Skip to main content

Yr Arddulliadur

This Welsh-language style guide has been developed to give advice and guidance to translators of general Welsh Government texts. You can search for specific words or browse by section. This guidance is revised and updated regularly.

and/or
7 results
Results are displayed in alphabetical order.

cwynion (complaints)

Mae angen yr acen ar ffurfiau treigledig y gair unigol ‘cwyn’ er mwyn i’r ystyr fod yn eglur – gweler yr erthygl ‘cwyn (complaint)’.

Mae’r cwestiwn yn codi a oes angen acen grom yn y gair treigledig lluosog, ‘gwynion’. Y cyngor yn y gyfrol ‘Orgraff yr Iaith Gymraeg’ (paragraff 72(2)) yw nad oes angen yr acen honno, o ddilyn y rheolau arferol, oherwydd nad sain llafariad hir sydd i’r llythyren ‘w’ yn y ffurf luosog.

Er hynny mae’n nodi y gall fod yn syniad cael rhyw ffordd o nodi’r sain gywir gan fod cynifer o bobl yn ei chamseinio. Mae’n argymell y gellid defnyddio’r to bach – gan nad oes arwydd arall addas yn bodoli yn orgraff y Gymraeg – lle bo angen arweiniad ynghylch ynganiad cywir (neu, felly, i osgoi amwysedd yn yr ystyr).

Ein harfer ni felly, ar gyfer gwaith Llywodraeth Cymru, yw defnyddio “gwynion” ar gyfer ffurf luosog “gŵyn” ac eithrio mewn amgylchiadau penodol, prin lle gallai’r ystyr fod yn amwys, neu lle mae angen arweiniad ar yr ynganiad (ee mewn araith neu sgript). Yn y rhan fwyaf o gyd-destunau, dylai fod yn ddigon eglur ai lluosog yr ansoddair ‘gwyn’ ynteu lluosog yr enw ‘cwyn’, wedi’i dreiglo, a ddynodir gan y gair ‘gwynion’.

cysylltnod

Mae adrannau IV.31-IV.36 Gramadeg yr Iaith Gymraeg, a’r adrannau ar gyfansoddeiriau rhywiog ac afryw yn Orgraff yr Iaith Gymraeg (paragraffau 1-22), yn disgrifio swyddogaethau gramadegol ac orgraffyddol y cysylltnod. Fodd bynnag, gall arferion go iawn fod yn wahanol i’r hyn a ddisgrifir yn y ffynonellau hynny, ac weithiau gall fod yn anodd cymhwyso’r cyngor i eiriau sy’n codi mewn testunau. Bwriad yr erthygl hon yw rhoi arweiniad ymarferol ynghylch penderfynu a ddylid cynnwys y cysylltnod mewn geiriau ai peidio.

Mewn rhai sefyllfaoedd mae’n bendant fod angen y cysylltnod yn ôl gramadeg ac orgraff y Gymraeg. Er enghraifft, mae angen cynnwys y cysylltnod er mwyn:

•    Gwahanu graffemau cytseiniol sydd naill ai’n gallu cael eu dehongli fel un lythyren yn hytrach na dwy (ee ‘ail-lenwi’) neu wahanu dwy graffem gytseiniol sydd yr un fath (ee ‘rhydd-ddeiliad’, ‘rhyng-golegol’) 
•    Dynodi mai ar y sillaf olaf y mae’r pwyslais mewn cyfansoddeiriau llac, yn ôl diffiniad Orgraff yr Iaith Gymraeg (ee ‘cam-drin’, ‘hunan-barch’, ‘cyd-fyw’)
•    Rhannu elfennau ymadroddion sy’n gweithredu’n eiriau syml (ee ‘di-droi’n-ôl’, ‘di-asgwrn-cefn’).

