Yr arddulliau cyffredinol a deddfwriaethol
Mae’r cyngor yn yr Arddulliadur yn berthnasol i’n gwaith cyfieithu ar gyfer testunau cyffredinol. Y Canllawiau Arddull Deddfwriaethol sy’n berthnasol i’n gwaith ar destunau deddfwriaethol (deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth, ar ffurf rheoliadau a gorchmynion).
Weithiau ceir erthyglau ar bynciau yn yr Arddulliadur nad oes erthyglau cyfatebol iddynt yn y Canllawiau, ac i’r gwrthwyneb. Er enghraifft, mae erthygl yn yr Arddulliadur ar dreiglo ‘bod’. Nid oes erthygl gyfatebol yn y Canllawiau, ond mae’r cyngor yn yr Arddulliadur yn berthnasol i gyfieithu deddfwriaethol hefyd. Yn yr un modd, mae erthygl yn y Canllawiau ar dreiglo testun sydd rhwng dyfynodau, ond nid oes erthygl gyfatebol yn yr Arddulliadur.
Mae peth tir cyffredin rhwng y Canllawiau ac Arddulliadur y Gwasanaeth Cyfieithu. Er enghraifft, o ran cenedl enwau, mae’r Canllawiau a’r Arddulliadur ill dau yn cytuno ein bod fel arfer yn dilyn y genedl a nodir yn gyntaf yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru. Ond o ran byrfoddau ac acronymau, er enghraifft, ceir cyngor gwahanol yn yr Arddulliadur i’r hyn a geir yn y Canllawiau.
Os ydych yn cyfieithu deddfwriaeth, a bod yr Arddulliadur yn rhoi cyngor gwahanol, dylech ddilyn y cyngor yn y Canllawiau Arddull Cyfieithu Deddfwriaethol.
Gall fod yn ddefnyddiol cyfeirio at y Canllawiau Arddull Deddfwriaethol wrth gyfieithu testunau lled-ddeddfwriaethol – hy, testunau sy’n gysylltiedig â deddfwriaeth, megis Cynigion a Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a Memoranda Esboniadol, neu rai sydd mewn arddull lai ffurfiol ond sydd â pheth grym cyfreithiol, megis Cyfarwyddydau a Chodau Ymarfer. Wrth gyfieithu testunau lled-ddeddfwriaethol felly, rhaid pwyso a mesur i ba arddull y mae’r ddogfen yn perthyn ac i ba raddau y mae’n briodol glynu at y ffurfiau a argymhellir yn y Canllawiau Arddull Deddfwriaethol, yn hytrach na’r hyn a argymhellir yn yr Arddulliadur, neu’n ogystal â hynny.
Cyweiriau cyffredinol
Rydym wedi dosbarthu’r cyweiriau a ddefnyddiwn yn ein gwaith cyffredinol yn bedwar prif gategori: y cywair clasurol, y cywair ffurfiol, y cywair anffurfiol a’r cywair llafar/anffurfiol iawn.
Mae mwyafrif yr egwyddorion a nodir mewn erthyglau eraill yn yr Arddulliadur yn berthnasol i bob cywair, ee defnyddir atalnodi agored (dim collnodau wrth ollwng llythrennau, dim atalnodau ar ôl byrfoddau ee hy ac etc) ac ni ddefnyddir ffurfiau lluosog ansoddeiriau (ee ‘pobl ifainc’) heblaw pan fo hynny’n arferol iawn.
Pan fo mwy nag un dewis, cofiwch gadw cysondeb ffurfiau o fewn yr un darn neu gyfres o ddarnau.
1. Y cywair clasurol
Mathau o waith:
- deunyddiau seremonïol ee proclamasiynau
- deunyddiau ffurfiol iawn ee memoranda cyd-ddealltwriaeth, trwyddedau.
Nodweddion:
- ‘Yr wyf’, ‘y mae’, ‘yr oedd’ etc
- ‘Hwy’ nid ‘nhw’ (ond ‘chi’, nid ‘chwi’).
- Fel arfer, defnyddir ffigurau ar gyfer rhifolion a dyddiadau, ond mewn rhai amgylchiadau fe’u hysgrifennir mewn geiriau, gan ddilyn y system ugeiniol.
Fel arall, mae i’r cywair clasurol yr un nodweddion â’r cywair ffurfiol.
