Skip to main content

Yn bresennol

  • Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol
  • Rhodri Llwyd Morgan, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Gwynedd Parry, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Rhian Huws-Williams, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Marian Thomas, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Enlli Thomas Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Angharad Mai Roberts, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Owen Derbyshire, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Dewi Jones, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Simon Brooks, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Bethan Webb, Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru
  • [                   ] (Ysgrifenyddiaeth) Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru

  • [                   ] (Ysgrifenyddiaeth) Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru

  • [                   ] (Ysgrifenyddiaeth) Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru

  • [                   ] (Arsylwi’n unig) Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru

  • [                   ] (Arsylwi’n unig) Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru

  • [                   ] (Arsylwi’n unig) Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru

  • [                   ] (Arsylwi’n unig) Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru

  • [                   ] (Arsylwi’n unig) Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru

  • [                   ] (Arsylwi’n unig) Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru

  • [                   ] (Arsylwi’n unig) Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru

  • [                   ] (Arsylwi’n unig) Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru

  • [                   ] (Arsylwi’n unig) Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru

  • [                   ] (Arsylwi’n unig) Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru

Ymddiheuriadau

Gwion Lewis, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Croeso

Estynnwyd croeso cynnes i bawb gan Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, i rith-gyfarfod cyntaf Cyngor Partneriaeth y Gymraeg. Nodwyd bod aelodau o Uwch-dîm Rheoli Is-Adran y Gymraeg yn bresennol ar gyfer y cyfarfod i wrando ar y trafodaethau ac i fod ar gael i ateb cwestiynau ar unrhyw faes perthnasol.

Nododd y Gweinidog bod cryn dipyn wedi newid ers y cyfarfod diwethaf fis Mawrth a’i bod wedi bod yn gyfnod prysur ar bawb. Nododd ei bod yn awyddus felly i roi diweddariad i’r Aelodau ar yr hyn sydd wedi bod yn digwydd ym maes y Gymraeg yn sgil Covid-19. Soniodd ei bod hefyd am fanteisio ar y cyfle i edrych ar ddarlun y tymor byr, canolig a hir o ran goblygiadau i’r Gymraeg.

Diolchodd hefyd i’r Aelod a wnaeth gysylltu â hi ar ran y Cyngor ddechrau mis Ebrill gan obeithio y byddai modd trafod y materion dan sylw yn ystod y cyfarfod.

Eitem 1 - Diweddariad gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol (Papur 2)

Nododd y Gweinidog bod y sefyllfa bresennol wedi cael effaith aruthrol ar ei gwaith hi ac yn wir ar bob un o Weinidogion Llywodraeth Cymru, ac felly hefyd ar waith ei phartneriaid.

Soniwyd yn gyntaf am gyllidebau a’r ad-drefnu ariannol a fu ar draws y Llywodraeth er mwyn dod o hyd i gyllideb i’w gwario ar ysbytai ac ati. Mae hyn wedi effeithio ar gyllideb y Gymraeg ond mae’r toriad wedi’i gyfyngu i gyllid nad oedd modd ei wario bellach oherwydd Covid-19.

Nododd ei bod wedi llwyddo i siarad gyda phob un o’r partneriaid ond un. Nododd hefyd mai’r sefydliadau a’r mudiadau sydd wedi llwyddo i ddod yn fwy annibynnol heb gymaint o ddibyniaeth ar gefnogaeth y Llywodraeth o ran cyllid yw’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio fwyaf.

Nododd ei bod wedi gofyn i nifer o sefydliadau ystyried rhoi eu staff ar y Cynllun Cadw Swyddi (furlough) os yw hynny’n briodol.

Aeth y Gweinidog drwy’r papur gan dynnu sylw at ambell fater.

Nododd y Gweinidog ei bod wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd er mwyn tynnu ei sylw at bwysigrwydd darpariaeth diwedd oes drwy gyfrwng y Gymraeg.   

Gofynnwyd i’r Aelodau a oeddent am gyflwyno unrhyw sylwadau.

Nododd un Aelod yr hoffai ddiolch i’r swyddogion a’r Gweinidog am eu gwaith ac am gadw mewn cysylltiad gyda’r mudiadau. Diolchodd hefyd am y wybodaeth a ddarparwyd yn y papur.