Mewn cyd-destunau eraill, nid yw o angenrheidrwydd yn ieithyddol-angenrheidiol cynnwys y cysylltnod, ond gall fod yn ddefnyddiol. Er enghraifft:

  • Gwahanu graffemau llafarog. Gwneir hynny weithiau, yn enwedig mewn termau gwyddonol, i hwyluso darllen y term (‘gastro-oesoffagaidd’, ‘bio-olew’)
  • Gwahanu’r elfennau mewn cyfansoddeiriau, i hwyluso darllen y term (ee ‘oedran-gyfeillgar’, ‘rhywedd-benodol’, ‘nyrs-ragnodydd’)
  • Dynodi’r cyfrwng electronig – rhowch gysylltnod gyda chysyllteiriau sy’n cynnwys y rhagddodiad ‘e-’ i gyfleu’r cyfrwng electronig (ee ‘e-bost’, ‘e-bostio’, ‘e-dendro’, ‘e-Gymru’)
  • Pan fo ‘cyd-’, ‘cyn-’, ‘is-’, ‘ôl-’ ac ‘uwch-’ yn elfennau cyntaf mewn geiriau a bod pwyslais arbennig arnynt, mae angen cysylltnod ar eu hôl i ddynodi hynny. Mae hyn yn arbennig o gyffredin ar gyfer enw ar gyrff a swyddi ee ‘cyd-bwyllgor’, ‘cyn-lywydd’, ‘is-gadeirydd’, ‘uwch-gyfieithydd’.
  • Mewn termau sy’n cynnwys y rhagddodiad ‘marw_’ ee ‘marw-enedigaeth’ a ‘marw-anedig’. Mae hyn er hwylustod y darllen ac mae’n adlewyrchu’r defnydd cyffredin. Mae’n cyd-fynd â’r hyn a nodir yng Ngeiriadur yr Academi a’r Porth Termau, ond mae’n wahanol i’r hyn a nodir yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru.

Heblaw mewn sefyllfaoedd fel hyn, fel arfer nid oes angen y cysylltnod, yn enwedig mewn cyfansoddeiriau lle mae’r ail elfen yn cynnwys mwy nag un sill (ee ‘ailadrodd’, ‘cydweithio’, ‘camarwain’, ‘aralleirio’) hyd yn oed os gwneir hynny yn y gair cyfatebol Saesneg, ee ‘re-assess’, ‘ailasesu’; ‘co-operate’, ‘cydweithredu’; ‘anti-bacterial’, ‘gwrthfacterol’.

Os ydych yn ansicr a oes angen cysylltnod mewn gair, edrychwch ar y cofnodion perthnasol yn TermCymru, y Porth Termau a Geiriadur Prifysgol Cymru, neu mewn dogfennau blaenorol cysylltiedig. Os nad oes cofnodion perthnasol, y maen prawf yw a fyddai cynnwys y cysylltnod yn ei gwneud yn haws i’r darllenydd ddeall ffurfiant ac ystyr y gair.

Mae confensiynau penodol ar ddefnyddio cysylltnodau mewn enwau lleoedd. Am esboniad llawn gweler adran 3 yng nghanllawiau safoni enwau lleoedd Comisiynydd y Gymraeg: https://www.comisiynyddygymraeg.cymru/polisi-ac-ymchwil/enwau-lleoedd 

 

Dynodi enwau gwladwriaethau, tiriogaethau a chenhedloedd diwladwriaeth

Egwyddorion

Dyma'r egwyddorion a ddilynir wrth bennu ffurfiau Cymraeg ar enwau gwladwriaethau, tiriogaethau a chenhedloedd diwladwriaeth, i'w rhoi yn TermCymru. Dylid nodi mai pennu ffurf benodol at ddibenion Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru a wneir, ac nad yw hynny’n golygu bod ffurfiau eraill yn annilys.