2. Y cywair ffurfiol
Dyma’r cywair a ddefnyddir ar gyfer y rhan fwyaf o ddeunyddiau’r Llywodraeth, ee:
- papurau pwyllgorau
- papurau’r Cabinet
- deunyddiau recriwtio, gan gynnwys hysbysebion swyddi
- adroddiadau blynyddol
- dogfennau polisi
- rhai holiaduron a ffurflenni
- llythyrau.
Nodweddion:
- ‘Rwyf yn’ neu ‘Rwy’n’, nid ‘Rydw i’n’ na ‘Dw i’n’. ‘Rydych’ a ‘Rydym’ nid ‘Rych’ a ‘Rym’.
- Defnyddio’r rhagenwau personol annibynnol (‘fi’, ‘hi’, ‘nhw’) ar ôl y ferf a’r arddodiad er mwyn pwysleisio’n unig, ee ‘Yn wahanol i’r llywodraeth flaenorol, rydym ni’n barod i gymryd cyfrifoldeb’, ‘Cyfeiriwyd y mater ato ef [yn unig]’.
- Wrth ddefnyddio’r rhagenwau personol annibynnol ar ôl y ferf a’r arddodiad, peidio â chysoni cytsain olaf y terfyniad berfol neu arddodiadol i gyd-fynd â chytsain ddechreuol y rhagenw (‘byddem ni’ nid ‘bydden ni’)
- Ffurfiau cryno’r ferf fel arfer, ee ‘Deallwn’ nid ‘Rydym yn deall’
- Peidio â rhoi ‘y’ o flaen ‘mae’ / ‘yr’ o flaen ‘oedd’, ac eithrio mewn brawddegau perthynol (‘Ar hyn o bryd, mae’r Llywodraeth yn ymgynghori’ ond ‘Dyma’r mater y mae’r Llywodraeth yn ymgynghori yn ei gylch’)
- Osgoi defnyddio’r geiryn rhagferfol – ‘Cynhaliwyd cyfarfod’ nid ‘Fe gynhaliwyd cyfarfod’. Os oes rhaid ei gael er mwyn gwneud yr ystyr yn gliriach, ‘fe’ nid ‘mi’
- Osgoi defnyddio ‘yna’ pwysleisiol – ‘Bu ymgynghoriad’ nid ‘Bu yna ymgynghoriad’. Os oes rhaid ei gael er mwyn gwneud yr ystyr yn gliriach, ‘yna’ nid ‘’na’
- ‘Hwn’ neu ‘hon’, nid ‘yma’ – ‘y ffurflen hon’ nid ‘y ffurflen yma’
- Defnyddio’r geiryn holiadol ‘a’ – ‘A ydych yn’ nid ‘Ydych chi’n’
- Defnyddio’r geiryn ‘y’ ar ôl ‘beth’, ‘sut’, ‘pryd’ etc, ee ‘Dyma pryd y cynhaliwyd y digwyddiad’.
3. Y cywair anffurfiol
Mathau o waith:
- datganiadau i’r wasg
- rhai hysbysebion (nid hysbysebion swyddi)
- llenyddiaeth ymgyrchoedd cyhoeddus, ee ymgyrchoedd gwrth-smygu, diogelwch ar y ffyrdd
- deunyddiau ar gyfer disgyblion ysgol
- rhai taflenni hysbysrwydd
- rhai holiaduron a ffurflenni
- posteri, sticeri
Nodweddion:
- ‘Rwy’n’, ‘Wy’n’, ‘Rydw i’n’ neu ‘Dw i’n’, nid ‘Rwyf yn’. ‘Rydych chi’n’ neu ‘Rych chi’n’, a ‘Rydyn ni’n’ neu ‘Ryn ni’n’, nid ‘Rydych yn’ a ‘Rydym yn’. ‘Dyw e ddim’ neu ‘Dydi e ddim’, nid ‘Nid yw’
- Defnyddio’r rhagenwau personol annibynnol (‘fi’, ‘hi’, ‘nhw’) yn fwy aml ar ôl y ferf a’r arddodiad, ee ‘Rydyn ni’n falch o gyhoeddi...’, ‘Dewch aton ni’.