Holodd Aelod sut oedd y Llywodraeth yn mynd ati i ystyried pa arian y gellid ei ddargyfeirio o gyllidebau'r Is-adran yng nghyd-destun cynaliadwyedd mudiadau bach sy'n dibynnu ar arian Llywodraeth Cymru? Nododd fod yna beryg y gallai rhai o’r mudiadau hyn orfod cau i lawr yn llwyr.  

At hynny, cyfeiriodd Aelod at y gwaith sy’n parhau o ran paratoi at y cwricwlwm newydd a’r rheoliadau cysylltiedig. Cyfeiriodd at y camgymeriad a wnaed y llynedd o ran mynnu Cymraeg a Saesneg yn y cyfnod sylfaen. Holodd sut mae sicrhau nad yw hynny’n digwydd eto?

Nododd Aelod arall bod angen cadw llygad nad dim ond Saesneg a ddefnyddir ac sy’n cael blaenoriaeth yn ystod yr argyfwng presennol, am fod tueddiad i wneud popeth yn Saesneg yn unig oherwydd brys. Pwysleisiodd fod y Safonau’n parhau’n berthnasol ac yn bwysig ac na ddylid defnyddio’r argyfwng fel esgus a allai wreiddio fel arfer newydd yn y dyfodol.

Gofynnodd Aelod a oedd yna ffordd o adnabod rhai o’r bylchau sy’n ymddangos o ran darpariaeth Gymraeg ar-lein a chael trafodaeth systematig ynglŷn â sut i ddelio gyda hynny o ran cyfleoedd i ddefnyddio a chlywed y Gymraeg. Er enghraifft pwy sy’n edrych ar y bylchau ar gyfer plant a phobl ifanc, a beth yw’r ffordd orau i ddelio gyda hynny ac ar ba lefel, yn lleol, rhanbarthol, neu’n genedlaethol?

Gofynnodd hefyd, wrth i ni symud ymlaen i’r cyfnod nesaf pan fydd pethau yn ail ddechrau, a fydd angen trafodaeth ynghylch beth fydd ein blaenoriaethau ar ôl i’r cyfyngiadau ddechrau llacio?

Cafwyd cwestiwn arall gan Aelod ynghylch y posibilrwydd y gallai rhai pethau sy’n bwysig i’r Gymraeg ddod i ben yn llwyr. Ategwyd pwynt blaenorol a wnaed gan Aelod arall lle tybiwyd y bydd y sefydliadau mawr yn dod allan o’r cyfnod hwn yn gymharol ddiogel. Yr hyn a allai achosi pryder yw bod papurau bro, capeli ac ati yn diflannu. Holwyd a oes angen awdit o is-strwythur y Gymraeg yn ei gyfanrwydd ar lefel gymunedol? Mae perygl o golli pethau ar y lefel honno heb sylwi eu bod wedi mynd, a'r gefnogaeth ariannol a fyddai ei hangen o bosibl yn gymharol fach.

Nododd y Gweinidog, bod y rhan helaethaf o’r arian y mae hi wedi ei ildio yn dod o ochr materion rhyngwladol ei phortffolio ac nad yw wedi dargyfeirio llawer o gyllideb y Gymraeg hyd yn hyn i'r pot canolog i ymladd y feirws.

Yn achos yr Eisteddfod, mae’r rhan helaethaf o’r arian wedi dod o’r gronfa Digwyddiadau Mawr. Mae’r adran amaethyddiaeth yn edrych ar wyliau amaeth.

O ran y cwricwlwm, noddodd y Gweinidog ei bod yn gwybod bod yr adran yn cadw golwg graff iawn ar y mater, a bod hyn yn dal i symud ymlaen. Fe fydd y Gweinidog yn cyfarfod â’r Gweinidog Addysg yr wythnos nesaf, a bydd cyfle i drafod y mater bryd hynny.

Nododd y Gweinidog ei bod yn ymwybodol o’r perygl y gallai sefydliadau wneud cyhoeddiadau Saesneg yn unig o dan yr amgylchiadau ac nad yw am weld patrwm yn datblygu. Roedd wedi gwneud yn siŵr bod llinell gymorth Helo Blod ar gael i helpu busnesau llai, ond o ran cyrff mwy mae yna ddisgwyliad eu bod yn parhau i lynu wrth Safonau’r Gymraeg.