Dyma’r egwyddorion a ddilynir wrth benderfynu ar ffurfiau:

  1. Y nod yw dewis ffurfiau ymarferol sy’n taro cydbwysedd rhwng bod yn ddealladwy i gynulleidfaoedd amrywiol testunau Cymraeg Llywodraeth Cymru, a chydymffurfio â chonfensiynau orgraffyddol y Gymraeg.
  2. Dosberthir yr enwau i dri phrif gategori, yn y drefn hon: (1) ffurf sefydledig yn Gymraeg, (2) Cymreigiad o’r ffurf gynhenid neu’r ffurf Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig, (3) y ffurf gynhenid neu’r ffurf Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig. Ceir rhagor o fanylion am y categorïau yn y tabl isod.
  3. Yn gyffredinol o ran categori (2), rhoddir mwy o bwys ar gydnabod y ffurfiau hynny sydd eisoes yn gyfarwydd fel ffurfiau wedi’u Cymreigio mewn cyd-destunau penodol fel y newyddion, y cyfryngau, chwaraeon a diwylliant. Gochelir rhag Cymreigio ffurfiau oni bai bod rheswm da dros wneud hynny yn unol â’r egwyddorion, rhag amlhau ffurfiau a chyflwyno ffurfiau sy’n anghyfarwydd i’r gynulleidfa.
  4. Yn sgil egwyddor 3 ac yn sgil cysylltiadau daearyddol, diwylliannol, masnachol a gwleidyddol â Chymru, rhoddir ystyriaeth i Gymreigio pob un o enwau gwledydd yn Ewrop nad oes ganddynt eisoes ffurf sefydledig yn Gymraeg.
  5. Yn sgil egwyddor 3, sylwer y gallai’r penderfyniad ynghylch y ffurfiau i’w defnyddio yn Gymraeg newid dros amser, wrth i leoedd ddod yn fwy cyfarwydd mewn trafodaethau yn Gymraeg.

Ffurfiau sefydledig Cymraeg a ffurfiau a Gymreigiwyd

  • Yn gyffredinol, ni Chymreigir ffurfiau sydd angen mwy nag un neu ddau addasiad i’r orgraff er mwyn eu Cymreigio.
  • Yn gyffredinol, dylid naill ai Gymreigio’r enw cyfan, neu beidio â’i Gymreigio o gwbl: Kosovo, nid Kosofo.
O ran cytseiniaid
  • Mae’n arferol defnyddio’r llythyren f yn Gymraeg i gyfleu’r sain [v] a ddynodir gan y llythyren v yn Saesneg ar gychwyn ac yng nghanol enwau: Dinas y Fatican, nid Dinas y Vatican, Slofenia, nid Slovenia.
  • Mae’n llai arferol defnyddio’r llythyren c yn Gymraeg i gyfleu’r sain [k] a ddynodir gan y llythyren k yn Saesneg ar gychwyn enwau lleoedd tramor: Gogledd Korea, nid Gogledd Corea. Serch hynny, mae’n fwy arferol ei defnyddio felly yng nghanol enwau: Slofacia, nid Slovakia
  • Mae llai arferol trosi rhai cytseiniaid eraill i’r orgraff gyfatebol yn y Gymraeg, ar gychwyn ac yng nghanol enwau. Er enghraifft mae’n llai arferol Cymreigio enwau sy’n cynnwys llythrennau neu gyfuniadau fel y llythyren g i gyfleu’r sain [dʒ] (Gibraltar, Georgia), y llythyren q i gyfleu’r sain [k] (Martinique), y llythyren z i gyfleu’r sain [ts] (Bosnia a Herzegovina), a’r cyfuniad ti i gyfleu’r sain [ʃ] (Croatia).
  • Nid yw’n arferol defnyddio’r cyfuniad tsi i gyfleu’r sain [tʃ] ar gychwyn nac yng nghanol enwau llai cyfarwydd (Chad, Chile). Serch hynny, mae rhai enwau sydd eisoes yn sefydledig yn y Gymraeg yn defnyddio’r cyfuniad hwn ar gychwyn enwau (Y Weriniaeth Tsiec, Tsieina).
  • Nid yw’n arferol defnyddio’r llythyren s ar gychwyn nac yng nghanol enwau llai cyfarwydd i gyfleu’r seiniau [z] neu [s] (Zambia, Tanzania). Serch hynny, mae rhai enwau sydd eisoes yn sefydledig yn y Gymraeg yn defnyddio’r cyfuniad hwn (Seland Newydd, Brasil).
O ran llafariaid
  • Yn gyffredinol yn achos enwau a Gymreigir, dylid Cymreigio llafariaid er mwyn cyfleu’r ynganiad yn Gymraeg: Bwlgaria, Lithwania, Periw, Ciwba.
O ran marciau diacritig
  • Yn gyffredinol hepgorir marciau diacritig sy’n dangos yr aceniad mewn ffurfiau a Gymreigiwyd, a hynny er mwyn osgoi creu ffurfiau sydd yn fwy anghynefin na’r angen i ddefnyddwyr. Tybir y bydd y gynulleidfa yn gyfarwydd â’r ynganiad ac nad oes angen dangos lle mae’r acen yn syrthio: Fietnam, Irac, Pacistan, Belarws.
O ran y fannod
  • Gall y defnydd o'r fannod amrywio gyda rhai enwau, ac ystyrir y defnydd hwnnw wrth bennu'r ffurf safonol.

