nododd Aelod bwysigrwydd gwneud yn siŵr bod trafodaethau mewnfuddsoddi gyda chwmnïau mawr yn cyfeirio at y Gymraeg a’r disgwyliadau a ddylai fod arnynt / y cyfleoedd iddynt ddefnyddio’r iaith.

Nododd fod sôn am y Gymraeg fel ysgogiad economaidd i raddau helaeth yn ddadl arwynebol, ac yn ei farn, gwell fyddai rhoi sylw ac egni i sicrhau bod amgylchiadau yn bodoli lle gall y Gymraeg ffynnu a hynny’n aml iawn pan fo seiliau yr economi leol yn gryf. Mae angen sicrhau bod buddsoddiadau a swyddi yn cael eu creu a fydd yn eu tro yn creu swyddi i bobl leol ac yn lleihau’r angen i bobl allfudo o’u cymunedau lleol.

Cyfeiriodd Gweinidog y Gymraeg at y trafodaethau ‘bwrdd crwn economi ac iaith’ sydd wedi’u cynnal ac at yr is-grwpiau sydd wedi’u sefydlu er mwyn rhoi sylw manwl i feysydd polisi’r Gymraeg. Nododd y DW bod diddordeb ganddo i glywed am ganfyddiadau’r Is-grŵp Economi ac Iaith ac y byddai’n croesawu derbyn unrhyw syniadau eraill gan y Cyngor.

Pwynt Gweithredu 2: aelodau’r Cyngor i gyflwyno sylwadau / cyfraniadau i unrhyw waith economaidd sydd ar y gweill.

Yn dilyn diweddariad y DW, cafwyd cyflwyniad byr gan gadeirydd is-grŵp 3 ar gynnwys y cylch gorchwyl.

Nododd fod yna bryder ynglŷn ag effaith Brexit a COVID-19 ar ardaloedd o Gymru lle ceir cymunedau â chanran uchel o siaradwyr Cymraeg.

Nododd y Cadeirydd mai bwriad yr is-grŵp yw canolbwyntio ar weithio a chydweithio yn uniongyrchol gydag arweinyddion ar bob lefel, gan edrych ar effeithiau posibl ar yr economi sylfaenol.

Y prif ffocws yw sicrhau bod yr iaith yn cael ei hystyried yn y drafodaeth a bod yr economi a’r iaith yn cael eu clymu gyda’i gilydd.

Pwynt Gweithredu 3: Y DM i rannu manylion prosiectau y “Foundational Economy Challenge Fund” gyda’r Cyngor a’r Is-grŵp Economi ac Iaith: Foundational Economy

Gofynnwyd cwestiwn ynglyn â dyfodol Arfor. 

Nododd y Gweinidog nad yw, ar hyn o bryd, yn gwybod beth sy’n debygol o ddigwydd i nifer o gynlluniau yn sgil y sefyllfa ariannol. Y nod yw gwneud yn siŵr bod y Gymraeg yn cael ei hystyried fel rhan annatod o waith datblygu economaidd fel nad oes angen Arfor yn y tymor hir. Mae Arfor wedi helpu i roi ffocws ac mae’n bwysig bod y gwersi a ddysgir yn cael eu trosglwyddo i raglenni prif ffrwd datblygu economaidd yng Nghymru. Mae’n bwysig nad ydym ni ofn mentro nac ychwaith ofn methu.

Awgrymodd y Gweinidog bod yr is-grŵp yn cynnal trafodaeth gyda’r Prif Swyddogion Rhanbarthol, er mwyn sicrhau bod amcanion yr is-grŵp yn cyd-blethu gyda blaenoriaethau Adran yr Economi. Mae’n allweddol i’r is-grŵp fod yn ymwybodol o’r hyn sydd eisoes yn digwydd a ble mae’r bylchau neu’r meysydd sydd angen sylw.

Diolchodd y Gweinidog i’r DW am ei amser gan ddatgan ei bod hi a’r Cyngor yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio ag ef yn y dyfodol.

Pwynt gweithredu 4: Trefnu i Brif Swyddogion Rhanbarthol y Gogledd / Canolbarth a’r Gorllewin fod yn aelodau o’r Is-grŵp Economi ac Iaith er mwyn bwydo a chefnogi rhaglen waith yr is-grŵp ar sail y sgwrs gyda’r Dirprwy Weinidog. Y bwriad yw cytuno ar gyfeiriad y rhaglen waith: beth sydd angen ei wneud, erbyn pryd, a sut y dylid gwneud hynny er mwyn sicrhau bod cynigion yr is-grŵp yn cael eu prif-ffrydio. Rhoi gwybod i Weinidog y Gymraeg beth fydd wedi’i gytuno fel rhaglen waith.