- Wrth ddefnyddio’r rhagenwau personol annibynnol ar ôl y ferf a’r arddodiad, cysoni cytsain olaf y terfyniad berfol neu arddodiadol i gyd-fynd â chytsain ddechreuol y rhagenw (‘bydden ni’ nid ‘byddem ni’)
- Ffurfiau cwmpasog y ferf fel arfer, ee ‘Rydyn ni’n deall’ nid ‘Deallwn’
- Peidio â rhoi ‘y’ o flaen ‘mae’ / ‘yr’ o flaen ‘oedd’, hyd yn oed mewn brawddegau perthynol (‘Dyna’r broblem fwyaf roedden ni’n ei hwynebu’ nid ‘Dyna’r broblem fwyaf yr oedden ni’n ei hwynebu’)
- Defnyddio’r geiryn rhagferfol – ‘Fe gynhaliwyd cyfarfod’ nid ‘Cynhaliwyd cyfarfod’. ‘Fe’ nid ‘mi’.
- Defnyddio ‘yna’ pwysleisiol – ‘Bu ymgynghoriad’ nid ‘Bu yna ymgynghoriad’. ‘Yna’ nid ‘’na’
- ‘Yma’ nid ‘hwn’ neu ‘hon’ – ‘y ffurflen yma’ nid ‘y ffurflen hon’. ‘Yma’ nid ‘’ma’
- Peidio â defnyddio’r geiryn holiadol ‘A’ – ‘Ydych chi’n’ nid ‘A ydych chi’n’
- Peidio â defnyddio’r geiryn ‘y’ ar ôl ‘beth’, ‘sut’, ‘pryd’ etc, ee ‘Dyma pryd cynhaliwyd y digwyddiad’.
- Ar adegau, gellir defnyddio’r cymal negyddol llafar ‘sydd ddim’ yn hytrach nag ‘nad ydyn nhw’ os oes angen llawer o ystwythder, ond nodwedd anffurfiol iawn yw hon fel arfer.
4. Y cywair llafar (neu anffurfiol iawn)
Mathau o waith:
- sgriptiau ymgyrchoedd teledu
- isdeitlau ar gyfer ymgyrchoedd teledu
- rhai posteri/pamffledi
- gemau/cartwnau
Ar y cyfan, mae i’r cywair llafar yr un nodweddion â’r cywair anffurfiol, gyda’r gwahaniaethau a ganlyn:
- Gellir defnyddio ffurfiau tafodieithol ar y ferf, ee ‘So fe’ yn hytrach na ‘Dyw e ddim’
- Gellir defnyddio rhagenwau tafodieithol, ee ‘Ma fe’ neu ‘Mae o’
- Gellir defnyddio ‘’na’ neu ‘’ma’ yn hytrach nag ‘yna’ neu ‘yma’
- Gellir hepgor llythrennau ar ddechrau a diwedd geiriau, ee ‘Ma fe’, ‘posib’, ‘cyfri’
- Gellir defnyddio ffurfiau cywasgedig, ee ‘pnawn’ yn hytrach na ‘prynhawn’, ‘sgwennu’ yn hytrach na ‘sgrifennu’ neu ‘ysgrifennu’
- Gellir cywasgu geiriau, ee ‘Sdim’ neu ‘Snam’ yn hytrach na ‘Does dim’
- Yn ogystal â hepgor y geiryn ‘y’ gellir treiglo ar ôl ‘pryd’, ‘sut’ etc, ee ‘Dyma pryd/sut fydd e’n digwydd’ nid ‘Dyma pryd/sut bydd yn digwydd’
- Gellir defnyddio llafariaid ymwthiol, ee ‘pobol’, ‘cwbwl’, ‘sobor’
- Gellir defnyddio geirynnau rhagferfol tafodieithol, ee ‘Mi aeth o’
- Gellir defnyddio amrywiadau tafodieithol yn hytrach na’r ffurfiau mwy safonol, ee ‘taw’ yn hytrach na ‘mai’, ‘efo’ yn hytrach na ‘gyda’, ‘mâs’ yn hytrach nag ‘allan’, ‘lan’ yn hytrach nag ‘i fyny’, ‘rŵan’ yn hytrach na ‘nawr’, ‘ffaelu’ yn hytrach na ‘methu’.
- Pan geir amrywiadau tafodieithol sydd yr un mor safonol â’i gilydd, ee ‘iau’ ac ‘afu’, gellir dewis y ffurf fwyaf addas i’r siaradwr neu’r gynulleidfa, neu gynnwys y ddwy ffurf yn y testun.