Ffurfiau cynhenid a ffurfiau Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig

  • Mae rhai ffurfiau cynhenid a ffurfiau Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig yn cyd-fynd â chonfensiynau orgraff y Gymraeg ac eithrio, efallai, farciau diacritig i ddynodi acen neu hyd llafariad: Estonia, Tonga, Iran, Jamaica. Gellid ystyried rhai o’r ffurfiau hyn yn rhai sefydledig Cymraeg ar sail eu cynefindra: Canada, India, Sweden.
  • Derbynnir bod llawer o enwau lleoedd tramor yn seiliedig ar ieithoedd nad yw eu seiniau, eu hynganiad, eu horgraff na’u morffoleg yn cyd-fynd â nodweddion a chonfensiynau’r Gymraeg. Oherwydd hyn, yn achos ffurfiau sy’n adlewyrchu’r ffurf gynhenid neu’r ffurf Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig:
  1. Derbynnir y gall yr arwyddion orgraffyddol gyfleu seiniau nad ydynt yn seiniau cynhenid i’r Gymraeg neu gallent gyfleu seiniau nad ydynt fel arfer yn cael eu cyfleu yn Gymraeg gan yr arwyddion hynny: Croatia, Lesotho, Niger.
  2. Derbynnir y gall rhai o’r arwyddion orgraffyddol a chlymau cytseiniol fod yn anghyfarwydd: Kyrgyzstan, Ynysoedd Åland, Djibouti.
  3. Derbynnir y gall yr acen syrthio ar sillafau nad ydynt yn gyfarwydd yn Gymraeg, heb nodau diacritig i ddynodi’r acenion hynny: Tajikistan, Mozambique, Paraguay.

Enwau lle y byddai modd mabwysiadu un o sawl ffurf wahanol

  • Yn achos enwau lle y byddai modd mabwysiadu un o sawl ffurf wahanol, dylid ystyried pa mor ymarferol fyddai creu tarddeiriau Cymraeg fel enwau ieithoedd neu hunaniaethau/pobloedd ar sail y ffurf a ddewisir. Er enghraifft, wrth ystyried Faroe Islands, dylid hefyd ystyried enw’r iaith Faroese neu’r hunaniaeth Faroese. Mae Ynysoedd Ffaro yn rhoi Ffaröeg a Ffaroaidd, ond anodd fyddai creu tarddeiriau Cymraeg dealladwy pe defnyddid Ynysoedd Føroyar neu Ynysoedd Faroe yn enw ar Faroe Islands.
  • Dylid osgoi amlhau ffurfiau. Wrth benderfynu ar ffurfiau lle ceir mwy nag un ffurf bosibl drwy ddilyn yr egwyddorion hyn, rhoddir ystyriaeth i ffurfiau rhestr Bwrdd yr Iaith Gymraeg o enwau lleoedd tramor (2011), ffurfiau yr Atlas Cymraeg Newydd (CBAC, 1999) a ffurfiau sydd eisoes yn TermCymru fel rhan o dermau eraill a safonwyd (ee enwau safonol anifeiliaid a phlanhigion).