O ran is-strwythur y Gymraeg ac mewn cysylltiad â’r pwynt a wnaed ynghylch papurau bro, nododd y Gweinidog ei bod yn hoffi'r syniad o awdit o is-strwythur y Gymraeg, ond na fyddai ymyrraeth ariannol yn helpu mewn rhai achosion.

Pwynt Gweithredu 1: Is-adran y Gymraeg i ystyried y cynnig o gynnal awdit a holi’r Aelodau am syniadau a chyfraniadau.

Noddodd y Gweinidog ei bod yn poeni fwyaf am yr effaith ar yr isadeiledd economaidd – y diwydiant amaeth, twristiaeth, ac ati – ac effaith hynny ar y Gymraeg. Er nad yw’r Gweinidog yn gyfrifol yn uniongyrchol am y meysydd hyn, fe fydd yn cael effaith ar yr iaith.

Eitem 2 - Effaith Covid-19 ar Cymraeg 2050: Golwg tua’r dyfodol (Papur 3)

Fe aeth y Gweinidog ymlaen i drafod cynnwys papur 3, gan edrych ar bob un thema yn ei thro.

Gofynnodd am adborth wrth i bawb ystyried y cwestiynau, y prif risgiau a nodwyd ynghyd ag unrhyw sylwadau ar gyfer y tymor byr i’r tymor hir.

Thema 1 – Cynyddu nifer y siaradwyr

Nododd un Aelod bod angen cadw mewn cof pa mor allweddol yw’r blynyddoedd cynnar. Er bod yr argyfwng yn golygu bod nifer o blant yn gorfod aros adref heb gysylltiad â’r Gymraeg, mae angen sicrhau hefyd nad yw rhieni'n poeni’n ormodol am gynnydd eu plant ac o’r herwydd yn teimlo bod angen tynnu eu plant allan o’r ddarpariaeth Gymraeg.

Eglurodd fod rhaid cofio, er mai dysgu Cymraeg yn ystod y blynyddoedd cynnar yw’r ddelfryd, bod modd dysgu Cymraeg nes ymlaen hefyd. Mae angen datblygu neges nad yw’r sefyllfa bresennol yn mynd i chwalu rhagolygon academaidd Cymraeg plant ac na fydd hyn yn amharu ar eu cyfleoedd i ddatblygu sgiliau ieithyddol. Nid yw hyn yn ddiwedd y byd, ond mae angen meddwl am bethau eraill i'w cynnig i helpu plant a’u rhieni yn y cartref yn ystod y cyfnod hwn.

Cytunodd Aelod arall, gan nodi y gall fod yna le i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg gydweithio â’r Mudiad Meithrin i ddarparu deunydd i rieni.

Soniodd Aelod am gyflwr cyfnewidiol yr is-adeiledd digidol er mwyn i deuluoedd allu manteisio ar y deunyddiau sydd ar gael ar y rhyngrwyd. Soniodd fod yna broblem mewn rhai ardaloedd gyda mynediad cyson at fand-eang.

Nododd Aelod arall bod S4C yn awyddus i gefnogi drwy greu cynnwys addysg mewn partneriaeth â'r Llywodraeth er mwyn cefnogi ysgolion.  

Nododd y Gweinidog ei bod yn poeni rhywfaint am y CSCA (WESPs) a’r oedi a fydd yn digwydd i’r amserlen oherwydd Covid-19. 

Nododd Aelod arall bod yna bryder mewn rhai mannau ynghylch cynllunio strategol y Gymraeg mewn addysg. Nododd fod hwn yn gyfle arbennig i’r awdurdodau a’r consortia symud ymlaen i osod pethau cryfach dan gynlluniau 10 mlynedd. Nid oedd yn hollol siŵr beth yw natur y cydweithio rhwng y consortia a’r awdurdodau lleol, ond pwysleisiodd bod angen datblygu’r cydweithio rhwng y ddau. Roedd o’r farn bod y swyddogion sy'n gwella darpariaeth addysg Gymraeg yn cael eu cyflogi gan y consortia, felly nhw sydd yn y sefyllfa orau i wella pethau mewn gwirionedd. Fe aeth y Gweinidog ati i ymateb i’r cwestiynau a’r pwyntiau a godwyd.

O ran trochi, cytunodd bod raid rhoi neges clir i rieni, a nododd y byddai’n codi hyn gyda’r Gweinidog Addysg yr wythnos nesaf.  