Eitem 3: adborth o Is-grŵp Thema 1 – Is-grŵp Addysg

Trodd y Gweinidog at y trydydd eitem ar yr agenda i drafod adborth Is-grŵp Thema 1 – yr Is-grŵp Addysg.

Cafwyd diweddariad gan Bethan Webb yn absenoldeb Cadeirydd yr is-grŵp.

Y man cychwyn oedd addysg drochi a nodwyd bod hwn wedi datblygu yn organig yn sgil dyfodiad COVID-19. Nodwyd bod ambell un wedi datgan pryder y bydd plant yn colli eu sgiliau Cymraeg o dreulio cyn lleied o amser yn yr ysgol yn ddiweddar. Nododd fod y gwaith wedi dechrau datblygu.

Nododd y Gweinidog ei bod yn poeni am sut fydd trafnidiaeth yn effeithio ar y sector addysg yn y normal newydd. Gofynnodd i ychwanegu hyn at gylch gorchwyl yr is-grŵp ac ystyried gwahodd swyddog sydd â dealltwriaeth o’r maes trafnidiaeth ysgol.

Pwynt Gweithredu 5: Ychwanegu anghenion trafnidiaeth i gylch gorchwyl yr Is-grŵp Addysg ac ystyried a oes gofyn gwahodd aelod(au) newydd a all gyfrannu at y drafodaeth hon.

Nododd Aelod ei bod yn cytuno bod arbenigedd gwych o ran addysg drochi yn bodoli yng Nghymru ond bod gofyn wynebu’r canlynol:  mae yna brinder athrawon a all addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ac nad yw sgiliau iaith llawer o athrawon y sector yn ddigon da. Rhaid ystyried sut i’w huwch-sgilio. Nododd hefyd bod angen codi safonau sgiliau Cymraeg athrawon mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a bod gofyn datblygu’r cymhelliant i ddarpar athrawon ac athrawon cyfrwng Saesneg wella eu sgiliau Cymraeg.

Soniodd y Gweinidog ei bod wedi gofyn i’r adran Addysg roi diweddariad rheolaidd iddi o hyn ymlaen am faes ail iaith yn benodol.

Eitem 4: adborth o Is-grŵp Thema 2 – Is-grŵp Cynyddu Defnydd o’r Gymraeg yn Gymunedol

Trodd y Gweinidog at eitem olaf yr agenda sef Is-grŵp Cynyddu Defnydd o’r Gymraeg yn Gymunedol.

Cafwyd diweddariad gan gadeirydd yr is-grŵp. Nododd y cadeirydd bod y drafodaeth ar yr economi yn clymu i mewn gyda'r hyn sy’n cael ei drafod gan yr is-grŵp hwn. Soniodd mai’r nod yw edrych ar ddefnydd anffurfiol o’r Gymraeg ar lefel gymunedol nawr (yn sgil COVID-19) ac yna yn y dyfodol wedi bethau fynd yn ôl at rhyw fath o normalrwydd.

Nododd aelod nad oedd am weld rhywbeth sy’n cymryd gormod o amser i’w gyflawni a bod gofyn gweithredu heb oedi. Bydd swyddogion yn mapio opsiynau ar gyfer bwrw ymlaen gyda’r gwaith ac yna bydd yr is-grŵp yn dewis y ffordd ymlaen.

Nododd bod yr is-grŵp â gwybodaeth am sefyllfa’r cyrff mwyaf yn sgil COVID-19, er enghraifft yr Eisteddfod Genedlaethol, ond bod llai o eglurder am beth fydd yn digwydd ar lefel meicro ac yn gymunedol.

Mae llawer o sefydliadau bach yn cael eu gyrru gan aelodau hŷn y gymuned, ac mae’n anodd gwybod a fyddant yn ail-gwrdd ai peidio yn y dyfodol. Mae yna berygl na ddaw pobl yn eu holau. Bydd yr is-grŵp yn asesu’r sefyllfa drwy gynnal awdit o sefydliadau a chyrff ar lefel gymunedol.

Awgrymodd Prif Swyddog Rhanbarthol y Gogledd bod yr is-grŵp yn ystyried trafod hyn gyda’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (y PSBs / Public Service Boards).

Nododd aelod y dylid trafod gyda’r Mentrau Iaith gan fod ganddynt ddealltwriaeth o sefyllfa’r mudiadau bach ar lawr gwlad.

Awgrymwyd y gallai rhai o’r sefydliadau mwy o faint gefnogi’r is-grŵp drwy gasglu / rhannu gwybodaeth â nhw.