Cyfieithu a throsi elfennau i’r Gymraeg

  • Ni waeth ym mha gategori y mae’r enw, cyfieithir yr elfennau canlynol:
    1. elfennau cyffredinol megis Ynysoedd, Gweriniaeth, Tiroedd.
    2. ansoddeiriau: Guinea Gyhydeddol, Seland Newydd.
    3. cysyllteiriau: St Kitts a Nevis.
    4. pwyntiau’r cwmpawd a geiriau lleoliadol: Gogledd Korea, Ynysoedd Sandwich y De, Gweriniaeth Canolbarth Affrica.
    5. elfennau disgrifiadol a meddiannol: Ynys y Nadolig, Ynysoedd Prydeinig y Wyryf, Polynesia Ffrengig.
  • Ni throsir enwau personol i’r Gymraeg: Ynysoedd Marshall. Nac ychwaith enwau seintiau: St Lucia, Sint Maarten.

Materion ymarferol wrth ddefnyddio enwau

  • Rhaid gwerthfawrogi bod enwau gwledydd yn gallu bod yn wleidyddol sensitif. Os oes dwy iaith swyddogol a dwy ffurf bosibl ar enw yn sgil hynny, dylid dilyn y testun gwreiddiol wrth gyfieithu. Er enghraifft, os rhoddir ‘New Zealand (Aotearoa)’ yn y Saesneg, dylid rhoi’r ddwy ffurf ‘Seland Newydd (Aotearoa)’ yn y Gymraeg. Os na roddir ond un ffurf yn y gwreiddiol, dylid ystyried bwriad yr awdur wrth benderfynu ar ba ffurf i’w dewis ar gyfer y testun Cymraeg.
  • Mae enwau a chyd-destunau gwleidyddol enwau yn gallu newid ac yn gallu amrywio: Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo (gynt Zaire), Eswatini (gynt Gwlad Swazi). Oherwydd hyn, sylwer y gallai’r penderfyniad ynghylch y ffurf i’w ddefnyddio yn Gymraeg newid.
  • Gall fod yn anodd penderfynu a ddylid treiglo enwau tramor. Yn gyffredinol, argymhellir treiglo ffurfiau sydd yng nghategorïau (1) a (2). Argymhellir peidio â threiglo’r rhan fwyaf o’r ffurfiau sydd yng nghategori (3) ond dylid arfer crebwyll o ran treiglo enwau o’r fath sy’n cyd-fynd ag orgraff y Gymraeg. Mae’n gyffredin treiglo ambell un sy’n gyfarwydd yn Gymraeg: i Ganada ond nid yw’n gyffredin treiglo eraill: i Trinidad a Tobago, o Malawi, yn Botswana.

Tabl o'r categoriau

Categori Treiglo Acennu Pa fath o leoedd
1

Ffurf sefydledig Gymraeg

Gall hyn gynnwys enwau lle cyfieithwyd pob elfen
Confensiynau arferol y Gymraeg Confensiynau arferol y Gymraeg

Lleoedd sydd ag enwau traddodiadol yn Gymraeg (ond gan osgoi ffurfiau hynafiaethol).

Ffrainc, Gwlad Pwyl, Denmarc, Ariannin, Yr Aifft

Lleoedd sydd ag enwau cwbl ddisgrifiadol yn y ffurf gynhenid neu’r ffurf Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig.

Ynys y Nadolig, Y Tiriogaethau Deheuol Ffrengig
2 Cymreigiad o ffurf gynhenid neu ffurf Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig Confensiynau arferol y Gymraeg Osgoi acennu yn gyffredinol

Lleoedd lle nad yw’r ffurf a Gymreigiwyd yn ffurf sefydledig yn Gymraeg, ond

(i) bod y lle yn Ewrop

Lithwania, Slofenia, Wcráin.

