1. Ysgrifenedig
Ni ddylid cyfieithu dyfyniadau o ddeunyddiau cyhoeddedig (dogfennau, deddfwriaeth, erthyglau papur newydd ac ati) os nad oes fersiynau Cymraeg ohonynt ar gael. Mewn rhai achosion, mae’n bosibl y byddai hi’n briodol cyfieithu’r dyfyniadau ond peidio â defnyddio dyfynodau.
Os byddwch yn dyfynnu o ddogfennau sydd wedi’u cyhoeddi, gofalwch eich bod yn chwilio am y ddogfen berthnasol ar y rhyngrwyd ac yn cadw at yr union eiriad. Os nad oes fersiwn Gymraeg o’r ddogfen ar gael, gadewch y testun rhwng dyfynodau yn Saesneg.
Os bydd rhan o destun deddf Senedd y Deyrnas Unedig neu Senedd Ewrop yn cael ei dyfynnu, nid ydym yn argymell eich bod yn cyfieithu’r darn i’r Gymraeg gan nad oes statws cyfreithiol i gyfieithiad o ddeddf.
Yn achos deddfwriaeth Gymreig, edrychwch ar y wefan www.legislation.gov.uk i weld a oes fersiwn Gymraeg
Rhowch y frawddeg hon uwchben rhannau o ddeddfwriaeth a adewir yn Saesneg (ee mewn atodiad i ddogfen), er mwyn esbonio i’r darllenydd pam nad ydynt yn Gymraeg:
Nid yw'r rhan hon o'r ddogfen ar gael yn Gymraeg gan mai dyfyniad o ddeddfwriaeth nad yw wedi ei gwneud yn Gymraeg ydyw.
Mae cyfieithiad Cymraeg swyddogol o Ddeddf yr Iaith Gymraeg ar gael yng Ngeiriadur Newydd y Gyfraith gan Robyn Léwis.
2. Llafar
Mae’n anoddach penderfynu a ddylid cyfieithu dyfyniad llafar.
Mae’n dderbyniol mewn datganiadau i’r wasg, yn ogystal ag mewn sefyllfaoedd pan nad Saesneg oedd iaith wreiddiol y dyfyniad, ond mae angen bod yn fwy gofalus wrth drafod yr isod.
- Dyfyniad gan rywun enwog neu ddyfyniad adnabyddus
Mater o farn, wrth gwrs, yw pa mor adnabyddus yw dyfyniad. Ond mewn achos o’r fath efallai y gellid ystyried a fyddai yr un mor adnabyddus o’i gyfieithu, ac a ddylid ystyried ei adael yn y Saesneg gwreiddiol pe byddai’n colli ei ergyd o’i gyfieithu.
- Dyfyniad o gân neu ddarn o farddoniaeth
Yr ateb delfrydol yw dod o hyd i ddyfyniad o gân neu gerdd Gymraeg sy’n cyfleu’r un peth. Ond efallai na fydd hynny’n ymarferol bob amser.