Nodwyd bod gofyn cadw golwg fanwl ar beth fydd yn digwydd pan ddaw’r argyfwng i ben. Gall cymdeithas symud i fod yn un fwy digidol. Er bod manteision i hynny, gall effeithio ar ddefnydd anffurfiol yn ein cymunedau ac efallai y bydd rhai o’r cyrff / grwpiau bach ar lawr gwlad yn rhoi’r gorau iddi yn gyfan gwbl.

Soniodd y Gweinidog am bwysigrwydd amseru, gan gynnig bod pob is-grŵp yn llunio amserlen ar gyfer y gwaith sydd ar y gweill.

Pwynt Gweithredu 6: Pob is-grŵp i lunio amserlenni clir ar gyfer eu gwaith, er enghraifft cyflwyno rhywbeth interim ymhen 3 mis ac adroddiad llawn ymhen 6 mis. Rhoi gwybod i EM beth fydd y bwriad.

Pwynt Gweithredu 7: Cyflwyno’r drafftiau nesaf o’r cylchoedd gorchwyl i’r Gweinidog.

Eitem 5: unrhyw fater arall

Cafwyd trafodaeth fer am “Black Lives Matter / Mae Bywydau Du o Bwys” a phwysigrwydd trafod y Gymraeg yn y cyd-destun hwn.

Pwynt Gweithredu 8: Gofynnodd y Gweinidog i eitem ar ‘Black Lives Matter’ gael ei chynnwys ar agenda y cyfarfod nesaf.

Pwyntiau Gweithredu

 

 

Pwynt gweithredu

I bwy?

Erbyn pryd?

Wedi cwblhau?

1

Aelodau i gyflwyno unrhyw gywiriadau sydd ganddynt i swyddogion i’r 2 set o gofnodion (12 Mawrth a 30 Ebrill 2020). Oni chlywir yn wahanol, cânt eu cymeradwyo a’u cyhoeddi ar wefan y Llywodraeth.

Aelodau

26 Mehefin 2020

Gwyrdd

2

Aelodau’r Cyngor i gyflwyno sylwadau / cyfraniadau i unrhyw waith economaidd sydd ar y gweill.

Aelodau, yn enwedig yr Is-grŵp Economi ac Iaith

Parhaus

Gwyrdd

3

Y DM i rannu manylion prosiectau y “Foundational Economy Challenge Fund” gyda’r Cyngor a’r Is-grŵp Economi ac Iaith: Foundational Economy

Ysgrifenyddiaeth

Yn syth bin

Gwyrdd

4

Trefnu i Brif Swyddogion Rhanbarthol y Gogledd / Canolbarth a’r Gorllewin fod yn aelodau o’r Is-grŵp Economi ac Iaith er mwyn bwydo a chefnogi rhaglen waith yr is-grŵp ar sail y sgwrs gyda’r Dirprwy Weinidog. Y bwriad yw cytuno ar gyfeiriad y rhaglen waith: beth sydd angen ei wneud, erbyn pryd, a sut y dylid gwneud hynny er mwyn sicrhau bod cynigion yr is-grŵp yn cael eu prif-ffrydio.

 

Rhoi gwybod i Weinidog y Gymraeg beth fydd wedi’i gytuno fel rhaglen waith.

Is-grŵp Economi ac Iaith

Cyfarfod nesaf yr Is-grŵp os yw’n bosibl

Gwyrdd

5

Ychwanegu anghenion trafnidiaeth i gylch gorchwyl yr Is-grŵp Addysg ac ystyried a oes gofyn gwahodd aelod(au) newydd a all gyfrannu at y drafodaeth hon.

Is-grŵp Addysg

Cyfarfod nesaf yr is-grŵp os yw’n bosibl

Gwyrdd

6

Pob is-grŵp i lunio amserlenni clir ar gyfer eu gwaith, er enghraifft cyflwyno rhywbeth interim ymhen 3 mis ac adroddiad llawn ymhen 6 mis. Rhoi gwybod i EM beth fydd y bwriad.

Pob is-grŵp

Is-grwpiau i drafod yn ystod eu cyfarfodydd nesaf a rhannu gydag EM pan fydd penderfyniad wedi’i wneud

Gwyrdd

7

Cyflwyno’r drafftiau nesaf o’r cylch gorchwyl i’r Gweinidog

Pob is-grŵp

Yn syth ar ôl ail gyfarfodydd yr is-grwpiau cyn toriad yr haf

Gwyrdd

8

Gofynnodd y Gweinidog i eitem ar ‘Black Lives Matter’ gael ei chynnwys ar yr agenda y cyfarfod nesaf.

Ysgrifenyddiaeth / Bethan Webb

Erbyn cyfarfod 1 Hydref 2020.

Gwyrdd