(ii) bod y ffurf a Gymreigiwyd eisoes yn gyfarwydd mewn cyd-destunau penodol fel y newyddion, y cyfryngau, chwaraeon a diwylliant

Affganistan, Ffiji, Ciwba, Mecsico
3

Enwau nad ymdrechwyd eu Cymreigio, lle y cadwyd y ffurf gynhenid neu’r ffurf Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig

Sylwer bod cyfran o’r ffurfiau hyn yn cyd-fynd â chonfensiynau orgraff y Gymraeg (gyda neu heb farciau diacritig)

Estonia, Tonga, Iran, Jamaica.

Gellir ystyried rhai o’r ffurfiau hyn yn rhai sefydledig Cymraeg ar sail eu cynefindra:

Canada, India, Sweden.

Dim treiglo

Serch hynny, dylid arfer crebwyll yn achos ffurfiau sy’n cyd-fynd â chonfensiynau  orgraff y Gymraeg.

Bydd yn gyffredin treiglo ambell un sy’n sefydledig yn Gymraeg (ee Canada) ond nid y rhelyw (ee Botswana, Trinidad a Tobago, Malawi)
Acennu yn ôl y ffurf gynhenid neu’r ffurf Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig

Lleoedd nad oes ganddynt enw sefydledig Cymraeg, ac nad yw’n briodol eu Cymreigio o dan yr egwyddorion

Libya, Qatar, Réunion, Chile, Tuvalu, Kenya

Mae’n bosibl y bydd ambell elfen o enw o’r fath wedi ei chyfieithu

De Korea, Ynysoedd Åland, Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo.

 

italeiddio geiriau mewn ieithoedd heblaw’r Gymraeg

Yr arfer gyffredinol yng ngwaith Llywodraeth Cymru yw rhoi geiriau neu ymadroddion mewn unrhyw iaith heblaw’r Gymraeg mewn llythrennau italaidd. Un rheswm dros wneud hyn yw oherwydd nad yw’r orgraff yn dangos i’r darllenydd sut mae ynganu’r gair, ee ensemble.

Nid oes angen italeiddio geiriau â’u tarddiad mewn ieithoedd tramor os ydynt wedi’u cymhathu’n llwyr i’r Gymraeg, ee ‘agenda’. Ar y llaw arall, nid yw bob amser yn amlwg pryd mae hyn wedi digwydd. Gallai rhai ystyried bod ‘pizza’ yn air digon cyffredin i’w adael heb ei italeiddio. Efallai bod fettucine, ar y llaw arall yn llai cyfarwydd. Ar adegau felly bydd rhaid penderfynu yn ôl cyd-destun y darn dan sylw.

Dyma rai pwyntiau i’w cadw mewn cof wrth benderfynu.

  • Nid yw’n arfer italeiddio enwau priod, ee teitlau dogfennau ac ati.
  • Gall diwyg y testun olygu weithiau na fyddai’n briodol italeiddio. Pe bai’r Gymraeg a’r Saesneg ochr yn ochr, ee mewn gwahoddiad, bwydlen ac ati, gallai edrych yn rhyfedd petae’r naill wedi’i italeiddio a’r llall ddim.
  • Nid yw geiriau Ffrangeg na Lladin yn cael eu hitaleiddio mewn deddfwriaeth Gymraeg na Saesneg.
  • Caiff rhai termau eu hitaleiddio bob amser, ee enwau Lladin ar blanhigion ac anifeiliaid.
  • Mae TermCymru yn cynnwys rhai termau y mae angen eu hitaleiddio, ond nid oes modd dangos hynny yn y gronfa am resymau technegol ee status quo. Rhoddir nodyn gyda’r cofnod mewn achosion fel hyn.

orgraff

Dilynir egwyddorion a sillafiadau Orgraff yr Iaith Gymraeg yn y lle cyntaf a Geiriadur Prifysgol Cymru os nad yw’r gair yn yr Orgraff.

termau slangaidd

Wrth gyfieithu testun sy’n cynnwys termau slangaidd Saesneg, mae angen cyfleu’r cysyniad dan sylw’n gywir, gan sicrhau bod yr ieithwedd mor addas â phosibl i gynulleidfa a diben y darn. 