O ran yr is-adeiledd, mae Llywodraeth Cymru wedi camu i mewn ac wedi helpu yn ariannol gyda’r sefyllfa er mai cyfrifoldeb Llywodraeth Prydain yw hyn.

O ran syniad S4C, mae’r Gweinidog eisoes wedi cael trafodaeth gyda phennaeth S4C am sut i addasu i’r sefyllfa bresennol, ond bydd gofyn sicrhau bod swyddogion cwricwlwm yn ymwybodol o gynnig S4C.  

O ran CSCA,  mae yna ymdrech wedi bod i feithrin perthynas ar lefel pob awdurdod lleol ond bod yna bryder y gallwn golli momentwm am fod Awdurdodau Lleol yn gorfod blaenoriaethu pethau eraill ar hyn o bryd.

Nododd swyddog, o ran y CSCA a’r cynlluniau 10 mlynedd bod rhaid oedi’r ymgynghoriad tan fis Medi oherwydd Covid-19, ac wedyn oherwydd etholiadau’r Cynulliad. O ganlyniad, bydd oedi am flwyddyn.

Nododd Aelod nad oedd ganddo unrhyw bryder am yr oedi. Soniodd am erthygl a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn Barn yn ddiweddar am y consortia. Nododd y gall y Gymraeg ei hun lithro o fewn y consortia. Nodwyd mai dim ond 57 ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg sydd yna a bod gofyn cydweithio ar lefel genedlaethol hefyd, nid dim ond ar sail ranbarthol – mewn undod mae nerth.

Pwynt Gweithredu 2: Sicrhau bod swyddogion cwricwlwm y Llywodraeth yn ymwybodol o drafodaeth y Gweinidog gyda phennaeth S4C.

Thema 2 – Cynyddu defnydd

Eto, gofynnwyd i’r Aelodau ystyried y risgiau posibl gan nodi unrhyw gyfleoedd a allai godi neu sydd yn codi. A oes pethau y dylem fod yn gwneud?

Nododd Aelod yr angen i allu darparu cyfieithu ar y pryd ar wahanol blatfformau. Gofynnwyd a oes modd ariannu datblygiad o’r fath ar Microsoft Teams? A oes modd i Lywodraeth Cymru roi pwysau ar Microsoft os yw'r math hwn o weithio am barhau yn y dyfodol?

Dywedodd y Gweinidog ei bod yn ymwybodol o’r sefyllfa a bod y mater yn peri pryder. Nododd swyddog bod llythyr wedi cael ei ddrafftio ac y bydd y Gweinidog yn ei anfon maes o law at Microsoft.

Nododd Aelod bod gofyn ystyried sut fydd hyn yn effeithio ar ddefnydd iaith anffurfiol yng ngweithleoedd y dyfodol hefyd, gan fod gweithleoedd yn debygol o fod wedi newid am byth.

Cyfeiriodd Aelod at bwynt blaenorol a wnaed o ran pethau gwerthfawr yn diflannu. Mae risg y bydd y sefyllfa yn effeithio ar bethau bregus ac mae’n bwysig ystyried a oes modd sicrhau bod gwyliau, dramâu ac ati yn cael eu cynnal.

Nodwyd bod gofyn meddwl am y sectorau siopau Cymraeg, argraffwyr llyfrau, cyhoeddi ac ati, yn arbennig yn y gorllewin a'r gogledd gan eu bod yn gyflogwyr cyfrwng Cymraeg pwysig mewn ardaloedd gwledig.

Diolchodd y Gweinidog am y sylwadau hyn.

Thema 3 – Seilwaith a Chyd-destun

Nododd Aelod fod gofyn cofio bod Covid-19 yn taro ar yr un pryd â Brexit. Trafodwyd y posibilrwydd o addasu Arfor i ymateb i Covid-19. Y broblem fwyaf yw na fydd cyllideb Arfor yn parhau am byth. Nodwyd bod gofyn rhoi sylw penodol i'r cysylltiad rhwng yr economi a'r Gymraeg yn y gogledd a'r gorllewin. Nodwyd nad oes modd i Arfor barhau fel pe na bai Covid-19 wedi digwydd a bod Arfor mewn lle delfrydol i arwain y frwydr economaidd. Mae’n bosibl y gallai Covid-19 roi cyfeiriad a chyfarwyddyd newydd i Arfor.

