Mae adrannau IV.31-IV.36 Gramadeg yr Iaith Gymraeg, a’r adrannau ar gyfansoddeiriau rhywiog ac afryw yn Orgraff yr Iaith Gymraeg (paragraffau 1-22), yn disgrifio swyddogaethau gramadegol ac orgraffyddol y cysylltnod. Fodd bynnag, gall arferion go iawn fod yn wahanol i’r hyn a ddisgrifir yn y ffynonellau hynny, ac weithiau gall fod yn anodd cymhwyso’r cyngor i eiriau sy’n codi mewn testunau. Bwriad yr erthygl hon yw rhoi arweiniad ymarferol ynghylch penderfynu a ddylid cynnwys y cysylltnod mewn geiriau ai peidio.
Mewn rhai sefyllfaoedd mae’n bendant fod angen y cysylltnod yn ôl gramadeg ac orgraff y Gymraeg. Er enghraifft, mae angen cynnwys y cysylltnod er mwyn:
• Gwahanu graffemau cytseiniol sydd naill ai’n gallu cael eu dehongli fel un lythyren yn hytrach na dwy (ee ‘ail-lenwi’) neu wahanu dwy graffem gytseiniol sydd yr un fath (ee ‘rhydd-ddeiliad’, ‘rhyng-golegol’)
• Dynodi mai ar y sillaf olaf y mae’r pwyslais mewn cyfansoddeiriau llac, yn ôl diffiniad Orgraff yr Iaith Gymraeg (ee ‘cam-drin’, ‘hunan-barch’, ‘cyd-fyw’)
• Rhannu elfennau ymadroddion sy’n gweithredu’n eiriau syml (ee ‘di-droi’n-ôl’, ‘di-asgwrn-cefn’).
Mewn cyd-destunau eraill, nid yw o angenrheidrwydd yn ieithyddol-angenrheidiol cynnwys y cysylltnod, ond gall fod yn ddefnyddiol. Er enghraifft:
• Gwahanu graffemau llafarog. Gwneir hynny weithiau, yn enwedig mewn termau gwyddonol, i hwyluso darllen y term (‘gastro-oesoffagaidd’, ‘bio-olew’)
• Gwahanu’r elfennau mewn cyfansoddeiriau, i hwyluso darllen y term (ee ‘oedran-gyfeillgar’, ‘rhywedd-benodol’, ‘nyrs-ragnodydd’)
• Dynodi’r cyfrwng electronig – rhowch gysylltnod gyda chysyllteiriau sy’n cynnwys y rhagddodiad ‘e-’ i gyfleu’r cyfrwng electronig (ee ‘e-bost’, ‘e-bostio’, ‘e-dendro’, ‘e-Gymru’)
• Pan fo ‘cyd-’, ‘cyn-’, ‘is-’, ‘ôl-’ ac ‘uwch-’ yn elfennau cyntaf mewn geiriau a bod pwyslais arbennig arnynt, mae angen cysylltnod ar eu hôl i ddynodi hynny. Mae hyn yn arbennig o gyffredin ar gyfer enw ar gyrff a swyddi ee ‘cyd-bwyllgor’, ‘cyn-lywydd’, ‘is-gadeirydd’, ‘uwch-gyfieithydd’.
Heblaw mewn sefyllfaoedd fel hyn, fel arfer nid oes angen y cysylltnod, yn enwedig mewn cyfansoddeiriau lle mae’r ail elfen yn cynnwys mwy nag un sill (ee ‘ailadrodd’, ‘cydweithio’, ‘camarwain’, ‘aralleirio’) hyd yn oed os gwneir hynny yn y gair cyfatebol Saesneg, ee ‘re-assess’, ‘ailasesu’; ‘co-operate’, ‘cydweithredu’; ‘anti-bacterial’, ‘gwrthfacterol’.
Os ydych yn ansicr a oes angen cysylltnod mewn gair, edrychwch ar y cofnodion perthnasol yn TermCymru, y Porth Termau a Geiriadur Prifysgol Cymru, neu mewn dogfennau blaenorol cysylltiedig. Os nad oes cofnodion perthnasol, y maen prawf yw a fyddai cynnwys y cysylltnod yn ei gwneud yn haws i’r darllenydd ddeall ffurfiant ac ystyr y gair.
Mae confensiynau penodol ar ddefnyddio cysylltnodau mewn enwau lleoedd. Am esboniad llawn gweler adran 3 yng nghanllawiau safoni enwau lleoedd Comisiynydd y Gymraeg: https://www.comisiynyddygymraeg.cymru/polisi-ac-ymchwil/enwau-lleoedd