Mae termau slangaidd yn aml yn tarddu o ieithwedd lafar, anffurfiol, sydd fel rheol yn gyfyngedig i gyd-destunau penodol neu grwpiau penodol o bobl – ond gallant fagu defnydd mewn testunau ysgrifenedig swyddogol. Mae hynny’n dueddol o ddigwydd mewn meysydd lle gwelir dylanwad arbennig gan bobl ifanc. Ymysg y meysydd hyn mae ymddygiad ar-lein, carwriaethol a rhywiol (gan gynnwys ymddygiadau maleisus neu droseddol), a meysydd niwrowahaniaeth, rhywioldeb, rhywedd, a thechnoleg newydd. 

O ran eu ffurfiant, mae tuedd gref i dermau slangaidd Saesneg fod yn eiriau cyfansawdd (ee lovebombing), yn portmanteaux (ee sextortion), yn dalfyriadau o derm ffurfiol hirach (ee stimming), yn ddefnydd ffigurol o iaith (ee catfishing) a/neu yn chwarae ar eiriau yn orgraffyddol (ee phishing). O bryd i’w gilydd byddant yn cynnwys cyfeiriadau diwylliannol penodol (ee gaslighting). 

Wrth bennu termau ac ymadroddion Cymraeg ar gyfer y cysyniadau a ddynodir gan y labeli hyn, dylid cymhwyso’r meini prawf hyn:

  • Dylai’r term Cymraeg gyfleu’r un cysyniad â’r term Saesneg yn gyflawn ac yn fanwl-gywir (gan ystyried holl bosibiliadau’r term Saesneg o ran ystyr; gall y term Saesneg olygu mwy na’i ystyr lythrennol)
  • Dylai’r term fod yn ddealladwy, ac yn hawdd ei gyfateb i’r term Saesneg – wrth ddarllen y term Cymraeg dylai darllenwyr allu gwybod beth yw’r term Saesneg cyfatebol a’r cysyniad dan sylw
  • Os yw’r term Cymraeg yn addasiad o’r un Saesneg, dylai’r term Cymraeg roi sylw dyledus i etymoleg y term Saesneg
  • Dylai’r term Cymraeg fod yn gystrawennol-, orgraffyddol- a gramadegol-gonfensiynol yn Gymraeg, ac ni ddylai fod yn rhy dafodieithol
  • I’r graddau y mae’n bosib, dylai’r term Cymraeg fod mor gryno, ac mor hawdd ei ddefnyddio mewn brawddeg, â’r term Saesneg
  • Dylai’r term Cymraeg gyfleu’r un naws a chywair â’r term Saesneg, ond os nad yw hyn yn bosibl dylai’r term Cymraeg fod yn addas ar gyfer y gynulleidfa darged (ee ni ddylai fod yn fwy neu’n llai cymhleth na’r term Saesneg). 

Wrth bennu term Cymraeg, dylid ystyried opsiynau o’r mathau canlynol, gan ddewis yr opsiwn sy’n cwrdd â’r meini prawf uchod orau:

  • Defnyddio gair neu ymadrodd Cymraeg sy’n cyfleu’r cysyniad, ond nad yw o angenrheidrwydd yn cyfateb i'r term Saesneg o ran ei ffurfiant – gorau oll os oes term cyffredin yn Gymraeg eisoes
  • Cyfieithu’r term Saesneg yn llythrennol – yn enwedig os bydd y term Saesneg yn gyfarwydd a bod ystyr y cysyniad yn glir o’r term
  • Cymreigio sillafiad y term Saesneg yn llwyr neu’n rhannol, gan gynnwys defnyddio terfyniad berfol Cymraeg ar fôn sy’n seiliedig ar air Saesneg a Gymreigiwyd.     