Nododd Aelod bod hwn yn gyfle delfrydol i ailfeddwl strwythur Arfor a sut mae'n ffitio gyda chynlluniau economaidd eraill Llywodraeth Cymru. Nododd ei fod yn gweld mai un o’r rhwystrau yw bod penderfyniadau am yr economi'n digwydd mewn adran arall yn y Llywodraeth. Holwyd: beth yw'r trafodaethau ynghylch rôl y Gymraeg mewn rhaglenni sy'n cael eu llunio mewn adrannau eraill? / sut mae sicrhau bod Arfor yn ymateb yn llawn i gynlluniau economaidd eraill? / beth yw natur y drafodaeth rhwng Adran yr Economi ac Is-adran y Gymraeg? Holwyd tybed a fyddai’n fuddiol cael tîm o swyddogion ac aelodau'r Cyngor Partneriaeth i fod yn rhan o’r gwaith o gynllunio adferiad economaidd ochr yn ochr ag adran Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth.

Dywedodd y Gweinidog ei bod yn credu'n fawr yn y cyswllt rhwng yr economi a'r Gymraeg. Mae’r oedi oherwydd y sefyllfa bresennol yn drueni gan ein bod wedi sefydlu bwrdd crwn gyda'r Awdurdodau Lleol, ond nid oes cyfarfodydd ar y gweill ar hyn o bryd. Bydd beth bynnag ddaw nesaf yn wahanol. Mae Covid-19 wedi tanlinellu pwysigrwydd economi sylfaenol. Roedd hi’n ddiddorol trafod â'r Basgwyr a'r Llydäwyr o ran beth maen nhw'n ei wneud, yn arbennig o ran twristiaeth yn Llydaw. Mae gennym dipyn o gronfeydd strwythurol wedi'u hailstrwythuro mewn ymateb i Covid-19 ac er mwyn manteisio ar gyfleoedd er enghraifft yr Eisteddfod. A yw’n bosibl, er enghraifft, i greu diwydiant yng Nghymru yn lle llogi pebyll o’r iseldiroedd?

Eitem 3 – Aelodaeth Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Nododd y Gweinidog bod aelodaeth y Cyngor yn dod i ben ym mis Mehefin. Un o’r opsiynau posibl fyddai ailbenodi’r aelodau am gyfnod arall.

Roedd y Gweinidog am ystyried yr opsiwn hwn gan feddwl o’r newydd hefyd am ambell fater e.e. sut i wneud yn siŵr bod yna barhad a chysondeb yn y dyfodol heb i dymor pob Aelod ddod i ben ar yr un dyddiad. Nododd hefyd ei bod am ystyried cyflwyno persbectifau gwahanol i’r Cyngor e.e. Aelod sydd wedi dysgu Cymraeg neu sy’n ddi-Gymraeg. Cyn mynd dim pellach gyda’r broses, bydd yn holi am farn yr aelodau presennol.

Pwynt Gweithredu 3: Swyddogion i gysylltu ag aelodau i drafod ailbenodi a’u dyheadau.

Ar sail y trafodaethau sydd wedi’u cynnal yn ddiweddar ac yn ystod y cyfarfod hwn, nododd swyddog y byddai werth ystyried y posibilrwydd o sefydlu is-grwpiau, neu gynnal deep-dives ar feysydd penodol a hynny i ddigwydd rhwng cyfarfodydd ffurfiol y Cyngor Partneriaeth. Nododd aelodau eu bod yn hapus i helpu ar wahanol grwpiau sy’n ymwneud â gwahanol elfennau o bolisi’r Gymraeg. Soniwyd am sefydlu’r grwpiau a ganlyn – i’w cadarnhau:

  • Thema 1: Ystyried dwyieithrwydd yng nghyd-destun dysgu gydol oes
  • Thema 2: Ystyried sut i gynnal awdit o seilwaith y Gymraeg ar lefel gymunedol.
  • Thema 3: Ystyried yr economi / y sector preifat gyda ffocws penodol ar y cadarnleoedd traddodiadol.

Pwynt Gweithredu 4: Swyddogion i gysylltu ag aelodau i drafod sefydlu is-grwpiau.

Eitem 4 – Unrhyw fater arall

Dim byd arall i’w nodi.