Skip to main content

Cofnod

Yn bresennol

Mark Drakeford AS: Ysgrifenydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg 

Anwen Davies: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Dafydd Hughes: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Lowri Morgans: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Manon Cadwaladr: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Meleri Light: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Rosemary Jones: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Rhian Huws Williams: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Tegryn Jones: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Owain Wyn: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Bethan Webb: Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru

Aelodau staff Is-adran Cymraeg 2050: Is-adran Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru

Ysgrifenyddiaeth: Is-adran Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru

Dr Cynog Prys: Prifysgol Bangor

Dr Rhian Hodges: Prifysgol Bangor

Elen Bonner: Prifysgol Bangor

Ymddiheuriadau

Dyfed Edwards: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Samuel Williams: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Savanna Jones: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Enlli Thomas: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Angharad Mai Roberts: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Croeso gan Ddirprwy Gyfarwyddwr Is-adran Cymraeg 2050

Croesawyd pawb i gyfarfod Cyngor Partneriaeth y Gymraeg gan Bethan Webb Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Cymraeg 2050.

Cafodd nifer o’r aelodau gyfle i godi unrhyw faterion perthnasol yr oeddynt am eu trafod:

  • Trafodwyd heriau gweithredu polisi iaith mewn rhai cyrff elusennol.
  • Trafodwyd manteision cynnwys y Gymraeg yn y maes twristiaeth a'r posibilrwydd o ddysgu gwersi gan ardaloedd a gwledydd eraill sy’n gwneud gwaith da yn y maes fel Cernyw.
  • Trafodwyd yr heriau o ddarparu prentisiaethau 100% trwy gyfrwng y Gymraeg. Nodwyd bod Cyngor Sir y Fflint, Bwrdd Iechyd Hywel Dda, a Heddlu Dyfed Powys yn esiamplau o arfer da yn y maes.
  • Cytunwyd y byddai’r ysgrifenyddiaeth yn rhannu gwybodaeth am Uwch-gynhadledd ARFOR 2 yn Llanelli a lansiad y Pecyn Recriwtio Gweithlu Dwyieithog sy’n cynnwys Tŵlcit arfer dda gyda'r aelodau ar ôl derbyn y wybodaeth gan Anwen Davies.

Eitem 1: sesiwn ar gydraddoldeb a’r Gymraeg

Cafwyd cyflwyniad ar gydraddoldeb a’r Gymraeg gan swyddog o Is-adran Cymraeg 2050, gyda ffocws ar gymunedau Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol.

Dyma'r prif bwyntiau a godwyd yn ystod y drafodaeth ddilynol:

  • Nodwyd bod gwaith gyda grwpiau sydd â nodweddion gwarchodedig eraill hefyd ar y gweill, a bydd diweddariad pellach ar y rhain yn y dyfodol.
  • Trafodwyd y sefyllfa bresennol yng Nghaerdydd, gan nodi bod y gwaith cychwynnol wedi'i ganolbwyntio yma gan mai dyma lle mae’r nifer uchaf o bobl o'r cymunedau Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn byw. Fodd bynnag, pwysleisiwyd bod angen ystyried y sefyllfa mewn ardaloedd gwledig yn ogystal â'r ardaloedd trefol, a'r pwysigrwydd o siarad gyda'r cymunedau i ddeall eu hanghenion.
  • Ystyriwyd y posibilrwydd o ddatblygu adnoddau i helpu ysgolion, gan awgrymu bod gwaith cymunedol yn chwarae rhan bwysig hefyd.
  • Trafodwyd y camau gweithredu yn y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a'r cyfleoedd a'r heriau sy'n deillio o hyn.
  • Cafwyd trafodaeth ar y data diweddaraf ar ddisgyblion ysgol Cymru sy'n dod o'r cymunedau Du, Asiaidd ac ething leiafrifol.
  • Holwyd beth oedd y diweddaraf gyda'r gwaith ymchwil i graffu ar y gwahaniaethau rhwng data y Cyfrifiad a'r arolygon eraill am y Gymraeg. Cytunwyd i rannu canfyddiadau diweddaraf y gwaith a gynhelir ar y cyd rhwng y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Llywodraeth Cymru gyda'r aelodau.

Cam gweithredu 1

Ysgrifenyddiaeth i rannu gwybodaeth am Uwch-gynhadledd ARFOR 2 yn Llanelli a lansiad y Pecyn Recriwtio Gweithlu Dwyieithog sy’n cynnwys Tŵlcit arfer dda gyda'r aelodau ar ôl derbyn y wybodaeth gan Anwen Davies.