Gellir ychwanegu aralleiriad o’r term i'r testun, neu gynnwys y term Saesneg mewn cromfachau, os yw hynny’n angenrheidiol er mwyn gwneud y term yn fwy dealladwy, neu i amlygu’r gyfatebiaeth â’r term slangaidd Saesneg. 

Yn yr amgylchiadau prin pan na ellir dod o hyd i derm Cymraeg sy’n cwrdd â’r meini prawf yn foddhaol, gellir defnyddio aralleiriad a/neu’r term Saesneg (mewn dyfynodau neu destun italig) yn y testun Cymraeg. Pan fo termau slangaidd wedi eu cynnwys yn TermCymru, mae’n bosib y nodir aralleiriadau posibl yn y blwch ‘Nodiadau’, ond ni fyddwn bellach yn cynnwys aralleiriadau fel termau yn y gronfa.

y / yr / 'r

Mae angen rhoi ‘y/yr’ o flaen teitl neu swydd: 
yr Athro Dafydd Dafis
Jane Davidson, y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes
yr Arglwydd Hutton
 (ond ddim o flaen ‘Arglwydd + enw lle’, ee 'Arglwydd 
     Tonypandy')

Mae angen rhoi’r fannod o flaen enwau ieithoedd: 
y Gymraeg, y Saesneg, yr Eidaleg

Gyda llythyren fach yr ysgrifennir y fannod mewn teitlau neu enwau lleoedd yng nghanol brawddeg:
Gwelais ef yn y Bala, nid ‘Gwelais ef yn Y Bala’, 
Anfonwch ef at y Llywydd, nid ‘Anfonwch ef at Y Llywydd’

Mae angen priflythyren mewn cyfeiriad: 
25 Stryd y Bont, Y Barri

Geiriau â'r ddeusain 'wy':
Er cysondeb, arfer y Gwasanaeth Cyfieithu yw glynu at ddefnyddio 'yr' o flaen geiriau sy'n cychwyn â'r ddeusain 'wy', fel 'yr wybodaeth, 'yr Wyddeleg' ac 'yr wynebau'. Am ragor o wybodaeth, gweler Orgraff yr Iaith Gymraeg (tt. 45-7) a Gramadeg y Gymraeg Peter Wynn Thomas, tt. 787-8.

Cwestiynau adferfol: ‘sut’, ‘pryd’, beth’ etc (gweler hefyd yr erthygl 'cyweiriau')

  • Mae angen cynnwys y geiryn ‘y’ (y rhagenw perthynol traws) yn y cywair ffurfiol: 
     Pryd y bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad? nid ‘pryd bydd/pryd fydd’
    Mewn cyweiriau eraill (heblaw’r cywair llafar), os penderfynir ei hepgor, rhaid cynnal y ffurf gysefin: 
     Sut cafodd y cynllun hwn ei gymeradwyo? nid ‘sut gafodd’
  • Mewn brawddegau perthynol mae angen cynnwys ‘y/yr’ o flaen ‘mae’: 
     y siop y mae’r pentrefwyr wedi ei hagor

Nid oes angen ‘y/yr’ (y geiryn rhagferfol) o flaen ‘mae’ na ‘maent’ ond lle bo angen defnyddio’r cywair clasurol.

Y fannod ar ôl geiriau sy’n gorffen mewn llafariaid

Y ffurf ar y fannod a ddefnyddir ar ôl gair sy’n gorffen mewn llafariad yw ‘-‘r’. Nid rhywbeth sy’n gyfyngedig i’r cywair anffurfiol neu lafar mo hyn, dyma’r drefn arferol. Mae’r rheol hon yr un mor berthnasol i’r fannod mewn enwau lleoedd ag i bob bannod arall.

Mae modd defnyddio ‘y’ neu ‘yr’ pan fo pwyslais, ystyr neu rythm y frawddeg yn golygu bod hynny’n llifo’n rhwyddach, ond eithriad yw hynny, ee

Dewch yma, y twyllwyr.