Mae’r arweiniad hwn yn berthnasol yn bennaf i’r cyweiriau clasurol a ffurfiol. Yn y cyweiriau anffurfiol a llafar, gellir addasu yn ôl yr angen, ond dylid bod yn gyson o fewn un darn neu gyfres o ddarnau.
Ffigurau ynteu geiriau
Wrth gyfieithu dilynwch yr hyn sydd yn y testun Saesneg o ran defnyddio geiriau ynteu ffigurau, ond dilynwch y cyngor isod wrth ddrafftio testun gwreiddiol yn Gymraeg neu os oes ansicrwydd ynghylch sut i gyfieithu’r Saesneg.
Yn gyffredinol, rhowch y rhifau ‘un’ i ‘deg’ mewn geiriau a defnyddiwch ffigurau ar gyfer rhifau o 11 ymlaen. Ond mae rhai eithriadau i hyn – defnyddir ffigurau ar gyfer un i ddeg yn y sefyllfaoedd hyn:
- amserau, cyfnodau amser, oedrannau, dyddiadau
- canrannau, symiau arian, unedau mesur
- cyfrifiadau, fformiwlâu, rhifau sy’n cynnwys pwynt degol
- rhifau eiddo mewn cyfeiriadau
- pan fo rhifau hyd at ddeg ac uwchben deg yn cael eu defnyddio gyda’i gilydd
- gyda ‘miliwn’ a ‘biliwn’. Hefyd, peidiwch â threiglo ‘miliwn’ na ‘biliwn’ er mwyn osgoi amwysedd rhyngddynt (hy, peidiwch â dweud ‘2 filiwn’ ar gyfer ‘2 miliwn’ na ‘2 biliwn’).
Rhoddir ffracsiynau mewn ffigurau mewn cyfrifiadau neu fformiwlâu, ond cânt eu mynegi mewn geiriau mewn testun (‘1/3’ mewn cyfrifiadau etc, ond ‘traean’ neu ‘un ran o dair’ mewn testun).
Degol ynteu ugeiniol
Caiff ffigurau eu trin fel ffurfiau clasurol neu ugeiniol, yn hytrach na ffurfiau degol. Felly wrth gyfieithu ‘and 21’ rhowch ‘ac 21’ fel petai’n darllen ‘ac un ar hugain’ ac nid ‘a 21’ (‘a dau ddeg un’).
Caiff ffigurau mewn dyddiadau eu trin fel ffurfiau ugeiniol hefyd. Ni chaiff y fannod ei chynnwys yn ysgrifenedig, ond wrth ddefnyddio cysyllteiriau ac arddodiaid o flaen dyddiadau, tybir bod y fannod yn bresennol ar lafar. Hynny yw:
- ar gyfer ‘and 20 March’, defnyddir ‘a 20 Mawrth’ (‘a’r ugeinfed o Fawrth’)
- ar gyfer ‘from 31 March’, defnyddir ‘o 31 Mawrth’ (‘o’r unfed ar ddeg ar hugain o Fawrth’)
- ar gyfer ‘the period beginning with 1 December 2020’ defnyddir ‘y cyfnod sy’n dechrau â 1 Rhagfyr 2020’ (‘y cyfnod sy’n dechrau â’r cyntaf o Ragfyr 2020’).
Mae rhai eithriadau i’r arfer o drin ffigurau fel ffurfiau ugeiniol. Defnyddir y system ddegol yn y sefyllfaoedd hyn:
- rhifau tai – ‘ymweld ag 80 Heol y Frenhines’ (‘ymweld ag wyth deg Heol y Frenhines’) nid ‘ymweld â 80 Heol y Frenhines’ (‘ymweld â phedwar ugain Heol y Frenhines’)
- rhifau ffôn
- rhifau cyn ac ar ôl pwyntiau degol – ‘a 20.15 y cant’ (‘a dau ddeg pwynt un pump y cant’) nid ‘ac 20.15 y cant’ (‘ac ugain pwynt pymtheg y cant’)
- rhifau blynyddoedd – ‘rhwng 1995 ac 1996’ nid ‘rhwng 1995 a 1996’. Mae hyn yn cyd-fynd â’r cyngor yn yr erthygl ar flynyddoedd i drin y rhif cyntaf fel ‘un’ yn hytrach na ‘mil’.
Treiglo ai peidio
Pan fo’r arferion gramadegol o ran treiglo ar ôl rhifau yn ddiamwys ac yn sefydledig, dilynir y rheini. Mae’r cyngor hwn yn ymwneud â sefyllfaoedd pan fo’r arferion yn amrywio neu’n ansicr.