Cam gweithredu 2

Yr ysgrifenyddiaeth i rannu canfyddiadau diweddaraf y gwaith a gynhelir ar y cyd rhwng y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Llywodraeth Cymru gyda'r aelodau.

[Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg yn ymuno â’r cyfarfod ac yn cymryd y gadair.]

Eitem 2: gair o groeso gan ysgrifennydd y Cabinet

Estynnwyd croeso cynnes i bawb gan Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg.

Eitem 3: yr heriau ac arfer da mewn perthynas â recriwtio gweithlu sydd â sgiliau Cymraeg

Cafwyd cyflwyniad gan Dr Cyngor Prys a Dr Rhian Hodges o Brifysgol Bangor ar eu gwaith i greu Pecyn Recriwtio Gweithlu Dwyieithog. Ffocws y gwaith yw ceisio cadw neu ddenu siaradwyr Cymraeg 18 i 35 oed i’r ardaloedd gorllewinol lle ceir cymunedau â chyfran uchel o siaradwyr Cymraeg.

Cafwyd cyflwyniad gan Elen Bonner o Brifysgol Bangor ar fudoledd.

Trafodwyd y canlynol ar sail y cyflwyniadau:

  • Heriau recriwtio, gan amlinellu ei fod yn broblem wledig a dinesig. Nodwyd bod nifer o ffactorau yn effeithio ar broblemau recriwtio, a bod y Gymraeg yn haen ychwanegol sy’n cyfrannu at yr her.
  • Cytunwyd bod y Tŵlcit yn adnodd parod gwych i gyflogwyr. Trafodwyd dulliau effeithiol o’i hyrwyddo, gan gynnwys trafod cydweithio gyda Busnes Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg.
  • Cytunwyd bod angen cysondeb wrth ddefnyddio iaith glir a phwrpasol drwy’r holl broses recriwtio, gan nodi’r union sgiliau Cymraeg sydd eu hangen ar gyfer y swydd. Pwysleisiwyd hefyd yr angen i godi hyder ymgeiswyr yn eu gallu i ddefnyddio’r Gymraeg ac amlygu gwerth sgiliau llafar mwy ymarferol os yn berthnasol.
  • Trafodwyd gweithredu argymhellion adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yng nghyd-destun y drafodaeth uchod.
  • Nodwyd pwysigrwydd cyflogwyr yn cydweithio er mwyn rhannu negeseuon am y cyfleoedd sydd ar gael yng Nghymru.

[Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg yn ymadael â’r cyfarfod a swyddog o Lywodraeth Cymru yn cymryd y gadair.]

Eitem 4: unrhyw fater arall

Cafwyd cais i roi cyfle i'r aelodau nad oeddent wedi gallu cyfrannu materion perthnasol ar ddechrau'r cyfarfod i wneud hynny yn y cyfarfod nesaf.

Cytunwyd y bydd ffocws y cyfarfod nesaf ar ymateb y Llywodraeth i Adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg.

Cam gweithredu 3

Rhoi cyfle i'r aelodau nad oeddent wedi gallu cyfrannu materion perthnasol ar ddechrau'r cyfarfod i wneud hynny yn y cyfarfod nesaf.

Pwyntiau gweithredu

Cam gweithredu 1

Pwynt gweithredu

Rhannu gwybodaeth am Uwch-gynhadledd ARFOR 2 yn Llanelli a lansiad y Tŵlcit Recriwtio Dwyieithog gyda'r aelodau ar ôl derbyn y wybodaeth gan Anwen Davies.

Arweinydd

Ysgrifenyddiaeth: Anwen Davies

Statws

Gwyrdd: cwblhawyd.

Cam gweithredu 2

Pwynt gweithredu

Rhannu'r canfyddiadau diweddaraf am y gwaith ar y cyd rhwng Swyddfa Ystadegau Gwladol a Llywodraeth Cymru gyda'r aelodau.

Arweinydd

Ysgrifenyddiaeth

Statws

Gwyrdd: cwblhawyd.

Cam gweithredu 3

Pwynt gweithredu

Rhoi cyfle i'r aelodau nad oeddent wedi gallu cyfrannu materion perthnasol ar ddechrau'r cyfarfod i wneud hynny yn y cyfarfod nesaf.

Arweinydd

Ysgrifenyddiaeth/Aelodau

Statws

Gwyrdd: cwblhawyd.