Mae ‘blwydd’ a ‘blynedd’ yn treiglo’n drwynol ar ôl pob rhifolyn ar wahân i 2, 3, 4 a 6, ond nid yw ‘diwrnod’ yn treiglo’n drwynol ar ôl rhifau, ond ceir anghytundeb ymhlith gramadegwyr o ran ‘6 blynedd/mlynedd’, yn enwedig ar lafar.
Ni threiglir enwau heblaw ‘cant’, ‘punt’ a ‘ceiniog’ yn feddal ar ôl ‘saith’ ac ‘wyth’, ee ysgrifennir ‘saith parc’ ac ‘wyth rhanbarth’, nid ‘saith barc’ ac ‘wyth ranbarth’.
Ni threiglir ‘diwrnod’ yn drwynol ar ôl rhifau, ee ysgrifennir ‘saith diwrnod’ a ‘15 diwrnod’.
Y ffurfiau cyswllt ynteu’r ffurfiau dyfynnol
Defnyddir y ffurfiau cyswllt ‘pum’ (5), ‘chwe’ (6) a ‘can’ (100) yn gyffredinol ee ‘pum arth’, ‘pum dyn’, ‘chwe adroddiad’, ‘chwe menyw’, ‘can metr’, ‘can merch’.
Gellir defnyddio’r ffurf gyswllt ‘deng’ o flaen llafariaid e.e. ‘deng awdurdod’ ac ‘m’ e.e. deng mis. Mae hyn yn gyffredin yn y cywair clasurol yn arbennig, ac i raddau yn y cywair ffurfiol hefyd. Mae’n fwy arferol gweld y ffurf ddyfynnol ‘deg’ yn y cyweiriau anffurfiol a llafar.
Ni fydd y ffurfiau cyswllt ‘deuddeng’ (12) a ‘pymtheng’ (15) yn codi yn ein gwaith fel arfer gan y defnyddir ffigurau ar gyfer rhifau o 11 i fyny.
Y lluosog ynteu’r unigol
Gyda ffigurau a rhifolion hyd at ddeg, defnyddir yr unigol, ee ‘2 filltir’, ‘dau ddyn’.
Gyda ffigurau a rhifolion o 11 i fyny, defnyddir yr unigol pan fo’r hyn a gyfrifir yn dod ar ôl y rhif ee ‘18 mis’ (‘deunaw mis’) yn hytrach na ‘18 o fisoedd’ (‘deunaw o fisoedd neu ‘un deg wyth o fisoedd’).
Gyda ffigurau a rhifolion o 11 i fyny, defnyddir y lluosog yn y sefyllfaoedd hyn:
- pan ddefnyddir y system ugeiniol a phan fo’n arferol rhoi’r hyn a gyfrifir yn y canol – defnyddir ‘11 o filltiroedd’ (‘un ar ddeg o filltiroedd’) nid ‘11 filltir’ (‘un filltir ar ddeg’)
- pan ddefnyddir y system ddegol – defnyddir ‘17.34 o filltiroedd’ (‘un deg saith pwynt tri pedwar o filltiroedd’) nid ‘17.34 filltir’ (‘un deg saith filltir pwynt tri pedwar’) nac ‘17.34 milltir’ (‘un deg saith pwynt tri pedwar milltir’).
Rhifau ar ddechrau brawddegau
Peidiwch â dechrau brawddegau â ffigurau. Yn lle hynny:
- gallwch ddefnyddio’r geiriau yn lle’r ffigurau – ‘Ugain cais yn unig a dderbyniwyd’, yn hytrach nag ‘20 cais yn unig a dderbyniwyd’
- gallwch aildrefnu’r frawddeg – ‘Derbyniwyd 20 cais yn unig’ yn hytrach na ‘20 cais yn unig a dderbyniwyd’.
Pwyntiau perthnasol eraill
Cofiwch wahaniaethu rhwng ‘rhif’ (sy’n benodol ac, yn gyffredinol, yn cyfeirio at rifolion – 1, 2, 3 etc) a ‘nifer’ (sy’n amhenodol, ee ‘mae nifer mawr o gyrsiau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg’).
Mae cyngor perthnasol arall yn yr erthyglau ynghylch:
- dyddiadau
- blynyddoedd
- canrifoedd
- teitlau unedau milwrol – trefnolion a rhifolion.
Gellir defnyddio’r ffurf gyswllt ‘deng’ o flaen llafariaid e.e. ‘deng awdurdod’ ac ‘m’ e.e. deng mis. Mae hyn yn gyffredin yn y cywair clasurol yn arbennig, ac i raddau yn y cywair ffurfiol hefyd. Mae’n fwy arferol gweld y ffurf ddyfynnol ‘deg’ yn y cyweiriau anffurfiol a llafar.